Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ystyriaethau gyrfa

Unwaith y bydd gennych syniad da am yr yrfa yr hoffech ei chael, y cam nesaf yw ystyried sut rydych am gyrraedd yno. Yn ogystal ag edrych ar faterion ymarferol fel lleoliad, cyflog a’r farchnad swyddi, efallai y bydd angen i chi ddiweddaru eich sgiliau a’ch cymwysterau.

Pethau i’w hystyried wrth ymchwilio i yrfaoedd

Ar ôl i chi lunio rhestr fer o yrfaoedd posibl, bydd amrywiaeth o faterion y byddwch am eu hystyried cyn rhoi eich cynllun ar waith.

Lleoliad

Os nad ydych yn barod i symud, bydd angen i chi ystyried lleoliad. Tra gallwch ddod o hyd i swydd fel trefnydd teithiau yn y rhan fwyaf o drefi mawr, os ydych am gael eich troed i mewn ym maes cynhyrchu teledu mae’n debygol y bydd mwy o gyfleoedd yn Llundain a dinasoedd mawr eraill.

Cyflog

Bydd gennych gyfleoedd i gael dyrchafiad yn y rhan fwyaf o swyddi - ond nid yw hyn yn golygu y byddwch yn cael llawer mwy o arian bob amser. A yw gwneud rhywbeth rydych wrth eich bodd yn ei wneud yn bwysicach na chyflog uchel?

Y farchnad swyddi

Mae cystadleuaeth yn y rhan fwyaf o yrfaoedd, ond mae rhai meysydd yn fwy cystadleuol nag eraill. Gall fod yn anodd cael eich lle mewn gyrfaoedd a ystyrir yn rhai ‘deniadol’ heb lawer o brofiad gwaith di-dâl, brwdfrydedd ac ychydig o lwc. Os yw gyrfa fel hyn yn apelio atoch, a ydych yn barod i wneud ymdrech arbennig?

Dringo ysgol yrfa

Pa gyfleoedd sydd ar gael i ddringo’r ysgol yrfa rydych yn ei hystyried? Unwaith rydych wedi cael eich troed i mewn, sut fyddech yn mynd ymlaen i’r cam nesaf – naill ai yn yr un math o waith, neu mewn maes tebyg? Pa fath o hyfforddiant sy’n debygol o fod ar gael?

Amodau gwaith

Beth fyddwch yn gorfod ei wneud wrth gyflawni’r gwaith o ddydd i ddydd? Os yw’n golygu cyfarfod llawer o bobl ac nad ydych yn gyfforddus yn gwneud hynny, efallai y byddai’n syniad i chi newid eich meddwl. A fyddai’n well gennych gael swydd y tu mewn, neu a fyddech yn hapus i weithio yn yr awyr agored yng nghanol y gaeaf?

Eich amgylchiadau

Ni ddylai eich amgylchiadau gyfyngu eich dewisiadau gyrfa. Mae’n bosib bod cymorth ychwanegol ar gael os, er enghraifft, ydych yn rhiant unigol neu os oes gennych anabledd. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Beth sy’n bwysig i chi mewn swydd?

Unwaith y byddwch wedi ystyried y ffactorau a restrir uchod, gall llunio rhestr eich helpu i ganolbwyntio eich meddwl. Ceisiwch restru’r pethau sy’n hanfodol, a’r pethau sy’n ‘braf eu cael’. Er enghraifft:

Hanfodol

  • delio â phobl
  • agos i’ch cartref presennol
  • ennill o leiaf £15,000 yn eich blwyddyn gyntaf

Braf eu cael’

  • mewn sector cyhoeddus neu sector dielw
  • cyfleoedd i deithio dramor
  • cysylltiedig â hoff bwnc rydych wedi'i astudio

Pa gymwysterau y mae eu hangen arnoch?

Dylai edrych ar broffiliau gyrfaoedd roi syniad da i chi am y cymwysterau y bydd eu hangen arnoch: gweler ‘Dysgu ar gyfer gwaith’ i gael gwybodaeth am sut i gael gafael arnynt.

Gall dysgu i oedolion neu addysg uwch fod yn ffordd wych o agor cyfleoedd gyrfa newydd. Cofiwch nad yw byth yn rhy hwyr i ddychwelyd i ddysgu.

Help gyda chynllunio gyrfa

Gall siarad drwy eich dewisiadau eich helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi, a rhoi syniad gwell i chi o’r hyn y mae angen i chi ei wneud er mwyn cael y swydd rydych am ei chael.

Gweler ‘Pa yrfa sy’n addas i chi?’ i gael manylion am ffynonellau cyngor.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Cael cyngor gyrfaoedd a sgiliau

Cael cyngor gyrfaoedd ar-lein neu siaradwch â chynghorydd Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol drwy ffonio 0800 100 900

Allweddumynediad llywodraeth y DU