Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i wasanaethau iechyd lleol ar eich ffôn symudol

Anfonwch neges destun i ddod o hyd i'ch cyfleusterau iechyd agosaf gyda gwasanaeth ffôn symudol Cross & Stitch. Defnyddiwch eich ffôn i ddod o hyd i feddygfeydd, fferyllfeydd, optegwyr, deintyddion, adrannau damweiniau ac achosion brys a mwy

Pam defnyddio peiriant chwilio GIG ar eich ffôn symudol?

Dewch o hyd i'ch cyfleusterau iechyd agosaf, gydag NHS Choices a Cross & Stitch

Ni allwch drefnu ar gyfer pob digwyddiad, yn enwedig os yw'n ymwneud ag iechyd.

Dyna pam fod NHS Choices a Cross & Stitch wedi lansio gwasanaeth newydd i'ch helpu i ddod o hyd i'ch cyfleusterau iechyd agosaf, lle bynnag y byddwch.

Felly os bydd angen unrhyw beth arnoch, boed yn blasteri, llenwadau, sbectol neu bwythau - gall Cross & Stitch eich rhoi ar ben ffordd.

Sut mae’n gweithio

Anfonwch neges destun gydag enw'r gwasanaeth sydd ei angen arnoch (gweler y rhestr lawn isod) at 64746

Byddwn yn dod o hyd i'ch cod post ac yn anfon rhestr o'r gwasanaethau agosaf atoch, ynghyd â chyfeiriadau, rhifau ffôn a mapiau. Drwy anfon neges destun at y gwasanaeth hwn bydd rhwydwaith eich ffôn symudol yn rhoi gwybod i ni am eich lleoliad ar unwaith - fodd bynnag, ni fyddwn yn storio'r wybodaeth hon.

Dilynwch y camau hyn:

1. Tecstiwch enw'r gwasanaeth sydd ei angen arnoch, e.e. 'A&E' i 64746

2. Yna byddwch yn cael neges destun gyda dolen ynddi

3. Agorwch y ddolen i gael rhestr o'r gwasanaethau agosaf

Costau

Yn yr un modd â'r wefan, ni fydd Cross & Stitch yn codi tâl arnoch am ddefnyddio unrhyw un o'u gwasanaethau symudol. Fodd bynnag, gallai eich gweithredydd ffôn symudol godi tâl arnoch am anfon neges destun a defnyddio'r rhyngrwyd ar eich ffôn.

Fel canllaw bras, os ydych chi'n talu £2 am bob MB (megabeit) o ddata, gallai gostio cyn lleied ag 1c i bori pum tudalen o Cross & Stitch. Bydd costau'n amrywio yn ôl eich contract felly holwch eich gweithredydd rhwydwaith i gael rhagor o wybodaeth

Rhestr lawn o wasanaethau

Dewiswch o blith y gwasanaethau canlynol:

  • Damweiniau ac achosion brys
  • gwasanaethau cymorth gyda chamddefnyddio alcohol (tecstiwch 'alcohol')
  • deintydd
  • Meddyg Teulu
  • mamolaeth
  • optegydd
  • fferyllfa
  • iechyd rhyw
  • rhoi'r gorau i ysmygu
  • canolfan galw i mewn (tecstiwch 'galw i mewn')

Allweddumynediad llywodraeth y DU