Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymchwilio i hanes eich teulu gan ddefnyddio cofnodion swyddogol

Gall tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth fod yn hanfodol o ran dod â darnau o hanes eich teulu at ei gilydd. Ceir amrywiaeth o gofnodion ardystiedig y gallwch gael gafael arnynt eich hun, neu gallwch gael cymorth proffesiynol gan achydd.

Cofnodion teulu a gedwir gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol

Mae'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yng Nghymru a Lloegr yn goruchwylio'r broses o gofrestru genedigaethau, priodasau, partneriaethau sifil, marwolaethau, genedigaethau marwanedig ac achosion o fabwysiadu ar gyfer Cymru a Lloegr ac yn cadw amrywiaeth eang o gofnodion a allai eich helpu i olrhain eich coeden deulu, gan ddechrau o 1837.

Ar gyfer digwyddiadau yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon

Er mwyn cael gafael ar gofnodion o'r digwyddiadau hyn, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol berthnasol drwy ddefnyddio'r dolenni isod.

Cofnodion o ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil

Os oes arnoch angen copi o ddyfarniad absoliwt neu orchymyn terfynol ar gyfer diddymu partneriaeth sifil, cysylltwch â'r llys lle rhoddwyd yr ysgariad neu'r diddymiad, neu â:

Phrif Gofrestrfa’r Adran Deulu/The Principal Registry of the Family Division, First Avenue House, 42-49 High Holborn, Llundain, WC1V 6NP
Ffôn: +44 (0) 207 947 7016 i gael pecyn gwybodaeth.

Cofrestr Plant sydd wedi'u Gadael

Er 1977, mae genedigaethau babanod sydd wedi'u gadael nad yw eu rhieni'n hysbys wedi'u cofnodi yn y Gofrestr Plant sydd wedi'u Gadael. Cyn hyn, cofrestrwyd y genedigaethau hyn yn swyddfa gofrestru'r ardal y daethpwyd o hyd i'r plentyn.

Gellir gwneud ceisiadau am dystysgrifau drwy ysgrifennu at y:

Swyddfa Gofrestru Gyffredinol/General Register Office, Adoptions, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH
Ffôn : +44 (0) 151 471 4830
Ffacs: +44 (0) 151 471 4755

adoptions@ips.gsi.gov.uk

Cofrestr Thomas Coram

Rhestr o blant a roddwyd dan ofal y Foundling Hospital rhwng 1853 ac 1948 yw Cofrestr Thomas Coram, sef lloches elusennol ar gyfer plant oedd wedi'u gadael. Fe'i sefydlwyd gan Thomas Coram yn 1793 ar gyfer 'addysgu a chynnal plant agored i niwed ac wedi'u gadael' yng nghanol Llundain. Fe'i gelwid cynt yn Sefydliad Thomas Coram ar gyfer Plant, ond heddiw gelwir yr elusen yn Coram Family ac mae'n parhau i weithio gyda phlant sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni ac yn cefnogi teuluoedd sy'n agored i niwed.

Dylid gwneud pob ymholiad ynghylch plant a fagwyd yn y Foundling Hospital, a cheisiadau am dystysgrifau cofnodion cofrestru drwy'r elusen:
Coram Family, Coram Community Campus, 49 Mecklenburgh Square, Llundain, WC1N 2QA
Ffôn: +44 (0)20 7520 0300
Gwefan: www.coram.org.uk

Bydd yr elusen yn trefnu i gael copi o'r dystysgrif gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Nodwch mai dim ond y fersiynau byr gyda manylion y plentyn - ond nid manylion y rhieni - y gellir eu cael o'r gofrestr hon.

Cael cymorth proffesiynol

Mae'n bosib y byddwch yn dymuno ymgynghori ag achydd proffesiynol neu asiant cofnodion achyddol. Neu, mae gan y Gymdeithas Achyddion ddetholiad o adnoddau cyfeirnod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU