Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prawf ymarferol tractor a cherbyd arbenigol

Mae'r prawf gyrru ar gyfer tractor neu gerbyd arbenigol wedi'i ddylunio i chi allu dangos eich bod yn gallu gyrru'n ddiogel a chwblhau ymarferion, a'ch bod yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr. Drwy gydol y prawf bydd eich arholwr yn chwilio am safon yrru ddiogel yn gyffredinol, gan gynnwys pan fyddwch yn gwneud yr ymarferion penodol.

Sut mae trefnu eich prawf

Ni fyddwch yn cael dyddiad prawf hyd nes y mae eich llwybr prawf gyrru a man cyfarfod wedi cael eu cadarnhau gydag arholwr gyrru. Dylech gael dyddiad eich prawf o fewn wyth wythnos o gysylltu â’r Asiantaeth Safonau Gyrru.

Beth fyddwch chi'n ei gwblhau yn y prawf ymarferol

Mae'r holl brofion gyrru ymarferol ar gyfer cerbydau arbenigol yn cynnwys prawf golwg a stopio'n sydyn. Os byddwch yn methu'r prawf golwg, ni fydd eich prawf yn parhau.

Cewch wedyn eich profi ar eich gyrru cyffredinol ac ar o leiaf un o'r ymarferion arbennig hyn:

  • bacio'n ôl rownd cornel
  • troi ar ganol y ffordd
  • bacio'n ôl i barcio

Nid yw profion gyrru categori K yn cynnwys ymarfer bacio’n ôl.

Cerbydau categori B1

Cyn i chi allu trefnu prawf categori B1, mae’n rhaid i chi basio’r prawf theori a chael tystysgrif pasio ddilys. Pan fyddwch yn trefnu’r prawf, dylech egluro a yw’r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio yn gynllun sy’n seiliedig ar feic neu ar gar.

B1 – wedi’i adeiladu fel car, gyda seddi blaen ochr yn ochr

Bydd y prawf hwn yn cael ei gynnal fel prawf car, gyda’r arholwr yn eistedd ochr yn ochr i chi, yn rhoi cyfarwyddiadau ac yn gwylio sut yr ydych yn gyrru.

B1 – gyda rheolyddion a seddi tebyg i feic modur

Bydd y prawf hwn yn cael ei gynnal fel prawf beic modur heb:

  • y tro pedol
  • ffri-wilio heb ddefnyddio'r injan
  • y cwestiwn 'cydbwysedd'

Bydd yr arholwr yn eich dilyn ar feic modur neu mewn car, gan roi cyfarwyddiadau i chi dros system radio mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru'n ei darparu.

Cerbydau categori F, G, H neu K

Fel rheol, dim ond un sedd sydd yn y cerbydau hyn, neu mae ganddynt sedd teithiwr na fyddai'n galluogi'r arholwr i wylio'r gyrrwr. Ar gyfer y profion hyn, bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar ochr y ffordd ac yn gwylio sut byddwch chi'n gyrru wrth i chi fynd o amgylch cylchdeithiau chwith a de.

Ar gyfer cerbydau araf iawn, megis cerbydau a reolir â throed, gall eich arholwr gerdded wrth eich ochr lle gallant eich gwylio yn gyrru.

Ar ddiwedd y prawf categori F, G, H neu K, gofynnir pum cwestiwn i chi ynglŷn â Rheolau'r Ffordd Fawr a materion eraill sy'n ymwneud â moduro. Yna, bydd gofyn i chi adnabod chwech o wahanol arwyddion traffig.

Categori H
Mae profion gyrru Categori H yn mynnu eich bod yn gyrru'r cerbyd am yn ôl ac yn troi eich cerbyd rownd, gan ddefnyddio ei draciau, er mwyn wynebu'r cyfeiriad arall. Bydd eich arholwr yn egluro sut dylech chi wneud hyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU