Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Manteision pensiwn cwmni neu bensiwn personol

Gallwch gynilo ar gyfer eich ymddeoliad mewn amryw o ffyrdd, ond mae gan bensiynau cwmni a phensiynau personol amryw o fanteision, ac felly gallant fod yn opsiwn deniadol. Gall hyn fod yn arbennig o wir os ydych yn cynilo ar gyfer y tymor hir. Yma cewch wybod sut mae pensiwn yn cymharu â chyfrif cynilo.

Manteision wrth gyfrannu: gostyngiad treth a chyfraniadau’r cyflogwr

Os byddwch yn rhoi £1 mewn cyfrif cynilo, dyna’r cyfan fydd yn y cyfrif. Am bob £1 a roddwch mewn cronfa bensiwn, bydd mwy na £1 yn mynd i’ch cronfa. Oherwydd pan roddwch arian mewn cronfa bensiwn, cewch ostyngiad treth ar eich holl gyfraniadau hyd at uchafswm blynyddol. Felly, am bob swm o arian a roddwch yn eich cronfa bensiwn, cewch ychydig yn ôl gan y llywodraeth hefyd.

Os oes gennych gynllun pensiwn gweithle, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniad hefyd. Gyda chyfraniad eich cyflogwr, yn ychwanegol at yr arian y byddwch chi'n ei gyfrannu, bydd y swm rydych yn ei gynilo ar gyfer y dyfodol yn cynyddu.

Enghraifft: cynllun pensiwn cwmni

Dyma enghraifft o sut y gall hyn weithio mewn cynllun cwmni pwrcasu arian:

  • mae Sonya yn rhoi £40 y mis o’i thâl yn ei chynllun pensiwn cwmni
  • mae cyfraniad pensiwn Sonya yn lleihau ei thâl trethadwy, felly mae’n talu llai o dreth ar gyfanswm ei thâl (fel rhywun sy’n talu treth ar y gyfradd sylfaenol, bydd bil treth Sonya yn cael ei leihau £8 – golyga hyn y bydd ei chyfraniad £40 ond yn costio £32 iddi hi)
  • mae cyflogwr Sonya yn rhoi £40 arall i mewn pob mis
  • felly, y cyfanswm sy’n mynd i mewn i gronfa bensiwn Sonya bob mis yw £80

Manteision wrth gynyddu’ch cronfa

Gyda chyfrif cynilo, cyfradd llog fydd yn pennu faint y bydd eich arian yn cynyddu. Gyda phensiwn, gallai’r cynnydd fod yn fwy o lawer.

Gyda phensiynau personol a phensiynau cwmni sy'n gynlluniau pwrcasu arian, bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau, neu mewn mathau eraill o fuddsoddiadau. Mae risg ynghlwm wrth hyn, ond yn gyffredinol bydd eich cronfa’n cynyddu dros amser ac rydych yn debygol o gael pensiwn mwy yn y tymor hir.

Manteision pan fyddwch yn hawlio'ch arian

Gyda chyfrif cynilo mae gennych reolaeth dros eich arian, a gan amlaf gallwch gael yr arian yn syth neu ar ôl cyfnod rhybudd byr. Ond, ar ôl ei wario, bydd yr arian wedi mynd.

Pwrpas pensiwn yw sicrhau incwm rheolaidd i chi am weddill eich oes – ac weithiau, ar gyfer eich dibynyddion hefyd ar ôl i chi farw. Felly does dim rhaid i chi boeni am ddefnyddio’r arian.

Ar ôl i chi benderfynu hawlio’ch arian, mae rhai pensiynau hefyd yn cynnig taliad un-swm di-dreth i chi.

Gan ddibynnu ar y cynllun, gallai hwn fod yn:

  • swm sy’n gysylltiedig â'ch cyflog
  • rhan o'r gronfa rydych wedi'i chronni hyd at eich ymddeoliad

Gan fod hyn yn golygu y byddai’n rhaid i chi gael rhywfaint o'r arian ar ffurf arian parod, byddech yn cael llai o incwm rheolaidd.

Beth sy’n digwydd i’ch arian os byddwch chi’n marw

Pan fyddwch yn sefydlu eich trefniadau pensiwn, byddwch yn enwi buddiolwr. Dyma’r sawl yr hoffech iddo gael yr arian petaech chi’n marw. Os byddwch chi’n marw cyn dechrau hawlio'ch pensiwn, bydd y buddiolwr yn cael un o’r canlynol:

  • taliad un-swm
  • ad-daliad o’ch holl gyfraniadau
  • incwm rheolaidd, a allai gynnwys swm ar gyfer plant dibynnol

Os byddwch chi’n marw ar ôl dechrau hawlio eich pensiwn, bydd hyn yn dibynnu ar y math o bensiwn sydd gennych a rheolau’r pensiwn hwnnw.

Os byddwch chi’n rhoi’r gorau i gyfrannu, yn colli’ch swydd neu'n cael swydd newydd

Ffaith allweddol

Os na allwch gofio eich hen bensiwn cwmni neu bensiwn personol, ffoniwch y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau ar 0845 6002 537

Os byddwch yn rhoi’r gorau i gyfrannu tuag at eich pensiwn, ni fydd eich arian yn diflannu. Byddwch yn dal yn aelod o’r cynllun. Mae’n siŵr y bydd eich cronfa’n dal i gynyddu ac felly byddwch yn dal i gael gwerth y gronfa pan fyddwch yn penderfynu dechrau ei hawlio.

Gyda rhai cynlluniau cwmni, mae’n bosib dewis rhoi'r gorau i gyfrannu am gyfnod penodol. Os byddwch yn gwneud hyn, mae’n bosib y bydd eich cyflogwr yn parhau i gyfrannu.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch hefyd yn gallu trosglwyddo hen bensiwn rydych wedi rhoi'r gorau i gyfrannu iddo i gronfa bensiwn newydd.

Efallai y byddwch yn dewis gwneud hyn os ydych wedi newid eich swydd. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, dylech ofyn am gyngor ariannol annibynnol.

Beth bynnag sy’n digwydd, ni fydd yr arian rydych wedi’i gronni’n diflannu.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU