Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu plant dan bump oed

Er mwyn sicrhau dechrau da o ran darllen ac ysgrifennu, mae angen i chi siarad a gwrando ar eich plentyn. Bydd hyn yn eu helpu i ddysgu sut mae llunio brawddegau, gan eu paratoi ar gyfer darllen ac ysgrifennu yn y dyfodol.

Dysgu o ddydd i ddydd

P'un ai a ydych gartref, ar y bws, mewn siop neu yn y feddygfa, ceir cyfleoedd di-ri i helpu eich plentyn i ddysgu. Gallwch wneud hyn drwy siarad â hwy a drwy ddarllen gyda'ch gilydd, a cheir ffyrdd hwyliog o feithrin eu sgiliau ysgrifennu hefyd.

Darllen gyda'ch gilydd

Bydd darllen straeon gyda'ch plentyn, hyd yn oed am 10 munud bob dydd, yn helpu i feithrin sgiliau pwysig yn ogystal â hybu diddordeb eich plentyn mewn llyfrau. Mae llyfrau'n ffynhonnell wybodaeth werthfawr i'ch plentyn gan eu bod yn cynnwys geiriau na fyddech o bosib yn eu defnyddio mewn sgwrs o ddydd i ddydd. O'r dechrau un, bydd babanod yn mwynhau gwrando ar straeon ac edrych ar lyfrau.

I helpu eich plentyn i fwynhau darllen hyd ei oes, gallwch wneud y canlynol:

  • treulio ychydig funudau bob dydd yn darllen gyda'ch gilydd ac yn adrodd straeon - gallwch wneud hynny'n hwyl drwy ddewis llyfrau y mae'r ddau ohonoch yn eu mwynhau
  • sgwrsiwch am y lluniau a'r cymeriadau yn y llyfrau a lluniwch eich straeon eich hunain
  • darllenwch wrth i chi gerdded ar hyd y stryd neu o amgylch y siopau, gan dynnu sylw at arwyddion a geiriau a siarad amdanynt
  • prynwch lyfrau'n anrhegion ac ymunwch â'ch llyfrgell leol

Dysgu am lythrennau

Wrth i blant fynd yn hŷn byddant yn dechrau deall mwy am synau ein hiaith a gallant fwynhau odlau, caneuon a straeon. Dros amser, bydd hyn yn helpu eich plentyn i ddysgu bod gwahanol synau'n ffurfio geiriau. Mewn dim o dro, byddant yn gallu clywed y gwahanol synau hyn mewn geiriau.

Yn raddol, byddant yn dysgu pa sŵn sy'n gysylltiedig â phob llythyren. Byddant yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth ddarllen ac ysgrifennu. Er mwyn helpu gyda'r broses ddysgu hon, beth am roi cynnig ar rai o'r pethau hyn:

  • canu hwiangerddi a chaneuon gyda'ch gilydd, gan bwyntio at y geiriau mewn llyfr o bryd i'w gilydd
  • chwarae gemau gyda synau, creu geiriau gwirion sydd i gyd yn dechrau gyda'r un sain (er enghraifft sain gyntaf eu henw)
  • ceisio cael eich plentyn i adnabod llythrennau mewn geiriau (er enghraifft llythyren gyntaf eu henw)
  • edrych ar lyfrynnau a chatalogau gyda'ch gilydd, a thynnu sylw at eiriau sydd wedi'u hargraffu mewn print bras neu mewn ffontiau anghyffredin
  • chwarae 'Mi welaf i', wrth i blant fynd yn hŷn, i'w helpu i wrando ar y synau ar ddechrau gwahanol eiriau

Datblygu sgiliau gwneud marciau a dechrau ysgrifennu

Bydd eich plentyn yn gweld oedolion o'u cwmpas yn darllen ac yn ysgrifennu a bydd arnynt eisiau gwneud yr un fath â hwy. O'r adeg pan maent yn ifanc bydd plant yn mwynhau arbrofi â gwneud marciau. Gorau po fwyaf o gyfleoedd sydd gan eich plentyn i ddatblygu symudiadau mawr a bach yn eu breichiau, eu dwylo a'u bysedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt wneud marciau gydag amrywiol bethau. Gallwch gynorthwyo eich plentyn:

  • drwy wneud gweithgareddau fel cloddio, 'paentio' arwynebau yn yr awyr agored gyda dŵr a brws mawr, chwifio sgarff yn yr awyr mewn gwahanol siapiau
  • drwy roi'r dillad ar y lein, defnyddio bwrdd pegiau a chodi reis gyda bysedd, a bydd pob un yn helpu eich plentyn i ddysgu sut mae gafael a gwasgu gyda'u bysedd, sy'n angenrheidiol ar gyfer ysgrifennu
  • drwy eu helpu i wneud marciau ar bapur gyda'u bysedd, brwsys a chreons
  • drwy eu helpu i ysgrifennu labeli, cardiau pen-blwydd a gwahoddiadau

Dechrau Da - mwy o lyfrau i fabanod a phlant bach

Rhaglen genedlaethol yw Dechrau Da, a ariennir gan Cychwyn Cadarn. Ei bwriad yw meithrin hoffter at lyfrau am byth. Mae'n gweithio drwy fudiadau lleol gan roi pecynnau o lyfrau am ddim i fabanod a phlant bach, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr.

Ceir gwahanol fathau o becynnau Dechrau Da ar gyfer tri grŵp oed gwahanol:

  • 0 i 12 mis
  • 18 i 30 mis
  • tair oed a hŷn

Holwch yn eich llyfrgell leol i weld a oes cynllun Dechrau Da yn eich ardal chi. Os oes cynllun ar gael, dylai eich babi gael pecyn pan fydd yn cael ei archwiliad iechyd saith i naw mis gan ymwelydd iechyd. Fel arall, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.

Os nad oes cynllun ar waith yn eich ardal chi, mae gennych hawl i becyn Dechrau Da am ddim. Cysylltwch â Booktrust, yr elusen sy'n gweinyddu Dechrau Da i gael pecyn.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU