Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle
Tudalen 1 O 3
Bydd arnoch angen rhif cod bar er mwyn gallu dilyn hynt eich cais. Mae'r rhif 10-digid hwn yn ymddangos ar dudalen flaen eich ffurflen gais am basbort. Os gwnaethoch ddefnyddio'r gwasanaeth Gwirio ac Anfon neu os gwnaethoch gais yn bersonol, gallwch chi hefyd ddefnyddio'r rhif cod bar ar eich derbynneb.
Gan amlaf, cewch neges e-bost o fewn un diwrnod gwaith a fydd yn datgelu lle mae eich cais am basbort arni.
Dewiswch 'Nesaf' i barhau.
Sylwer:
Dim ond i bobl sy'n preswylio yn y DU neu sydd â chyfeiriad preswyl yn y DU y mae'r gwasanaeth hwn ar gael.
Oni bai y bydd eich trefniadau teithio'n newid, arhoswch bythefnos ar ôl anfon eich cais cyn defnyddio'r ffurflen hon.
Argymhellir yn gryf i chi beidio â gwneud dim trefniadau teithio cyn i'ch pasbort newydd gyrraedd.
Mae'r holl wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn dod dan Bolisi Preifatrwydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.