Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bod yn fwy gwyrdd bob dydd

Brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd fydd un o'r pethau pwysicaf a wna'r genhedlaeth hon, ac rydych chi'n rhan o'r holl beth! Mae angen i bawb gymryd rhan. Os ydych chi'n dymuno gwneud eich rhan er mwyn helpu'r blaned, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud sy'n garedig tuag at yr amgylchedd.

Siopa

Chwiliwch am y labeli gwyrdd

Chwiliwch am labeli sy'n dangos bod cynhyrchion wedi'u gwneud gyda pharch at yr amgylchedd. Mae nifer o gynlluniau labelu gwyrdd dibynadwy ar gael ar gyfer bwyd, dillad a nwyddau trydanol megis setiau teledu a chwaraewyr MP3.

Prynu bwyd

Mae cynhyrchu, cludo a bwyta bwyd yn gyfrifol am bron i draean o'n cyfraniad at newid yn yr hinsawdd.

Er enghraifft, nid dim ond meddwl am yr ynni a ddefnyddir i dyfu pethau mewn ty gwydr cynnes y mae'n rhaid i ni, ond pethau megis y tanwydd a ddefnyddir i'w cludo mewn awyren i'r wlad hefyd.

Os ydych chi eisiau gwneud dewisiadau mwy gwyrdd am y math o fwyd yr ydych ei fwyta, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud.

Cynnyrch Masnach Deg

Gallwch brynu cynnyrch masnach deg mewn siopau a chaffis – chwiliwch am y nod MASNACH DEG (FAIRTRADE). Golyga hyn fod y cynhyrchwyr yn cael cyflog iawn a phris teg am eu nwyddau. Mae'n debygol hefyd fod y broses o gynhyrchu'r nwyddau wedi cael llai o effaith ar yr amgylchedd.

Gartref - ailgylchu ac arbed ynni

Gallwch wneud llawer o bethau syml gartref i arbed ynni - megis diffodd y goleuadau os mai chi yw'r olaf i adael ystafell.

Gellir ailgylchu bron i ddwy ran o dair o sbwriel y cartref - ac mae hyn yn cynnwys deunydd pecynnu bwyd, gwydr a phlastig.

Setiau teledu a nwyddau trydanol

Mae'r teledu ac offer electronig arall - megis consolau a chwaraewyr MP3 - yn gwastraffu trydan os nad ydynt yn cael eu diffodd yn iawn, ac mae'n hawdd unwaith i chi ddechrau arfer! Drwy roi eich teledu yn y modd segur, dim ond defnyddio trydan y byddwch nad oes ei angen arnoch.

Mae'r teledu'n defnyddio llawer o ynni, felly, os ydych chi - neu rywun yr ydych yn byw ag ef - yn meddwl prynu set, gall prynu teledu sy'n defnyddio ynni'n effeithlon wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Cyfrifiaduron, teclynnau a ffonau symudol

Mae cynhyrchu cyfrifiaduron a theclynnau electronig yn gallu defnyddio meintiau mawr o ynni a deunyddiau crai. Drwy ddefnyddio llai o ynni, a chael gwared yn ofalus ar offer nad oes mo'u hangen arnoch, gallwch leihau effaith niweidiol nwyddau electronig ar yr amgylchedd.

Os oes gennych ffôn symudol newydd ac am gael gwared ar eich hen ffôn, peidiwch â'i daflu i'r bin. Yn ogystal â helpu'r amgylchedd, gallwch hefyd godi arian ar gyfer elusen trwy ei ailgylchu.

Efallai fod gan eich awdurdod lleol gynllun ailgylchu ffonau symudol, neu mae rhai elusennau'n cynnal digwyddiadau rheolaidd lle gallwch roi eich ffôn iddynt.

A chofiwch dynnu plwg eich gwefrydd o'r wal neu ei ddiffodd yn y soced.

Gwirfoddoli gwyrdd

Ceir llawer o gyfleoedd i fynd i'r afael â phroblemau amgylcheddol a gwella'ch ardal leol. Beth am holi am wirfoddoli gwyrdd lle'r ydych chi'n byw.

Gwneud eich grŵp neu eich clwb yn fwy gwyrdd

Os ydych chi'n perthyn i glwb neu grŵp cymunedol gallwch wneud pethau gyda'ch gilydd er lles yr amgylchedd. Er enghraifft, gallech wneud yn siwr fod eich canolfan hamdden leol yn darparu biniau ailgylchu ar gyfer yr holl boteli plastig gwag hynny.

Os ydych yn rhan o grŵp, gallwch wneud pethau ar raddfa fwy.

Yn yr ysgol neu’r coleg

Gallwch wneud llawer o bethau gartref i sicrhau eich bod yn arbed ynni a dŵr. Gallwch wneud rhai pethau a all helpu yn yr ysgol hefyd - a chael eraill i gymryd rhan.

Cael gwybod mwy am droi'n wyrdd

Mae gan Cross & Stitch adran gyfan sy'n delio gyda materion amgylcheddol a byw'n wyrdd. Mae'n cynnwys gwybodaeth a syniadau i bawb sy'n meddwl am ffyrdd o wneud eu cartref, eu hysgol neu eu man gwaith yn fwy ynni-effeithlon.

Ceir gwybodaeth hefyd am newid yn yr hinsawdd a'n heffaith ni ar y blaned.

Allweddumynediad llywodraeth y DU