Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2010 ymlaen

Newidiodd Pensiwn y Wladwriaeth o 6 Ebrill 2010. Bellach, mae mwy o bobl yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth. Yma, cewch wybod am y newidiadau pwysicaf a beth fyddant yn ei olygu i chi.

Bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth

Ar 6 Ebrill 2010, newidiodd y ffordd o fod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth:

  • i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, dim ond 30 blwyddyn gymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y bydd eu hangen arnoch (yn y gorffennol, roedd ar ddynion fel arfer angen 44 blwyddyn, ac ar ferched angen 39 blwyddyn)
  • bydd un flwyddyn gymwys unigol yn rhoi hawl i chi gael o leiaf rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • bydd yn haws i rieni a gofalwyr gael blynyddoedd cymwys tuag at Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi dros 55 mlwydd oed, neu os ydych chi'n gofalu am rywun, dylech edrych sut gallai'r newidiadau effeithio arnoch chi.

Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn cynyddu yn y dyfodol. O fis Rhagfyr 2018 bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod yn dechrau cynyddu i gyrraedd 66 erbyn mis Hydref 2020. Bydd hyn yn golygu y bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn cynyddu’n fwy cyflym i 65 oed rhwng mis Ebrill 2016 a mis Tachwedd 2018.

I gael gwybod mwy gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’

Beth fydd y newidiadau yn ei olygu i chi

Bydd beth fydd hyn yn ei olygu i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gellir gweld rhai o'r enghreifftiau pwysicaf ar y dudalen hon.

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr

Os ydych chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny efallai y byddwch yn gymwys am gredydau Yswiriant Gwladol (YG) os ydych yn:

  • rhiant a chanddo blentyn dibynnol o dan 12 mlwydd oed
  • gofalwr maeth cymeradwy
  • unigolyn sy’n gofalu am un neu ragor o bobl sy’n sâl neu’n anabl am 20 awr yr wythnos neu ragor

Dylai unrhyw gyfnodau o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref (DCC) a oedd gennych cyn 6 Ebrill 2010 gael eu trosi'n flynyddoedd o gredydau Yswiriant Gwladol. Mae hyn hyd at uchafswm o 22 blwyddyn.

Os ydych chi'n briod neu'n bartner sifil

O’r blaen, gallai rhai gwragedd priod gael rhagor o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar sail gofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol eu gwŷr. O fis Mai 2010 ymlaen, dechreuodd hyn dod yn berthnasol yn raddol i wŷr priod a phartneriaid sifil hefyd.

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio cynnydd hyd yn oed os nad ydy’ch cymar neu’ch partner sifil wedi hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ei hun. Bydd hyn ar yr amod eich bod chi ill dau wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oes oedolyn sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol

Nid yw hi bellach yn bosib cael cynnydd newydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer oedolyn arall - 'Cynnydd ar gyfer Oedolion Dibynnol'. Cynnydd ydoedd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gŵr neu rywun:

  • a oedd yn gofalu am eich plant
  • a ystyrir bod ef neu hi yn ddibynnol arnoch yn ariannol

Os oeddech chi eisoes yn cael y cynnydd hwn ar 5 Ebrill 2010, cewch ei gadw tan nad ydych yn bodloni'r amodau ar gyfer y cynnydd mwyach neu tan 5 Ebrill 2020, pa un bynnag ddaw gyntaf.

Newidiadau i daliadau budd-dal a fydd yn dechrau o fis Ebrill 2010 ymlaen

Bydd y newidiadau hefyd yn effeithio ar daliadau Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, cewch eich talu am-yn-ôl ar ddiwrnod a fydd yn gysylltiedig â'ch rhif Yswiriant Gwladol. Golyga hyn y cewch eich talu ar ddiwedd eich wythnos dalu, nid o’r dechrau. Eich diwrnod talu fydd y diwrnod y byddwch fel arfer yn cael eich talu (a elwir weithiau ‘y diwrnod y daw eich wythnos dalu i ben').

Rhif Yswiriant Gwladol

Y rhif a gewch pan fyddwch yn dechrau gweithio am y tro cyntaf neu pan fyddwch yn hawlio budd-dal am y tro cyntaf yw’r rhif Yswiriant Gwladol. Fel arfer, bydd i’w weld ar y llythyrau y bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn eu hanfon atoch.

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn defnyddio dau rif olaf eich rhif Yswiriant Gwladol er mwyn pennu'r diwrnod newydd y daw eich wythnos dalu i ben. Dangosir hyn yn y tabl canlynol.

Dau rif olaf y rhif Yswiriant Gwladol

Y diwrnod y daw’r wythnos dalu i ben

00 i 19 Dydd Llun
20 i 39 Dydd Mawrth
40 i 59 Dydd Mercher
60 i 79 Dydd Iau
80 i 99 Dydd Gwener

Er enghraifft, os QQ 12 34 56 A yw eich rhif Yswiriant Gwladol, dydd Mercher fydd y diwrnod y daw eich wythnos dalu i ben.

Os oeddech chi eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu os cyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Os bydd hyn yn berthnasol i chi, ni fydd y newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth yn cael llawer o effaith arnoch.

Mae gyfradd Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn o fis Ebrill ymlaen gan o leiaf lefel y cynnydd yn enillion cyfartalog. Polisi presennol y Llywodraeth yw bod Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn gan beth bynnag yw’r uchaf o un o’r canlynol:

  • cynnydd yn enillion cyfartalog
  • cynnydd ym mhrisiau
  • neu 2.5 y cant

Nid yw hyn yn berthnasol i’r ychwanegiadau i Bensiwn y Wladwriaeth. Mae rhannau ychwanegol Pensiwn y Wladwriaeth fel arfer yn cynyddu yn unol â’r cynnydd mewn prisiau.

Felly yn 2012-13 bydd Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cynyddu yn ôl y Mynegai Prisiau Manwerthu.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi gohirio hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn barod ac wedi gohirio hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch dal gael amcangyfrif o’ch hawl. Bydd hwn yn seiliedig ar y dyddiad yr ydych yn bwriadu ei hawlio yn y dyfodol.

Gallwch naill ai:

Os ydych chi'n gymwys i gael Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n bensiynwr sy’n byw ym Mhrydain Fawr efallai bod gennych chi'r hawl i gael Credyd Pensiwn. Bydd yn sicrhau y caiff pobl lefel sylfaenol o incwm. Bydd hefyd yn gwobrwyo'r rheini sy’n 65 oed neu’n hŷn sydd wedi cynilo ychydig tuag at eu hymddeoliad.

Mae’r oedran y gallwch gael Credyd Pensiwn yn newid. I gael gwybod mwy ynghylch Credyd Pensiwn gweler ‘Credyd Pensiwn – cyflwyniad’.

Allweddumynediad llywodraeth y DU