Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Dewis cwmnïau 'gwyrdd'

Gall y pethau a brynwn ac a ddefnyddiwn bob dydd gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Gall y dewisiadau a wnewch wrth brynu cynnyrch neu ddefnyddio gwasanaeth wneud gwahaniaeth.

Chi yw'r cwsmer!

Chi yw'r cwsmer, felly gofynnwch am yr hyn rydych chi eisiau. Os ydych chi'n chwilio am gynhyrchion mwy gwyrdd, neu os hoffech wybod sut cafodd rhywbeth ei wneud ac na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch, gofynnwch i'r adwerthwr neu'r gweithgynhyrchydd – a daliwch ati os oes rhaid.

Os oes mwy o bobl yn gofyn, mae'n fwy tebygol y bydd cwmnïau'n dechrau stocio cynhyrchion mwy gwyrdd a chynnig gwasanaethau mwy gwyrdd – a darparu'r wybodaeth yr hoffech ei chael i'ch helpu i ddewis.

Beth mae cwmnïau'n ei wneud i fod yn 'wyrdd'?

Mae mwy a mwy o gwmnïau'n cymryd eu cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif. Yn aml, gelwir hyn yn rhan o bolisi Cyfrifoldeb Corfforaethol a Chymdeithasol cwmni. Mae nifer ohonynt wedi datblygu cynlluniau lle maent yn ymgynghori gyda'u cwsmeriaid am bolisïau'r cwmni - felly gallwch chi gymryd rhan.

Bydd gwefannau cwmnïau mwy'n cynnwys gwybodaeth am eu polisi ac yn ymroi i hysbysu eu cwsmeriaid (a phobl sy'n buddsoddi yn y cwmni - megis rhanddeiliaid) am y cynnydd a wnânt.

Er enghraifft, efallai y bydd cwmni'n rhoi canran o gynnyrch a werthir, megis polisi yswiriant, i brosiect amgylcheddol neu gadwraeth mewn gwlad arall.

Er bod rhai marchnadoedd penodol ar gyfer cynnyrch gwyrdd yn fach ar hyn o bryd, mae mwy a mwy o ddarparwyr wrthi'n gwneud y canlynol:

  • cynnig cynnyrch ac iddynt elfen 'werdd' – er enghraifft, rhoi arian i fenter werdd, megis cynllun gwrthbwyso carbon, ar gyfer pob cynnyrch a werthir – megis morgais
  • gadael i gwsmeriaid wybod pa gwmnïau eraill y byddant yn gweithio gyda hwy (neu'n buddsoddi ynddynt) – er enghraifft, cwmni sy'n cael deunydd crai o ffynonellau hysbys cynaliadwy (rhai y gellir eu hadnewyddu) yn unig heb wneud niwed i'r amgylchedd

Dyma rai enghreifftiau o'r hyn y mae cwmnïau'n ei wneud:

  • lleihau faint o becynnu a ddefnyddir ar gynhyrchion neu ddefnyddio tanwydd mwy gwyrdd yn y cerbydau sy'n cludo eu nwyddau i siopau
  • tynnu cemegion a allai niweidio'r amgylchedd o gynnyrch neu o broses gweithgynhyrchu

Sut ydych chi'n dewis, er enghraifft, darparwr ariannol 'gwyrdd'?

Os oes gennych chi arian wedi'i osod o'r neilltu, gallwch ei gynilo a/neu ei fuddsoddi. Gallwch wneud penderfyniad am ba fath o gynnyrch cynilion i'w ddewis, a pha ddarparwr, yn seiliedig ar ba mor 'wyrdd' ydyn nhw.

Mae ymgynghorydd ariannol annibynnol yn ddechrau da. Ni fydd gan bob ymgynghorydd wybodaeth fanwl am gwmnïau a chynhyrchion gwyrdd neu foesegol, felly mae'n syniad da gofyn am hyn wrth gysylltu am y tro cyntaf.

Beth am gwmnïau moesegol?

Gall bod yn sefydliad 'moesegol' ymdrin â maes eang, o les anifeiliaid a hawliau gweithwyr i fuddsoddi mewn cwmnïau a gwledydd sy'n cefnogi hawliau dynol yn unig.

Mae gan bobl wahanol farn am faterion moesegol - eich dewis chi yw pa ymchwil a wnewch ar gwmni neu sefydliad cyn penderfynu pa gynnyrch neu wasanaeth i'w brynu neu ei ddefnyddio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU