Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dewis morgais - ble i ddechrau

Gyda channoedd o wahanol forgeisi ar gael ar y farchnad, mae'n anodd iawn gwybod ble i ddechrau. Gallwch ddefnyddio brocer morgeisi, neu siopa o gwmpas eich hun a mynd yn syth at fenthyciwr. Beth bynnag a ddewiswch, mae'n bwysig deall sut y rheolir ac y gwerthir morgeisi.

Defnyddio brocer

Rhaid i froceriaid morgeisi gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) neu mae'n rhaid iddynt fod yn asiantau i gwmnïau sydd wedi'u hawdurdodi. Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yw rheolydd ariannol y DU a sefydlwyd gan y llywodraeth i reoleiddio gwasanaethau ariannol ac i ddiogelu eich hawliau. Yn unol â'i safonau, rhaid i gwmnïau fod yn gymwys, mewn cyflwr ariannol da a rhaid iddynt drin eu cwsmeriaid yn deg.

Golyga hyn eu bod yn gorfod rhoi dogfennau penodol gyda'r arwydd 'Ffeithiau Allweddol' arnynt i chi. Mae fformat safonol i ddogfennau ffeithiau allweddol sy'n eich helpu i gymharu gwahanol wasanaethau a chynnyrch â'i gilydd. Dyma'r ddwy ddogfen ffeithiau allweddol sy'n gysylltiedig â morgeisi: 'Ffeithiau allweddol am ein gwasanaethau morgais' a 'Ffeithiau allweddol am y morgais hwn' (a elwir weithiau yn Ddatganiad Ffeithiau Allweddol - Key Facts Illustration).

Sicrhau bod eich ymgynghorydd wedi'i awdurdodi

Dim ond i chi ddelio gyda chwmni awdurdodedig neu asiant cwmni o'r fath, bydd gennych fynediad at drefniadau cwyno ac iawndal. I ganfod a yw cwmni wedi'i awdurdodi, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ‘Gwirio ein cofrestr’ yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Siopa o gwmpas a phrynu gan fenthyciwr

Yn hytrach na defnyddio ymgynghorydd ariannol neu frocer, gallwch siopa o gwmpas a threfnu morgais yn uniongyrchol gyda chymdeithas adeiladu, banc neu gwmni morgeisi arbenigol. Man cychwyn defnyddiol o bosibl yw cymharu'r hyn sy'n cael ei gynnig ar dablau morgeisi diduedd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Wrth gwrs bydd benthycwyr dim ond yn argymell eu morgeisi eu hunain - ond efallai y bydd ganddynt sawl math. Byddwch yn dal i dderbyn y dogfennau Ffeithiau Allweddol a ddisgrifiwyd uchod.

Y gwahaniaeth rhwng 'cyngor' am forgeisi a 'gwybodaeth' am forgeisi

Os ydych yn cael gwybodaeth ysgrifenedig am gynnyrch morgais, nid yw'n golygu eich bod wedi cael cyngor. Mae cael cyngor yn golygu bod yr ymgynghorydd yn edrych ar eich amgylchiadau penodol chi ac yn argymell morgais sy'n addas i chi. Mae prynu gyda chyngor yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa i gwyno a chael iawndal os canfyddwch yn ddiweddarach fod y morgais yn anaddas.

Os byddwch yn cymryd morgais dros y rhyngrwyd, dros y ffôn neu drwy'r post, efallai na fydd yr opsiwn gennych i gael cyngor. Ystyriwch a oes angen cyngor arnoch cyn i chi brynu.

Bydd y ddogfen ffeithiau allweddol 'Ynghylch ein gwasanaethau morgais' yn dweud wrthych a ydych yn cael gwybodaeth ynteu gyngor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU