Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pobl broffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol y byddwch yn cwrdd â hwy o bosib

Efallai y bydd nifer o bobl yn gysylltiedig â gofal eich plentyn. Mae’n siŵr eich bod yn gwybod beth y mae rhai ohonynt yn ei wneud - er enghraifft doctoriaid - ond efallai bod eraill yn newydd i chi. Yma, cewch wybod am y swyddi mwyaf cyffredin y byddwch yn dod ar eu traws o bosib.

Seicolegydd clinigol

Mae seicolegydd clinigol yn weithiwr iechyd proffesiynol sy’n helpu pobl sydd â phroblemau penodol yn ymwneud ag anawsterau dysgu neu anawsterau ymddygiad.

Gweithiwr cefnogi cyfathrebu

Bydd gweithiwr cefnogi cyfathrebu yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon er mwyn darparu cefnogaeth gydag iaith arwyddion i blant ifanc byddar mewn meithrinfeydd neu ysgolion.

Dietegydd

Mae dietegydd yn weithiwr iechyd proffesiynol sy’n rhoi cyngor ynghylch maeth ac anawsterau llyncu neu fwydo.

Seicolegydd addysg

Gelwir athro cymwysedig sydd hefyd wedi’i hyfforddi i fod yn seicolegydd yn seicolegydd addysg. Bydd yn helpu plant sy’n ei chael yn anodd dysgu neu ddeall neu gyfathrebu ag eraill. Gall asesu datblygiad eich plentyn a darparu cefnogaeth a chyngor.

Meddyg teulu

Mae meddyg teulu yn gweithio mewn meddygfa ar ei ben ei hun neu gyda meddygon teulu eraill. Bydd eich meddyg yn delio ag iechyd cyffredinol eich plentyn a gall eich cyfeirio at glinigau, at ysbytai ac at arbenigwyr yn ôl yr angen. Mae’n bosib iddo hefyd gefnogi ceisiadau ar gyfer budd-daliadau neu fathau eraill o gymorth.

Ymwelydd iechyd

Nyrs neu fydwraig gofrestredig sydd â hyfforddiant ychwanegol yw ymwelydd iechyd. Bydd yn ymweld â theuluoedd yn y cartref i roi help, cyngor a chymorth ymarferol yn ymwneud â gofalu am blant ifanc iawn. Mae gan rai ardaloedd ymwelwyr iechyd arbenigol sydd ag arbenigedd a phrofiad penodol o gefnogi teuluoedd gyda phlentyn ifanc anabl.

Gweithiwr allweddol

Mae gan rai teuluoedd weithiwr allweddol. Bydd gweithiwr allweddol yn eich gweld yn rheolaidd ac yn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau o'r holl adrannau gwahanol, gan gynnwys iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn cael eu cydlynu'n dda.

Gall gweithwyr allweddol weithredu fel cyswllt canolog ar gyfer pobl broffesiynol a fydd yn gweithio gyda'ch teulu, a sicrhau bod gwybodaeth am eich plentyn yn cael ei rannu lle bydd angen.

Gweithwyr allweddol ‘dynodedig’ a ‘heb eu dynodi’

Rhywun sydd eisoes yn gweithio gyda theulu, mewn rôl arall, yw gweithiwr allweddol ‘heb ei ddynodi’. Bydd yn ysgwyddo cyfrifoldebau gweithiwr allweddol yn ogystal ag unrhyw gymorth neu therapi arall mae’n ei roi i’r plentyn neu’r rhiant eisoes.

Caiff gweithwyr allweddol ‘dynodedig’ eu cyflogi yn bennaf i gydlynu gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd. Nid ydynt fel arfer yn darparu gofal arbenigol eu hunain.

Nyrsys anableddau dysgu

Nyrsys arbenigol yw nyrsys anableddau dysgu, sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion sydd ag anableddau dysgu a gyda’u teuluoedd. Gallant eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau ar gyfer eich plentyn.

Cynorthwyydd cymorth dysgu / cynorthwyydd addysgu

Rhywun sy’n gweithio gydag athrawon yw cynorthwyydd cymorth dysgu neu gynorthwyydd addysgu. Bydd yn cefnogi plant unigol neu grwpiau bychain i’w helpu i ddysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau mewn ysgolion neu feithrinfeydd.

Swyddog penodol

Y swyddog penodol yw person cyswllt eich teulu chi yn eich awdurdod addysg lleol, os ydyw’n cyhoeddi datganiad anghenion addysgol arbennig ar gyfer eich plentyn. Bydd y swyddog yn rheoli asesiad statudol eich plentyn ac yn ysgrifennu'r datganiad anghenion.

Therapydd galwedigaethol pediatrig

Bydd therapydd galwedigaethol pediatrig yn helpu plant sy’n cael anhawster wrth geisio gwneud gweithgareddau bob dydd, megis eistedd mewn cadair, dal llwy neu fforc neu yfed o gwpan.

Bydd yn cynnal asesiadau i weld a fyddai eich plentyn yn cael budd o ddefnyddio offer arbenigol megis cwpanau, bygis neu gadeiriau sydd wedi’u haddasu. Gall hefyd eich cynghori ynghylch codi a gafael yn eich plentyn mewn modd diogel.

Pediatrydd

Meddyg sy’n arbenigo mewn gweithio gyda babanod a phlant yw pediatrydd. Yn aml, y pediatrydd fydd y cyswllt cyntaf i deuluoedd sy’n cael gwybod bod gan eu plentyn nam neu gyflwr meddygol.

Mae'n bosib y bydd pediatryddon yn gallu rhoi diagnosis i chi am gyflwr eich plentyn, ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych a'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol.

Niwrolegydd pediatrig

Meddyg sy’n arbenigo mewn sut mae ymennydd plant ifanc yn gweithio yw niwrolegydd pediatrig.

Ffisiotherapydd

Mae ffisiotherapyddion yn weithwyr iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn datblygiad corfforol ac echddygol. Gall asesu eich plentyn a datblygu cynllun a fydd efallai’n cynnwys helpu eich plentyn i reoli symudiad ei ben, i eistedd, i gropian neu i gerdded.

Mae’n bosib y bydd ffisiotherapydd yn gweld eich plentyn yn eich cartref neu mewn lleoliadau eraill, megis meithrinfa.

Ymwelydd cartref Portage

Gweithiwr addysgol proffesiynol yw ymwelydd cartref Portage, sy’n gallu dod i gartref plant dan oed ysgol sydd ag anghenion addysgol arbennig a’u teuluoedd.

Gall ymwelwyr cartref Portage ddod o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol. Mae’n bosib y ceir athrawon, therapyddion, nyrsys meithrin, ymwelwyr iechyd neu wirfoddolwyr gyda phrofiad perthnasol.

Nyrs ysgol

Nyrs feddygol, wedi'i lleoli mewn ysgol, yw nyrs ysgol, sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer anghenion meddygol plant.

Gweithiwr cymdeithasol

Mae gweithiwr cymdeithasol yn unigolyn proffesiynol sy’n darparu cymorth ymarferol a chyngor ynghylch cwnsela, trafnidiaeth, cymorth yn y cartref a gwasanaethau eraill. Fel arfer, caiff ei gyflogi gan y cyngor lleol.

Mae’n bosib y bydd gweithwyr cymdeithasol hefyd yn gallu eich helpu i hawlio budd-daliadau neu i gael offer y mae arnoch ei angen yn eich cartref.

Cydlynydd anghenion addysgol arbennig (SENCO)

Aelodau o staff meithrinfeydd, cylchoedd chwarae neu ysgolion, sy’n cydlynu gwasanaethau a gweithgareddau anghenion addysgol arbennig yw cydlynwyr anghenion addysgol arbennig. Maent yn sicrhau bod plant sydd ag anghenion addysgol arbennig yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.

Therapydd iaith a lleferydd

Bydd therapydd iaith a lleferydd yn helpu plant sydd â phroblemau iaith a lleferydd. Bydd hefyd yn cynnig cyngor i rieni ynghylch datblygu cyfathrebu a allai fod yn llafar (gan ddefnyddio iaith) neu heb fod yn llafar, gan ddefnyddio arwyddion neu gynorthwyon cyfathrebu eraill.

Mae rhai therapyddion iaith a lleferydd yn arbenigo mewn anhwylderau bwydo, bwyta neu lyncu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU