Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gofal plant ar gyfer plentyn anabl

Wrth feddwl am ofal plant ar gyfer plentyn anabl, bydd nifer o’r ystyriaethau yr un fath ag ar gyfer unrhyw blentyn arall. Mae rhai pethau ychwanegol i chi feddwl amdanynt, megis hyfforddiant arbenigol neu anghenion meddygol plentyn. Yma, cewch wybod am wahanol fathau o ofal plant.

Pethau i'w hystyried

Beth bynnag yw oedran, gallu neu amgylchiadau'r plentyn, mae'n debyg y bydd pob rhiant yn meddwl am y canlynol:

  • pa fath o ofal plant a fyddai'n gweithio orau ar gyfer eich teulu chi – gwarchodwr plant, meithrinfa ynteu ofal ar ôl ysgol?
  • a yw’r gofalwr wedi'i gofrestru â’r Swyddfa Safonau mewn Addysg (Ofsted)?
  • a fydd gweithgareddau'n addas ar gyfer gallu eich plentyn?
  • a yw'r gofalwr/y lleoliad yn ddiogel ac yn gyfeillgar ac a fyddech chi'n tybio y byddai'ch plentyn yn hapus yn yr amgylchedd?

Efallai y bydd angen i chi feddwl hefyd am gwestiynau megis:

  • a oes gan y gofalwr brofiad o warchod plentyn ag anabledd tebyg, ac os nad yw'r gofalwr yn meddu ar y profiad hwnnw, a fyddai’n fodlon i chi ddangos beth y bydd angen iddo ei wneud?
  • faint o ofal arbenigol y bydd ei angen ar eich plentyn ac a oes hyfforddiant priodol ar gael yn lleol?
  • a fydd gan eich plentyn therapi neu apwyntiadau y bydd angen iddo fynd iddynt yn ystod yr amser y bydd yn cael ei warchod ac a fyddai eich cylch chwarae, eich meithrinfa neu'ch ysgol yn gallu danfon eich plentyn i'r apwyntiadau hyn?

Gwneud yn fawr o ofal plant

Chi yw'r arbenigwr ar eich plentyn. I wneud yn fawr o ofal plant:

  • rhowch wybodaeth eglur a manwl i'r gofalwr am anghenion, meddyginiaeth, apwyntiadau, hoff bethau a chas bethau eich plentyn
  • cymerwch eich amser ac ymwelwch â'r gwarchodwr plant, yr ysgol feithrin, y cylch chwarae neu'r feithrinfa – fwy nag unwaith os dymunwch
  • cytunwch ar gyfnod ‘ymgyfarwyddo’ lle y byddwch yn gadael eich plentyn am gyfnodau byr nes eich bod yn teimlo'n gyfforddus ynglŷn â’u gadael am y sesiwn gyfan
  • os ydych chi ar y rhaglen Cymorth Cynnar ac os oes gennych chi Ffeil Deulu, dangoswch hon i'r gofalwr

Plant gydag anghenion meddygol

A fydd angen hyfforddiant neu offer arbenigol ar y gofalwr? Yn aml, mae angen hyfforddiant penodol ar ofalwyr er mwyn iddynt allu rhoi meddyginiaeth.

Os yw eich doctor, eich nyrs neu eich ymwelydd iechyd wedi dangos i chi sut i roi meddyginiaeth i’ch plentyn, gallwch ofyn iddo roi'r hyfforddiant hwn i ofalwr newydd eich plentyn hefyd.

Dylai eich gweithiwr cymdeithasol neu'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) lleol allu dweud mwy wrthych.

Gwasanaethau Gwybodaeth Plant ac addysg gynnar

Bydd gan eich Gwasanaeth Gwybodaeth Plant lleol fanylion am y dewis llawn o ofal plant a chyfleoedd addysg gynnar yn eich ardal leol. Efallai y gallant hefyd roi gwybod i chi am wasanaethau arbenigol eraill a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer eich plentyn oherwydd ei anabledd, megis y rhaglen Cymorth Cynnar.

Mae gan bob plentyn dros dair mlwydd oed yr hawl i le rhan-amser di-dâl mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, er enghraifft meithrinfa, cyn iddynt gael eu trosglwyddo i ysgol amser llawn.

Os oes arnoch eisiau gofal dydd amser llawn, efallai y bydd modd i chi dalu am oriau ychwanegol fel y gallwch chi gychwyn gweithio, dychwelyd i'r gwaith neu gymryd seibiant oddi wrth eich cyfrifoldebau gofalu.

Gallwch chwilio am wybodaeth ynghylch gofal plant yn eich ardal chi drwy edrych ar wefan ChildcareLink.

Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn

Mae Canolfannau Plant Cychwyn Cadarn yn dod â nifer o wasanaethau at ei gilydd mewn un lle. Maent yn aml yn cynnwys gwasanaethau iechyd a gofal plant ar gyfer plant sydd ag anghenion arbennig.

Meithrinfeydd dydd

Ar gyfer plant hyd at bum mlwydd oed y mae meithrinfeydd awdurdodau lleol fel arfer. Rhoddir lleoedd i’r plant sydd â’r angen mwyaf amdanynt.

Siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol i weld a oes lle yn un o feithrinfeydd eich awdurdod lleol. Efallai y cynigir lleoliad rhan-amser di-dâl i chi ac y gallwch dalu swm ychwanegol i'w wneud yn lleoliad amser llawn os ydych chi'n dymuno.

Efallai y gallwch hefyd ddod o hyd i le i'ch plentyn mewn meithrinfa ddydd breifat.

Ysgolion meithrin neu gylchoedd chwarae

Mae ysgolion meithrin yn darparu gofal ac addysg gynnar ar gyfer plant tair mlwydd oed i bum mlwydd oed. Mae sesiynau yn aml yn para o ddwy awr a hanner i bedair awr, er bod rhai nawr yn dechrau cynnig lleoedd amser llawn. Mae’r rhan fwyaf ar agor yn ystod tymor yr ysgol yn unig, ond chwiliwch yn lleol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Megis gyda meithrinfeydd dydd, fel arfer, bydd lleoliadau addysg gynnar rhan-amser di-dâl ar gael ac mae'n bosib y byddai modd darparu cefnogaeth ychwanegol i blant anabl drwy gyfrwng eich Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) lleol.

Clybiau y tu allan i'r ysgol

Ceir nifer o glybiau y tu allan i'r ysgol ac mae rhai ysgolion wedi datblygu i fod yn 'ysgolion estynedig', sy'n cynnig clybiau brecwast (o 8.00 am) a chlybiau ar ôl ysgol (gan amlaf tan 6.00 pm). Gallwch holi'r ysgol y bydd eich plentyn yn ei mynychu er mwyn gweld a oes clybiau ar gael.

Gwarchodwyr plant

Bydd gwarchodwyr plant yn gofalu am blant yng nghartref y gwarchodwr. Byddant fel arfer yn rhieni eu hunain ac o bosib wedi gofalu am blentyn anabl o'r blaen.

Ymwelwch â'r gwarchodwr plant er mwyn profi'r amgylchedd a gweld a yw'r plant eraill yn hapus wrth chwarae. Siaradwch â'r gwarchodwr am y mathau o weithgareddau y bydd yn eu gwneud ac am y gofal y bydd ei angen ar eich plentyn. Gallwch ddefnyddio gwarchodwr plant ar gyfer gofal drwy'r dydd neu ofal cyn ysgol neu ar ôl ysgol.

Gofalwyr plant yn y cartref

Gwarchodwyr plant cofrestredig yw gofalwyr plant yn y cartref, sy’n dod i ofalu am eich plentyn yn eich cartref chi. Mae’r gwasanaeth hwn wedi cael ei gyflwyno’n ddiweddar mewn rhai ardaloedd.

Cael gwybod am ofal plant cyn ac ar ôl ysgol yn lleol

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion lle'r ydych yn byw cyn mynd â chi at wefan eich cyngor lleol lle gallwch gael mwy o wybodaeth am ofal plant cyn ac ar ôl ysgol yn eich ardal chi. Dylid nodi mai dim ond ar gyfer cynghorau yn Lloegr y mae'r gwasanaeth hwn ar gael.

Gwahaniaethu

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yn nodi dau brif ddyletswydd ar gyfer darparwyr gofal plant:

  • ni ddylent drin plentyn anabl mewn modd ‘llai ffafriol’
  • dylent wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer plant anabl

Gall trafod anghenion eich plentyn gyda’r darparwr gofal plant arwain, yn aml, at ddealltwriaeth well o sut y gellir rheoli’r anghenion hyn. Mae'n bosib y byddwch yn dymuno cynnwys, er enghraifft, therapydd galwedigaethol neu seicolegydd.

Darparwyd gan Canolfanbydgwaith

Allweddumynediad llywodraeth y DU