Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweld statws MOT a hanes eich cerbyd ar-lein

Drwy ddefnyddio’r gwasanaeth gwirio MOT ar-lein, gallwch ganfod a yw tystysgrif MOT yn un ddilys neu a yw cerbyd wedi methu prawf MOT. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi manylion profion blaenorol i chi. Yma cewch wybod pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Beth yw MOT?

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o gerbydau sy’n hŷn na thair oed basio profion blynyddol i wneud yn siŵr eu bod yn addas i fod ar y ffordd. Mae’r prawf MOT yn sicrhau bod cerbydau yn bodloni safonau diogelwch ar y ffordd a safonau amgylcheddol y llywodraeth.

Dogfennau angenrheidiol

I weld statws MOT neu hanes cerbyd ar-lein, bydd angen rhif cofrestru'r cerbyd arnoch. Byddwch hefyd angen rhif y prawf MOT oddi ar un o'r dogfennau canlynol:

  • Tystysgrif prawf VT20
  • Tystysgrif gwrthod VT30

Os nad oes gennych eich tystysgrif VT20 neu VT30 ddiweddaraf, gallwch ddefnyddio cyfeirnod dogfen tystysgrif gofrestru V5C.

Ni allwch weld manylion eich cerbyd ar-lein heb yr wybodaeth hon.

Gweld statws MOT cyfredol y cerbyd

Gallwch weld statws MOT cyfredol unrhyw gerbyd ar-lein. Gallwch weld statws cerbyd rydych eisoes yn berchen arno neu gerbyd ail-law rydych chi'n ystyried ei brynu.

Drwy wirio statws MOT cerbyd ar-lein, cewch wybodaeth am y canlynol:

  • dyddiad y prawf diwethaf
  • nifer y milltiroedd ar y cerbyd adeg y prawf
  • y dyddiad y daw’r MOT i ben

Gallwch gymharu’r wybodaeth ar-lein â'r dystysgrif bapur i wneud yn siŵr ei bod yn dystysgrif ddilys.

Gweld hanes MOT cerbyd

I gael manylion profion MOT blaenorol y cerbyd, gallwch weld hanes MOT y cerbyd ar-lein.

Dim ond gwybodaeth hyd at 2005 y gallwch ei gweld ar-lein, gan mai dyma pryd gafodd system y Cynllun MOT ei rhoi ar gyfrifiadur.

Drwy wirio hanes MOT y cerbyd, gallwch gael yr wybodaeth ganlynol:

  • manylion llawn profion
  • nifer y milltiroedd adeg pob prawf

Allweddumynediad llywodraeth y DU