Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gofalu am wenyn

Mae gwenyn yn chwarae rhan bwysig yn y byd naturiol ac maent yn gyfrifol am beillio llawer o gnydau bwyd a gaiff eu tyfu’n fasnachol. Mae nifer y gwenyn wedi bod yn gostwng yn ddiweddar. Cewch wybod sut y gallwch roi hwb i’w cyfraddau ysgogi drwy ddarparu planhigion iddynt fwydo arnynt a lleoedd iddynt gysgodi.

Pam mae angen help ar y gwenyn?

Amcangyfrifir bod rôl y gwenyn mewn peillio planhigion werth rhwng £120 a £200 miliwn y flwyddyn i ffermwyr yn y DU. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae poblogaeth y gwenyn yn y DU wedi gostwng yn sylweddol. Mae niferoedd y gwenyn wedi gostwng i 10 1 15 y cant o ganlyniad i dywydd gwael, a heintiau o blâu ac afiechydon. Mae nifer o rywogaethau’r cacwn hefyd yn gostwng yn sylweddol.

Sut gallwch chi helpu gwenyn

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i amddiffyn gwenyn, o ddarparu bwyd a lloches iddynt, a defnyddio chwynladdwyr yn gyfrifol yn eich gardd, i gadw gwenyn.

Darparu bwyd

Mae angen amrywiaeth eang o blanhigion sy’n blodeuo rhwng y gwanwyn a’r hydref ar wenyn er mwyn bwydo arnynt:

  • alyswm, penlas yr ŷd, blodyn yr haul, blodyn Mihangel a phenigan barfog i gael neithdar yn yr haf
  • clychau’r gog, rhosmari, mynawyd y bugail a gwyddfid
  • eiddew a phrysglwyn helyg i ddarparu bwyd ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn

Creu lloches ar gyfer cacwn

Mae angen lleoedd i nythu ac i dreulio’r gaeaf ynddynt ar gacwn. Gallwch chi eu helpu drwy wneud y canlynol:

  • creu darnau o bridd noeth mewn mannau cysgodol cynnes ar gyfer lleoedd nythu
  • gadael pentwr o gerrig, coesau planhigion wedi marw, dail sydd wedi disgyn a phentyrrau o foncyffion i wenyn gysgu ynddynt dros y
  • prynu blwch cacwn wedi’i baratoi’n barod

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddewis planhigion a chreu lloches ar gyfer cacwn ar daflen Natural England yn yr adran ar helpu i achub y gwenyn.

Cadw gwenyn

Gall cwch gwenyn gynhyrchu cymaint â 20 i 40 lbs o wenyn mewn blwyddyn arferol

Ar wahân i’r apêl o gael eich mêl eich hun, gall cadw gwenyn fod yn ddiddordeb sy’n dod â mwynhad mawr a gwneud i chi ymlacio.

Cyngor ar sut mae cychwyn cadw gwenyn

Y lle gorau i gael cyngor ar sut mae cadw gwenyn yw eich cymdeithas cadw gwenyn leol. Maent yn aml yn cynnal diwrnodau dangos gwenyn ymarferol, a byddant yn rhoi gwybodaeth i chi am gadw gwenyn.

Mae gan y rhan fwyaf o gymdeithasau cadw gwenyn gychod gwenyn a ddefnyddir at ddibenion addysgu, ac i roi’r cyfle i chi drin gwenyn. Ewch ar wefan Cymdeithas Cadw Gwenyn Prydain (BBKA) i ddod o hyd i un yn eich ardal chi.

Nid oes cyfyngiadau ar gadw gwenyn. Gallwch eu cadw yn eich gardd gefn, ond byddai’n syniad da holi eich cymdogion os ydynt yn gwrthwynebu.

Efallai na fydd gerddi bach bob amser yn addas i gadw gwenyn. Os nad ydych chi’n siŵr, gall eich cymdeithas cadw gwenyn leol roi cyngor i chi ar leoedd addas i roi cwch gwenyn.

Cael cyngor am ddim ar gadw gwenyn gan BeeBase

Os byddwch yn cofrestru gyda BeeBase gallwch gael cyngor arbenigol am ddim ar 01904 462510

Unwaith y byddwch wedi cael eich cwch gwenyn cyntaf, gallwch gofrestru ar gronfa ddata Uned Gwenyn Cenedlaethol (NBU) Bee Base. Mae’r NBU yn defnyddio’r gronfa ddata hon i helpu i fonitro poblogaethau gwenyn a lefel afiechydon, ac mae’n rhoi cyngor ar ganfod plâu ac afiechydon. Byddant hefyd yn rhoi cyngor ar y gofynion cyfreithiol ar gyfer cadw gwenyn.

Bydd arolygydd gwenyn lleol yn ymweld â phobl sydd wedi’u cofrestru i gadw gwenyn am ddim, a gall roi cymorth a chyngor ar holl agweddau cadw gwenyn. Gallwch gofrestru ar wefan BeeBase, neu ffonio ar 01904 462510

Plâu ac afiechydon sy’n effeithio ar wenyn

Os ydych yn cadw gwenyn, mae angen i chi gadw llygad ar unrhyw blâu neu afiechydon a allai effeithio ar eich gwenyn, neu gychod gwenyn cyfagos. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi gwybod i’r NBU am rai plâu neu afiechydon:

  • mae Clefyd Ewropeaidd ac Americanaidd y Gwenyn (EFB ac AFB) yn afiechydon difrifol sy’n gallu lledaenu’n hawdd i gychod gwenyn eraill os na chaiff ei drin yn iawn
  • mae brychau tropilaelaps a’r chwilen cwch gwenyn bach yn blâu difrifol i’r gwenyn, ond nid ydynt wedi’u canfod yn y DU eto

Mae’r Uned Gwenyn Cenedlaethol (NBU) yn rhoi cyngor i’ch helpu i ganfod yr afiechydon hyn yn gynnar. Gall yr NBU hefyd roi cyngor i chi ar sut mae rheoli afiechydon a phlâu eraill, megis y gwiddonyn varroa, ac ar sut mae cadw cwch gwenyn iach.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn trefn lanweithdra dda gyda’ch cwch gwenyn, a chysylltwch â’ch arolygydd gwenyn lleol ar unwaith os byddwch yn gweld bod rhywbeth o’i le.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU