Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Ddeddf Iechyd Meddwl

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn ymdrin ag asesu a thrin pobl sydd â chyflwr iechyd meddwl, a’u hawliau.

Asesu a thriniaeth

Mae llawer o bobl yn derbyn gofal a thriniaeth iechyd meddwl arbenigol yn y gymuned. Mae rhai pobl yn dioddef problemau iechyd meddwl difrifol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt fynd i ysbyty i'w hasesu a chael triniaeth.

Gellir cadw pobl heb eu caniatâd dim ond os bodlonir y meini prawf llym a nodir yn y Ddeddf. Rhaid i'r person fod yn dioddef o anhwylder meddwl a ddiffinnir gan y Ddeddf.

Rhaid i gais am asesiad neu driniaeth gael ei gefnogi ar bapur gan ddau ymarferydd meddygol cofrestredig. Rhaid i'r argymhelliad gynnwys datganiad ynghylch pam fod asesiad a/neu driniaeth yn ofynnol, a pham nad yw dulliau eraill o ddelio gyda'r claf yn briodol.

Derbyn i'r ysbyty

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n derbyn triniaeth mewn ysbytai neu unedau seiciatrig ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl yno'n wirfoddol ac mae ganddynt yr un hawliau â phobl sy'n derbyn triniaeth am salwch corfforol.

Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid cadw nifer fechan o gleifion yn erbyn eu hewyllys o dan un o adrannau'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae'r Ddeddf yn esbonio pwy sy'n gysylltiedig â'r penderfyniad i orfodi rhywun i fynd i ysbyty, ac aros yno, a hefyd yn esbonio hawl yr unigolyn neu ei berthynas agosaf i apelio.

Gweithwyr iechyd meddwl cymeradwy

Mae gweithiwr iechyd meddwl cymeradwy yn weithiwr iechyd meddwl sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i ddarparu help a rhoi cymorth i bobl sy’n cael eu trin o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Gallant fod yn nyrsys seiciatrig cymunedol, therapydd galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol neu seicolegwyr. Gall eu swyddogaethau gynnwys helpu i asesu os oes angen i berson gael ei gadw’n ormodol yn yr ysbyty fel rhan o’i driniaeth.

Mae gan weithiwr iechyd meddwl ddyletswydd benodol hefyd i sicrhau bod hawliau dynol a sifil person sy’n cael ei gadw’n ormodol yn yr ysbyty yn cael eu parchu a’u cynnal.

Perthynas agosaf

Mae'r Ddeddf yn rhoi rhai hawliau i'r perthynas agosaf y gellir eu defnyddio i ddiogelu buddiannau'r claf. Fel arfer, y perthynas agosaf yw'r person sydd uchaf ar y rhestr ganlynol:

  • gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • partner (o unrhyw ryw) sydd wedi byw gyda'r claf am o leiaf chwe mis
  • mab neu ferch
  • tad neu fam
  • brawd neu chwaer
  • tadcu neu famgu
  • modryb neu ewythr
  • nith neu nai

Os mae person o’r rhestr uchod yn byw neu’n ofalu am y claf, y person yna fyddai'n cael ei ystyried fel y perthynas agosaf. Gall person sydd ddim yn perthyn, ond sydd wedi byw gyda'r claf am o leiaf bum mlynedd, hefyd gael ei ystyried fel perthynas agosaf.

Dim ond y Llys Sirol all newid penodiad y perthynas agosaf.

Beth y gall y perthynas agosaf ei wneud

Mae gan y perthynas agosaf hawl i'r canlynol:

  • gwneud cais am driniaeth neu asesiad gorfodol y claf, neu ofyn i wasanaethau cymdeithasol i ofyn i weithiwr iechyd meddwl cymeradwy ystyried achos y claf
  • cael gwybod os yw gweithiwr iechyd meddwl cymeradwy yn gwneud cais i gadw'r claf i mewn ar gyfer asesiad gorfodol
  • bod yn rhan o'r ymgynghori os yw gweithiwr iechyd meddwl cymeradwy yn gwneud cais i gadw'r claf i mewn ar gyfer asesiad gorfodol, a chadw'r hawl i wrthwynebu'r cais
  • gwneud cais i Dribiwnlys Iechyd Meddwl ar ran y claf dan amgylchiadau penodol
  • derbyn gwybodaeth ysgrifenedig am gadw'r claf, am ei hawliau ac am ei ryddhau oni fydd y claf yn gwrthwynebu hynny
  • rhyddhau’r claf

Gall pŵer rhyddhau'r perthynas agosaf gael ei ddileu gan y meddyg sy'n gyfrifol am driniaeth y claf, os yw'r meddyg yn credu bod y claf yn debygol o ymddwyn yn beryglus os yw'n cael ei ryddhau.

Gwybod mwy am Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

Crynodeb o'r Ddeddf

Adrannau sifil mwyaf cyffredin y Ddeddf trwy'r hyn y gellir gorfodi cleifion i fynd i ysbyty yw:

- adran 2 : derbyn i ysbyty am hyd at 28 diwrnod am asesiad

- adran 3 : derbyn i ysbyty am hyd at chwe mis ar gyfer triniaeth

- adran 4 : derbyn ar frys am hyd at 72 awr

Mae gan yr elusen iechyd meddwl 'Mind' arweiniad i'r Ddeddf Iechyd Meddwl ar ei wefan.

Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau am Y Ddeddf Iechyd Meddwl ar wefan yr Adran Iechyd.

Additional links

Gweler hefyd...

Cyngor iechyd meddwl gan yr NHS

Mae’r wefan NHS choices yn cynnig cymorth a chyngor ar ddementia ac iselder

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU