Archive Website of the UK government

Please note that this website has a UK government accesskeys system.

Public services all in one place

Main menu

Gweld, newid neu ganslo eich prawf theori ar-lein

Driving Standards Agency theory test booking service

Gallwch weld eich manylion apwyntiad prawf ar-lein, neu newid neu ganslo eich prawf os yw’ch amgylchiadau yn newid.

Diogelu’ch data

Darllenwch y wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda ynghylch y Ddeddf Diogelu Data 1998 – Hysbysiad Prosesu Teg am yr Asiantaeth Safonau Gyrru cyn i chi barhau.

Gweld eich prawf theori

I weld statws eich archeb am brawf, gan gynnwys pryd a ble y mae’r prawf yn cael ei gynnal, a pha un ai a yw’r archeb wedi’i gadarnhau, bydd angen i chi lenwi:

  • eich rhif trwydded yrru dros dro dilys am Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon
  • eich cyfenw
  • eich dyddiad geni

Newid eich prawf theori

Gallwch symud eich prawf i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os mae bwlch ar gael. Byddwch yn gallu chwilio am ddyddiad prawf newydd neu newid y ganolfan prawf ble y byddwch yn gwneud y prawf. Gallwch newid archebion sydd wedi’u cadarnhau yn unig.

I newid eich apwyntiad prawf theori, bydd angen arnoch:

  • eich rhif trwydded yrru dros dro dilys am Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon
  • rhoi o leiaf tri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich dyddiad prawf er mwyn osgoi colli eich ffi prawf

Canslo eich prawf theori

Gallwch ganslo archeb, a chael ad-daliad am y ffi prawf, os yn briodol. Gallwch ganslo archebion sydd wedi’u cadarnhau yn unig.

I ganslo’ch apwyntiad prawf theori, bydd angen arnoch:

  • eich rhif trwydded yrru dros dro dilys am Brydain Fawr neu Ogledd Iwerddon
  • rhoi o leiaf tri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich dyddiad prawf er mwyn osgoi colli eich ffi prawf

Provided by the Driving Standards Agency

Additional links

Gwasanaeth a ddarperir gan

Driving Standards Agency

Cymorth gyda’r gwasanaeth hwn

Os ydych yn profi unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â’r tîm gwasanaeth cwsmeriaid yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

Taliad

Gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru derbyn y cardiau credyd a debyd canlynol yn unig

Mastercard, Visa, Visa Delta, Solo, Visa Electron

Access keys