Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Risgiau pensiwn cwmni neu bensiwn personol

Gyda phensiynau personol ac amryw o bensiynau cwmni, bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi, er enghraifft mewn cyfranddaliadau. Mae hyn yn rhoi cyfle i’ch cronfa bensiwn gynyddu dros amser, ond mae hefyd yn golygu y gall gwerth eich cronfa leihau. Dyma rai cwestiynau ac atebion pwysig ynghylch y risgiau sydd ynghlwm wrth bensiynau.

Gall buddsoddiadau gynyddu neu leihau: beth mae hynny’n ei olygu?

Caiff amryw o bensiynau eu buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau, a bydd eu gwerth yn newid dros amser. Mae hyn yn golygu y ceir elfen o risg. Er ei bod yn bosib y bydd eich cronfa’n cynyddu, mae hefyd yn debygol na fydd yn cynyddu cymaint â'r disgwyl ar brydiau. Weithiau, mae’n bosib y bydd gwerth y gronfa’n lleihau.

Mae pensiynau yn fuddsoddiad hirdymor. Mae eu gwerth yn debygol o gynyddu a lleihau dros amser. Wrth edrych ar berfformiad stociau a chyfranddaliadau dros gyfnod hir, maent yn tueddu i gynyddu mewn gwerth. Mae ganddynt hefyd botensial i gynyddu’n fwy mewn gwerth na buddsoddiadau â llai o risg, megis buddsoddiadau arian parod neu fondiau.

Os oes gennych chi'r math hwn o bensiwn, gan amlaf cewch chi benderfynu sut y caiff ei fuddsoddi. Felly, gallwch chi benderfynu ar lefel y risg rydych yn gyfforddus â hi.

Sut mae dewis y math iawn o fuddsoddiad?

Mewn llawer o gynlluniau pensiwn, gallwch ddewis pa fath o gronfa rydych am fuddsoddi ynddi. Mae'n bosib dewis opsiynau â llai o risg os dymunwch.

Os nad ydych yn dynesu at oedran ymddeol, yn gyffredinol, mae'n syniad da i chi ystyried eich pensiwn mewn cyd-destun tymor hir. Efallai na fydd angen i chi boeni cymaint a fydd y gronfa’n colli gwerth yn y tymor byr.

Os ydych yn dynesu at oedran ymddeol, bydd amryw o gynlluniau’n symud eich arian i fuddsoddiadau â llai o risg yn awtomatig. Mae’r rhain yn llai tebygol o gynyddu a cholli eu gwerth yn y tymor byr.

A ydy fy arian yn cael ei warchod?

Mae elfen o risg ynghlwm wrth bob cynnyrch ariannol, gan gynnwys pensiynau. Fodd bynnag, mae’r llywodraeth wedi rhoi mwy a mwy o reolau ar waith er mwyn ceisio lleihau’r risgiau. Mae’r rheolau’n gymhleth ac yn amrywio’n ôl y math o bensiwn a phwy sy’n ei gynnal:

  • yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) sy'n rheoleiddio darparwyr pensiynau personol
  • y Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) sy’n rheoleiddio pensiynau cwmni

Os oes gennych bensiwn cwmni sy’n gysylltiedig ag incwm, mae’r Gronfa Diogelu Pensiynau (PPF) wedi cael ei sefydlu er mwyn gwarchod eich buddiannau. Os bydd eich cyflogwr yn mynd i’r wal ac na all ei gynllun pensiwn fforddio talu eich pensiwn cyfan i chi, bydd y Gronfa Diogelu Pensiynau yn talu iawndal i chi. Os ydych yn rhan o gynllun cwmni, gall eich cyflogwr ddweud wrthych a yw’n cael ei ddiogelu fel hyn.

Y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) sy'n diogelu pensiynau personol. Os bydd darparwr ariannol awdurdodedig yn methu talu, mae'n bosib y bydd y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn talu iawndal i chi.

Dilynwch y dolenni isod i gysylltu ag unrhyw un o’r sefydliadau hyn.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU