Banner Logo
Ewch i Directgov Motoring | English/Saesneg Gwasanaethau ddarparu’r gan DVLA: DVLA logo

Polisi Preifatrwydd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r gwasanaethau a ddarperir gan wefan DVLA: www.dvla.gov.uk
Rheolwr Data’r wefan hon yw’r Adran Drafnidiaeth (DfT). Diben y datganiad hwn yw hysbysu defnyddwyr gwefan DVLA, a reolir gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, am yr wybodaeth a gesglir amdanynt pan fyddant yn ymweld â'r safle, sut caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio, os yw’n cael ei datgelu ai peidio a’r ffyrdd yr ydym yn gwarchod preifatrwydd defnyddwyr.

Deddf Diogelu Data 1998

Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn sefydlu hawliau ar gyfer unigolion y prosesir eu data personol gan drydydd parti. Mae unrhyw sefydliad sy'n prosesu gwybodaeth am unigolion byw yn rheolwr data at ddibenion y Ddeddf. Dan y Ddeddf mae’n rhaid i'r Adran Drafnidiaeth, fel y rheolwr data, sicrhau bod gwrthrychau data unigol yn ymwybodol o sut y gall eu data personol gael ei ddefnyddio, diben/dibenion prosesu'r data hwnnw ac i bwy, os oes unrhyw un, y gellid datgelu'r data hwnnw.

Pa wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu?

Mewn rhai adrannau ar y safle, rhaid i chi gyflwyno gwybodaeth er mwyn i chi allu manteisio ar nodweddion penodol (fel ein gwasanaethau ar-lein amrywiol). Fe'ch hysbysir ar bob pwynt casglu gwybodaeth pa wybodaeth sy’n ofynnol a pha wybodaeth sy’n ddewisol. Gall rhywfaint o’r wybodaeth hon fod yn bersonol (gwybodaeth sy'n unigryw i chi, fel eich enw llawn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn ayb). Dim ond pan ddewiswch ei rhoi i ni y byddwn yn casglu'r gyfryw wybodaeth. Cesglir gwybodaeth hefyd heb i chi ei darparu’n uniongyrchol, drwy’r defnydd o friwsion. Nid yw’r dull hwn yn casglu nac yn storio gwybodaeth bersonol. Gellir casglu gwybodaeth oddi wrth y rhai sy’n ymweld â gwefan DVLA yn yr adrannau canlynol:

Ymholiadau e-bost

Os byddwch yn anfon ymholiad dros yr e-bost naill ai at gyswllt penodol neu ymholiad cyffredinol, dim ond eich manylion personol a gafwyd o'ch ymholiad y byddwn yn eu defnyddio i ymateb i'ch ymholiad. Mewn rhai achosion, efallai na fydd modd i'r DVLA ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani'n uniongyrchol. Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai y byddwn yn anfon eich ymholiad at un o adrannau eraill y llywodraeth er mwyn iddynt hwy ateb eich cais am wybodaeth. Os wnewch gyflwyno ymholiad cyffredinol mi fyddwn yn dal gafael ar eich manylion cyswllt am y pwrpas unigol o'm helpu gwella ansawdd ein gwasanaethau.

Gwybodaeth am ddefnyddio'r safle

Polisi ar Friwsion

Darnau o ddata yw briwsion sy'n cael eu creu'n aml pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan, ac sy’n cael eu storio yng nghyfeiriadur briwsion eich cyfrifiadur chi. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn briwsion yn awtomatig, ond gallwch chi osod eich porwr i beidio â derbyn briwsion. Os nad ydych chi'n gwybod sut i wneud hyn, cysylltwch â ni, gan roi manylion am y math o borwr yr ydych chi'n ei ddefnyddio, ac fe wnawn ein gorau glas i'ch helpu. Mae’n bosibl y bydd briwsion yn cael eu creu mewn tair adran ar dvla.gov.uk.
Pan fyddwch yn mynd i'r safle am y tro cyntaf, bydd hyn yn creu briwsionyn UTM (Urchin Tracking Monitor), sef cod adnabod preifat a fydd yn cael ei ddefnyddio i dracio defnydd y defnyddiwr o’r safle’n fanwl gywir. Mae hyn yn galluogi’r DVLA i gasglu ystadegau mwy cywir am ddefnydd pobl o’r safle ar y we ac ni fyddwn ond yn defnyddio’r rhain i wella cynllun y safle a’r wybodaeth sydd arno, yn seiliedig ar y ffordd mae defnyddwyr yn symud o gwmpas o fewn y wefan. Nid ydym yn defnyddio'r wybodaeth hon mewn unrhyw ffordd arall, ac ni fyddwn ychwaith yn ei throsglwyddo i unrhyw sefydliad arall.
Yr ail adran lle caiff briwsionyn ei greu yw pan mae defnyddwyr cofrestredig yn mynd i mewn i’n tudalennau diogel, sy’n cael eu rheoli gan y system rheoli mynediad a manylion adnabod. Mae’r briwsionyn hwn yn storio gwybodaeth ar ffurf rhif adnabod sesiwn nad yw'n datgelu pwy yw'r defnyddiwr. Mae’r briwsionyn sesiwn yn cael ei storio mewn cof dros dro ac nid yw'r system yn ei gadw unwaith y caeir y porwr.
Yr adran olaf lle gellid creu briwsionyn yw pan fydd rhywun yn dewis iaith wahanol ar y wefan. Mae’r briwsionyn hwn yn storio gwybodaeth ynghylch eich dewis iaith er mwyn sicrhau dilyniant wrth i chi lywio’ch ffordd drwy’r wefan. Ni chaiff unrhyw fanylion eraill eu storio yn y briwsionyn hwnnw. Ni fydd unrhyw friwsionyn yn creu cofnod ar wefan yr Asiantaeth nac ar ei chyfrifiaduron.
Felly, nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi, ac ni ellir ei ddefnyddio i adnabod defnyddwyr unigol.

Beth fydd yn digwydd wrth i mi ddilyn dolen i safle arall?

Gallai atebion i negeseuon e-bost gynnwys dolenni i wefannau eraill - mewn adrannau eraill yn y llywodraeth ac mewn sefydliadau eraill. Dim ond i’n safle ni y mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, felly dylech fod yn ymwybodol o hynny bob tro y byddwch yn symud i safle arall. Darllenwch ddatganiad preifatrwydd unrhyw safle sy'n casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch wedi ei rhoi i ni i unrhyw safle arall.

Eich Hawliau fel Gwrthrych Data

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau dan y Ddeddf, gan gynnwys yr hawl i weld unrhyw ddata personol y mae’r DVLA fel rheolwr data yn ei gadw amdanoch. Bydd DVLA yn darparu manylion ynghylch y data personol sydd gennym amdanoch os ydych yn cyflwyno cais am hawl i weld gwybodaeth. Ceir manylion ynghylch pwy i gysylltu â hwy yn ein hadran Rhyddhau Gwybodaeth.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn cynnwys fersiwn diwygiedig ar y dudalen hon. Trwy ddiweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, rydym yn sicrhau y bydd modd i chi wybod bob amser pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, sut y byddwn yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni’n ei rhannu gydag eraill.