Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Enghreifftiau o bwy fydd a phwy na fydd yn cael eu cofrestru mewn pensiwn yn y gweithle o 2012 ymlaen

Mae'n dibynnu ar eich sefyllfa, gan gynnwys faint rydych yn ei ennill a'ch oedran, p'un a fyddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig mewn pensiwn yn y gweithle ai peidio. Gall yr enghreifftiau canlynol eich helpu i ganfod sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi.

Bydd Fiona yn cael ei chofrestru'n awtomatig ym mhensiwn gweithle ei chyflogwr

Mae Fiona yn 27 oed ac yn ennill £37,000 y flwyddyn yn gweithio i gwmni recriwtio ymgynghorol. Nid yw eisoes yn aelod o bensiwn gweithle ei chyflogwr. Gan fod Fiona yn ennill mwy na £8,105 y flwyddyn ac mae hi dros 22 oed, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'w chyflogwr ei chofrestru'n awtomatig yn y pensiwn a thalu i mewn i'r cynllun. Bydd hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf gostyngiad yn y dreth.

Ni fydd Raj yn cael ei gofrestru'n awtomatig ym mhensiwn y gweithle gan ei gyflogwr

Mae Raj yn 20 oed, yn ennill £17,000 y flwyddyn yn gweithio i gontractwr adeiladu ac nid yw eisoes yn aelod o bensiwn gweithle ei gyflogwr. Gan fod Raj o dan 22 oed, nid oes rhaid i'w gyflogwr ei gofrestru'n awtomatig ym mhensiwn y gweithle. Fodd bynnag, gall Raj ofyn am ymuno â'r pensiwn. Os bydd yn gwneud hynny, mae'n rhaid i'w gyflogwr ei gofrestru a thalu i mewn iddo. Byddai hefyd yn cael cyfraniad gan y llywodraeth ar ffurf gostyngiad yn y dreth.

Ni fydd Peter yn cael ei gofrestru'n awtomatig ym mhensiwn y gweithle gan ei gyflogwr

Mae Peter yn 42 oed ac yn ennill £4,500 y flwyddyn yn glanhau i elusen fach. Nid yw'n aelod o bensiwn yr elusen. Am fod Peter yn ennill llai na £8,105 y flwyddyn, nid oes rhaid i'w gyflogwr ei gofrestru'n awtomatig. Fodd bynnag, gall Peter ofyn i'w gyflogwr ei gofrestru mewn pensiwn, ac os bydd yn gofyn am hyn, rhaid i'w gyflogwr wneud hynny. Gan fod Peter yn ennill llai na £5,564 y flwyddyn, nid oes rhaid i'w gyflogwr dalu i mewn i'r cynllun pensiwn, ond gall ddewis gwneud hynny. Efallai y caiff gyfraniad gan y llywodraeth hefyd ar ffurf gostyngiad yn y dreth - byddai'n rhaid iddo ofyn i bwy bynnag sy'n rhedeg ei gynllun pensiwn.

Mae Julie eisoes yn aelod o bensiwn gweithle ei chyflogwr

Mae Julie'n 59 oed ac yn ennill £45,000 y flwyddyn yn gweithio i gwmni cyhoeddi. Mae Julie'n aelod o bensiwn gweithle ei chyflogwr. Mae ei chyflogwr yn talu i mewn i'r cynllun pensiwn, mae'r llywodraeth yn talu i mewn iddo drwy ostyngiad yn y dreth ac mae'r pensiwn yn bodloni safonau newydd y llywodraeth. Gan ei bod eisoes ym mhensiwn y gweithle, ni fydd Julie'n cael ei chofrestru'n awtomatig.

Gostyngiad yn y dreth

Mae gostyngiad yn y dreth yn golygu bod rhywfaint o'r arian rydych yn ei ennill, yn hytrach na mynd i'r llywodraeth fel treth incwm, yn mynd i mewn i'ch pensiwn yn lle hynny.

Beth yw pensiwn yn y gweithle

Ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad a drefnir drwy eich cyflogwr yw pensiwn yn y gweithle. Weithiau cyfeirir ato fel 'pensiwn cwmni', 'pensiwn galwedigaethol' neu 'bensiwn gwaith’.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU