Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y ffurflen gais ar gyfer pasbortau cyfunol

I wneud cais am basbort cyfunol, mae'n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais benodol o leiaf chwe wythnos cyn yr ydych yn bwriadu teithio. Yma, gallwch lwytho'r ffurflen gais a chael gwybod sut i'w llenwi.

Y pethau sylfaenol

Os nad ydych wedi gwneud cais am basbort cyfunol yn y gorffennol, sicrhewch eich bod wedi darllen 'Pasbort cyfunol a phwy gaiff ei ddefnyddio'.

Gwybodaeth am y ffurflen gais

Llenwi'r ffurflen ar-lein

Rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein cyn ei hargraffu - ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei derbyn os byddwch chi’n ei hargraffu ac ei llenwi â llaw

Mae ffurflen gais benodol ar gyfer pasbortau cyfunol. Gallwch gael copi mewn tair ffordd. Gallwch:

  • lwytho'r ffurflen gais am Basbort Cyfunol oddi ar y we fel PDF
  • ffonio Llinell Gymorth Pasbortau y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 11.00 pm)
  • anfon e-bost at y Swyddfa Basbort yn Durham sy'n delio â phasbortau cyfunol

Llenwi'r ffurflen ar-lein yw'r ffordd gyflymaf a mwyaf diogel o lenwi'r ffurflen. Dylech lenwi'r ffurflen ac yna ei chadw ar eich cyfrifiadur. Yna gallwch ei hanfon ar neges e-bost yn uniongyrchol i'r Swyddfa Basbort yn Durham. Os nad ydych am lenwi'r ffurflen nawr, gallwch gadw fersiwn gwag ohoni ar eich cyfrifiadur a'i llenwi nes ymlaen. Ni fydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn derbyn ffurflenni electronig sydd wedi'u hargraffu a'u llenwi â llaw. Rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais ar y sgrin cyn ei hargraffu.

Unwaith y byddwch wedi e-bostio eich ffurflen gais wedi'i chwblhau mae'n rhaid i chi hefyd argraffu copi papur ohoni. Dylai Arweinydd a Dirprwy Arweinydd eich grŵp lofnodi'r ffurflen. Mae'n rhaid i chi anfon y copi papur hwn o'r ffurflen gais i Durham ynghyd â'r ffi a'r dogfennau ategol. Gweler 'Dogfennau ategol ar gyfer pasbortau cyfunol' i gael y manylion llawn am hyn.

Dyma gyfeiriad e-bost Swyddfa Basbort Durham durhamcollectives@ips.gsi.gov.uk

Llenwi'r ffurflen gais

Tudalen 1 y ffurflen

I lenwi'r ffurflen hon bydd angen i chi roi manylion am y canlynol:

  • yr ysgol neu'r mudiad
  • y daith
  • enwau'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd fel y mae eu henwau'n ymddangos ar eu pasbort cyfredol

Mae'n rhaid i'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd lofnodi'r datganiad.

Tudalen 2 y ffurflen

Mae'n rhaid llenwi'r rhestr o aelodau'r parti mewn PRIFLYTHRENNAU gyda chyfenwau yn ôl trefn yr wyddor, gan gynnwys y canlynol gyda phob cofnod:

  • enw cyntaf
  • tref a gwlad enedigol (yn llawn, e.e. 'Stoke on Trent' nid 'Stoke', ond cewch dalfyrru enw'r wlad i'r 'DU' lle bo'n briodol)
  • dyddiad geni
  • tref breswylio (yn llawn)

Gallai'r enghraifft isod fod yn ddefnyddiol.

Pryd y dylech anfon y ffurflen gais ac i ble

Dylech anfon eich ffurflen gais o leiaf chwe wythnos cyn dyddiad eich taith.

Ar ôl ei llenwi, anfonwch eich ffurflen gais, y cardiau llun, y ffi a'r dogfennau ategol i:

Collective Passport Applications
Millburngate House
PO Box 302
Durham DH1 9ZL

Dim ond os byddwch wedi llenwi'r ffurflen gais yn gywir ac wedi darparu'r wybodaeth a'r dogfennau cywir y bydd y cyfnod prosesu o chwe wythnos yn berthnasol.

Gadewch fwy o amser ar gyfer fisas

Dylech sicrhau mwy o amser os bydd angen i chi wneud cais am fisa cyn i chi deithio. Dylech gysylltu â llysgenhadaeth neu is-genhadaeth y wlad rydych yn ymweld â hi i holi a oes angen fisas ar deithwyr ar basbortau cyfunol.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU