Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud hawliad llys am arian: cyflwyniad

Os bydd rhywun mewn dyled i chi ac yn gwrthod talu, gallwch wneud hawliad llys i geisio cael eich arian yn ôl. Gallwch wneud hyn ar-lein, neu lawrlwytho ffurflen. Mynnwch wybod sut i wneud hawliad llys am arian sy'n ddyledus i chi.

Dewisiadau amgen yn lle mynd i'r llys

Gwyliwch fideo sy'n dangos sut y gall cyfryngu eich helpu i ddatrys anghydfod

Dylai cymryd camau cyfreithiol fod yn ddewis olaf pan fetho popeth arall. Yn gyntaf, ceisiwch:

  • siarad â'r unigolyn neu'r sefydliad y mae gennych anghydfod ag ef, neu ysgrifennu ato
  • rhoi cynnig ar ddewis amgen yn lle mynd i'r llys, fel 'cyfryngu'

Cyfryngu yw pan fydd rhywun yn helpu dwy ochr i ddatrys anghydfod, a gall fod yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i'r llys.

Cyn gwneud hawliad

Mae'n rhaid i chi roi cyfle i'r parti arall dalu drwy anfon llythyr rhybudd terfynol.

Y risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd camau cyfreithiol

Gall cymryd camau cyfreithiol gymryd misoedd a gall fod yn gostus

Gall cymryd camau cyfreithiol gymryd misoedd a gall fod yn gostus

Efallai y bydd yn rhaid i chi:

  • dalu ffioedd y llys
  • treulio amser yn paratoi eich achos
  • mynd i wrandawiad

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i'r llys a thalu ffi arall, er mwyn gorfodi dyfarniad os byddwch yn ennill ond bod yr ochr arall yn gwrthod talu. Efallai na fydd yr unigolyn sydd mewn dyled i chi yn gallu talu os yw'n ddi-waith neu'n fethdalwr, neu os yw'r cwmni wedi'i ddirwyn i ben.

Os nad ydych yn siŵr p'un a ddylech fwrw ymlaen â hawliad, ceisiwch gyngor cyfreithiol.

Sut i wneud hawliad

Er mwyn gwneud hawliad llys, gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio gwefan Money Claim Online
  • lawrlwytho ffurflen

Gall fod yn gyflymach ac yn haws gwneud yr hawliad ar-lein. Gallwch wneud hyn yn y rhan fwyaf o achosion.

Cael help gyda'r ffurflenni hawlio

Darllenwch y nodiadau canllaw sy'n dod gyda phob ffurflen, a sicrhewch eich bod yn llenwi'r ffurflenni'n gywir.

Ni fydd staff y llys yn gallu eich helpu, ond gallwch gael help a chyngor cyfreithiol am ddim gan y Gyngor ar Bopeth.

Gweithio allan y llog ar yr arian sy'n ddyledus i chi

Gallwch hawlio llog ar yr arian sy'n ddyledus i chi, sef 8 y cant y flwyddyn fel arfer. I weithio allan y llog, dilynwch y camau hyn:

Cam un: gweithio allan y llog blynyddol

Defnyddiwch y swm rydych yn ei hawlio a'i luosi â 0.08 (hynny yw, 8 y cant).

Er enghraifft, os oeddech yn hawlio £1,000, byddai'r llog blynyddol arno yn £80 (1000 x 0.08 = 80).

Cam dau: gweithio allan y llog dyddiol

Rhannwch eich llog blynyddol o gam un â 365 (nifer y diwrnodau mewn blwyddyn).

Yn yr enghraifft uchod, byddech yn rhannu £80 â 365 i gael y llog blynyddol, a fyddai'n tua 22c y diwrnod (80 / 365 = 0.2192).

Cam tri: gweithio allan cyfanswm y llog

Lluoswch y llog dyddiol o gam dau â nifer y diwrnodau y mae'r ddyled wedi bod yn ddyledus i chi.

Yn yr enghraifft uchod, ar ôl 50 diwrnod byddai'n £10.96 (50 x 0.2192).

Os oes angen help arnoch i weithio allan eich llog, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth.

Talu ffi'r llys

Bydd yn rhaid i chi dalu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd os ydych yn gwneud hawliad ar-lein

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i'r llys pan fyddwch yn gwneud hawliad.

Efallai y byddwch yn gallu cael help gyda'ch ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau ar sail prawf modd, fel Cymhorthdal Incwm. Darllenwch y daflen 'Ffioedd llys - oes rhaid i mi eu talu?'

Mae'r ffi yn seiliedig ar swm yr arian rydych yn ei hawlio, gan gynnwys llog.

Bydd defnyddio Money Claim Online yn rhatach nag anfon y ffurflen bapur. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu defnyddio Money Claim Online os ydych yn cael help gyda'ch ffioedd.

Ffioedd am hawliadau gan ddefnyddio’r ffurflen bapur neu Money Claim Online

swm yr hawliad os byddwch yn defnyddio ffurflen bapur os byddwch yn defnyddio Money Claim Online
hyd at £300 £35 £25
£300.01 i £500 £50 £35
£500.01 i £1,000 £70 £60
£1,000.01 i £1,500 £80 £70
£1,500.01 i £3,000 £95 £80
£3,000.01 i £5,000 £120 £100
£5,000.01 i £15,000 £245 £210
£15,000.01 i £50,000 £395 £340
£50,000.01 i £100,000 £685 £595

Dim ond hyd at £100,000 y gallwch ei hawlio drwy ddefnyddio Money Claim Online.

Ffioedd am wneud hawliadau sy'n werth mwy na £100,000

swm yr hawliad ffi’r llys
£100,000.01 i £150,000 £885
£150,000.01 i £200,000 £1,080
£200,000.01 i £250,000 £1,275
£250,000.01 i £300,000 £1,475
mwy na £300,000 £1,670

Os ydych yn gwneud hawliad ar-lein, bydd rhaid i chi dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd, ac ni ellir ad-dalu ffioedd. Os ydych yn defnyddio’r ffurflen bapur, gallwch dalu mewn arian parod, drwy archeb bost neu siec. Dylech wneud y siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd llys ychwanegol yn ddiweddarach - er enghraifft, os bydd gwrandawiad llys.

Ble i anfon y ffurflen hawlio

Ar ôl llenwi'r ffurflen, bydd angen i chi ei hanfon i’r cyfeiriad canlynol:

County Court Money Claims Centre
PO Box 527
Salford
M5 0BY

Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.

Ar ôl gwneud eich hawliad

Bydd yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn - y 'diffynnydd' – yn cael copi o’r ffurflen hawlio, a phecyn hawlio (ffurflenni a nodiadau canllaw).

Byddwch yn cael gwybod os caiff y ffurflen hawlio a'r pecyn ymateb eu dychwelyd i'r llys heb eu hagor. Bydd yr hawliad yn ddilys o hyd os defnyddiwyd cyfeiriad hysbys diwethaf y diffynnydd neu ei unig gyfeiriad hysbys.

Gallwch ddarllen mwy am beth i'w wneud pan fydd y diffynnydd yn ymateb i'r hawliad gan ddefnyddio'r dolenni isod.

Additional links

Beth sy’n digwydd yn ystod cyfryngu?

Gwyliwch fideo ar sut y gall cyfryngu eich helpu chi i ddatrys anghydfod

Cysylltiadau defnyddiol

Help a chyngor ynghylch materion arian a threth

Allweddumynediad llywodraeth y DU