Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i gael cartref mwy gwyrdd: canllaw cyflym

Mae ynni a ddefnyddir yn y cartref yn gyfrifol am dros chwarter gollyngiadau carbon y DU, sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd – felly gall cymryd camau i arbed ynni wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallwch hefyd helpu yn y cartref drwy arbed dŵr, dewis offer, dodrefn a ffitiadau mwy gwyrdd, a llawer mwy.

1. Ewch ati i inswleiddio'n well

Mae tua hanner y gwres a gollir yn eich cartref yn dianc drwy'r waliau a'r to. Bydd inswleiddio waliau ceudod ac inswleiddio’r llofft yn atal gwres rhag dianc - a hefyd gallai arbed hyd at £180 y flwyddyn i chi ar filiau tanwydd. Mae cymorth ar gael i wneud inswleiddio’n fforddiadwy.

2. Edrychwch ar labeli er mwyn prynu teclynnau sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon

Edrychwch am y logo Energy Saving Recommended i arbed arian ac ynni wrth brynu cynnyrch

Dim ond y cynhyrchion mwyaf ynni-effeithlon sy'n cael defnyddio logo Energy Saving Recommended. Fel arfer, dyma'r 20 y cant gorau o'r cynhyrchion sydd ar gael. Mae Label Ynni Ewropeaidd ar lawer o offer hefyd, sy'n graddio effeithlonrwydd ynni ar raddfa o A (gorau) i G (gwaethaf), ac yn rhoi gwybodaeth am ddefnydd dŵr.

3. Defnyddiwch amseryddion a thermostatau

Drwy reoli'ch system wresogi, gallech arbed ynni ac arian. Gallai gostwng 1 radd ar dymheredd eich thermostat arbed cymaint â 10 y cant ar filiau gwresogi.

4. Newid i fylbiau arbed ynni

Gallai bwlb arbed ynni arbed £60 yn ystod oes y bwlb

Dewis bylbiau golau sy'n arbed ynni yw un o'r ffyrdd hawsaf o leihau eich defnydd ynni.

Gall bwlb golau sy'n arbed ynni bara hyd at 10 gwaith yn hirach na bylbiau aneffeithiol. Gallai dim ond un bwlb arbed ynni arbed oddeutu £600 yn ystod oes y bwlb, i gymharu ag un bwlb 100 wat safonol.

5. Prynu pren cynaliadwy

Ceisiwch ddewis dodrefn a deunyddiau DIY sydd wedi'u gwneud o bren a gynhyrchwyd mewn modd cynaliadwy – edrychwch am labeli gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth (FSC), y Rhaglen er Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) neu gynlluniau eraill sy'n ardystio coed cynaliadwy.

6. Golchwch eich dillad mewn llwythau llawn ar 30 gradd

Mae eich peiriant golchi'n defnyddio ynni a dŵr yn fwy effeithlon pan mae'n llawn, a bydd golchi ar dymheredd is yn arbed ynni hefyd.

7. Cadwch gyfansoddion organig anweddol yn isel

Gall cyfansoddion organig anweddol (VOCs), sydd i'w cael mewn paent, gorffeniadau a deunyddiau a roddir ar bren er mwyn ei gadw, fod yn niweidiol i bobl, bywyd gwyllt a phlanhigion. Mae label ar y rhan fwyaf o'r cynhyrchion hyn sy'n dangos faint o gyfansoddion organig anweddol sydd ynddynt, felly ceisiwch ddewis yr un sydd â'r lefel isaf ohonynt.

8. Diffoddwch offer yn hytrach na'u gadael yn y modd segur

Mewn cartref cyffredin, mae offer trydanol a adewir yn y modd segur yn gwastraffu chwech i ddeg y cant o'r holl ynni a ddefnyddir

Mewn cartref cyffredin, mae offer trydanol a adewir yn y modd segur yn gwastraffu chwech i ddeg y cant o'r holl ynni a ddefnyddir. Diffoddwch setiau teledu, stereos, gwefrwyr ffonau symudol a theclynnau eraill drwy ddefnyddio'r swits sydd arnynt, neu dynnu'r plwg, pan nad ydych yn eu defnyddio.

9. Gosodwch gynhyrchion arbed dŵr

Mae sestonau toiled â chyfaint fflysh isel, cawodydd sy'n defnyddio llai o ddŵr a thapiau sy'n cyfuno dŵr ac aer (heb ostwng gwasgedd y dŵr) ar dapiau basn ymolchi, yn helpu i leihau'n sylweddol faint o ddŵr a ddefnyddiwch.

10. Ewch ati i drwsio tapiau sy'n diferu

Gall tap sy'n diferu wastraffu hyd at 15 litr o ddŵr bob dydd, neu bron i 5,200 litr bob blwyddyn. Mae gosod wasier newydd yn ddull rhad o arbed dŵr, a dim ond ychydig funudau y bydd hyn yn ei gymryd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU