Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Angorfeydd cychod

Mae oddeutu 3,000 milltir o ddyfrffyrdd mewndirol yng Nghymru a Lloegr, sy'n cynnwys amrediad eang o angorfeydd. Os ydych chi'n ystyried byw ar gwch, sicrhewch eich bod yn deall yr holl agweddau ymarferol cysylltiedig.

Pa faterion y bydd angen i chi eu hystyried cyn penderfynu byw ar gwch?

Ni fydd byw ar gwch bob amser mor ddelfrydol ag y byddech yn ei ddisgwyl. Er ei fod, at ei gilydd, yn rhatach na byw mewn tŷ, mae 'na lawer o gostau ac ystyriaethau nad ydych o bosibl wedi'u hystyried. Bydd angen ichi feddwl am y canlynol:

  • prynu'r cwch iawn
  • dod o hyd i rywle i'w angori
  • cael trwydded, Tystysgrif Diogelwch Cychod ac yswiriant
  • gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio
  • y prif wasanaethau a chostau gwresogi

Cyngor ar brynu'r cwch iawn

Gallwch ystyried y pethau canlynol wrth ichi feddwl am brynu cwch:

  • hysbysebir cychod gan froceriaid arbenigol ac unigolion preifat trwy dudalennau nifer o gylchgronau misol a gwefannau
  • dylech sicrhau bod cwch yn cael arolygiad proffesiynol bob tro. Nid yw cychod yn codi mewn gwerth fel y mae brics a mortar
  • ar gyfartaledd, gwerth cwch ar gamlas yw oddeutu £25,000. Gall cost y cychod newydd drutaf fod dros filiwn

Dod o hyd i angorfa

Os nad ydych am aros yn yr un man, efallai y gallwch wneud heb angorfa gartref. Ar y dyfrffyrdd, a reolir gan amrywiaeth o awdurdodau mordwyo megis Asiantaeth yr Amgylchedd a Dyfrffyrdd Prydain, mae rheolau llym ar gyfer 'criwserau parhaus'. Rhaid i chi wirioneddol deithio o gwmpas y rhwydwaith, nid criwsio yn ôl ac ymlaen yn yr un ardal yn unig.

Defnyddio ac angori cychod preswyl

Mae'n well gan y rhan fwyaf o bobl gael angorfa mewn marina gyda mynediad hwylus at wasanaethau dŵr, carthffosiaeth a gwaredu sbwriel. Yn gyffredinol, mae angorfeydd o'r fath ar gyfer cychod preswyl yn costio o leiaf £90 y metr y flwyddyn.

Mae angorfeydd rhatach a symlach gyda llai o gyfleusterau ar gael ar hyd y dyfrffyrdd. Does dim gwarchodaeth ffurfiol, ac fel arfer ni fyddwch yn gallu cael mynediad ar hyd ffordd i'ch cwch.

Mae cytundebau ar gyfer angorfeydd yn para am 12 mis fel arfer.

Bydd y ddolen/dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Cael trwydded, Tystysgrif Diogelwch Cychod ac yswiriant

Os ydych yn berchen ar gwch, rhaid i chi wneud cais am drwydded, Tystysgrif Diogelwch Cychod ac yswiriant:

  • cyhoeddir y drwydded gan yr awdurdod mordwyo. Cyfrifoldeb Dyfrffyrdd Prydain neu Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r rhan fwyaf o'r dyfrffyrdd. Mae gan bob awdurdod system drwyddedu ar wahân
  • mae'r dystysgrif diogelwch yn debyg i MOT ac yn para am bedair blynedd
  • ar gyfer Dyfrffyrdd Prydain, rhaid i'ch cwch gael yswiriant ar gyfer unrhyw ddifrod y gallai'r cwch ei wneud i drydydd partïon

Gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gychod

Ceir iardiau cychod o gwmpas y dyfrffyrdd a fydd yn fodlon gwneud gwaith i chi. Dylech gyllidebu ar gyfer codi'r cwch o'r dŵr unwaith bob tair blynedd er mwyn ei archwilio a gwneud gwaith cynnal a chadw ar gorff y llong.

Yn yr adran hon...

Allweddumynediad llywodraeth y DU