Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Taliadau uniongyrchol i ofalwyr – trefnu cymorth a gwasanaethau

Taliadau gan y cyngor lleol yw taliadau uniongyrchol. Maent ar gael i unrhyw un sydd wedi cael asesiad sy'n nodi bod angen cymorth arnynt gan y gwasanaethau cymdeithasol. Fel arfer, gallwch eu cael os ydych yn ofalwr sy'n 16 oed neu'n hŷn.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio taliadau uniongyrchol

Gellir defnyddio'r taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau gan sefydliad neu i gyflogi rhywun i ddarparu cymorth. Fel gofalwr, gallwch ddefnyddio taliad uniongyrchol i brynu'r gwasanaethau y mae asesiad wedi dangos bod eu hangen arnoch er mwyn eich cefnogi yn eich rôl fel gofalwr. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth a allai helpu i gynnal eich iechyd a'ch lles. Er enghraifft, gwersi gyrru neu wyliau er mwyn i chi gael amser i chi'ch hun.

Os yw asesiad yn nodi bod angen cymorth domestig arnoch, gallwch ofyn am daliad uniongyrchol a phrynu'r gwasanaethau cefnogi y mae eu hangen arnoch.

Nid yw taliadau uniongyrchol – arian gan y cyngor lleol i dalu am wasanaethau gofal – yr un fath â Thaliad Uniongyrchol – pensiynau a budd-daliadau a delir yn syth i gyfrif.

Beth na ellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar eu cyfer

Chewch chi ddim defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau ar gyfer y person yr ydych yn gofalu amdano. Dim ond ar gyfer sicrhau'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, fel gofalwr, yn unol â'r asesiad, y gellir gwario'r taliadau uniongyrchol.

Ni allwch chwaith ddefnyddio taliadau uniongyrchol i sicrhau gwasanaeth gan eich cymar neu'ch partner sifil, perthnasau agos neu unrhyw un sy'n byw yn yr un cartref â chi, onid yw'r person hwnnw wedi'i recriwtio'n benodol gennych i fyw gyda chi ac i weithio i chi.

Ceir rhai amgylchiadau eithriadol, y gall y cyngor gytuno arnynt gyda chi.

Pwy sy'n gymwys

Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau cymdeithasol

Rhaid i'ch cyngor lleol roi dewis i chi i gael taliadau uniongyrchol yn lle'r gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn ar hyn o bryd. Ni allwch gael taliadau uniongyrchol dan rai amgylchiadau. Gall eich cyngor roi gwybodaeth i chi am y rhain.

Os nad ydych yn derbyn gwasanaethau cymdeithasol

Er mwyn derbyn taliadau uniongyrchol, bydd angen i chi gysylltu â'ch cyngor lleol i ofyn iddynt asesu'ch anghenion.

Taliadau uniongyrchol ar gyfer pobl anabl

Mae taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer pobl anabl hefyd os yw asesiad wedi dangos bod angen cymorth arnynt gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Os oes gennych gyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl, gellir gwneud taliadau uniongyrchol i chi er mwyn i chithau eu defnyddio i gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer eich plentyn.

Faint allwch chi ei gael

Bydd y swm a dderbyniwch yn dibynnu ar asesiad eich cyngor lleol o'ch anghenion. Gwneir y taliadau uniongyrchol yn syth i'ch cyfrif mewn banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post neu Gynilion Cenedlaethol.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw taliadau uniongyrchol yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu cael.

Sut mae gwneud cais am daliadau uniongyrchol yn lleol

Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau gan eich cyngor lleol, holwch am daliadau uniongyrchol. Os ydych yn gwneud cais am wasanaethau am y tro cyntaf, dylai adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol drafod yr opsiwn taliadau uniongyrchol gyda chi wrth asesu'ch anghenion.

Bydd y ddolen isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth a/neu wneud cais ar-lein.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Os bydd anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano yn newid - er gwell neu er gwaeth, yn yr hirdymor neu yn y tymor byr - cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosibl er mwyn iddynt allu ailasesu lefel y taliadau y mae eu hangen arnoch.

Teuluoedd

Gall cynghorau lleol adolygu taliadau uniongyrchol wrth i anghenion plant a theuluoedd newid gydag amser, fel sy'n digwydd pan fydd teuluoedd yn derbyn gwasanaethau'n uniongyrchol gan gyngor.

Llyfrynnau gwybodaeth y gellir eu llwytho oddi ar y we

Mae gan yr Adran Iechyd ddau lyfryn gwybodaeth am daliadau uniongyrchol. Mae un ohonynt yn fersiwn hawdd ei darllen. Gellir eu llwytho oddi ar wefan yr Adran Iechyd neu gellir eu harchebu dros y ffôn neu ar-lein.

Enw'r llyfryn safonol yw 'A guide to receiving direct payments from your local council' (cod 31006).

Enw'r llyfryn hawdd ei ddarllen yw 'An easy guide to direct payments' (cod 33291).

Os archebwch y llyfryn hawdd ei ddarllen dros y ffôn, gallwch ofyn am becyn sy'n cynnwys llyfr, CD-ROM a thâp sain.

I archebu copi o'r naill gyhoeddiad neu'r llall, ffoniwch linell archebu cyhoeddiadau'r Adran Iechyd. Dyfynnwch y rhif cod.

Ffôn: 08701 555 455

Ffôn testun: 08700 102 870

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Additional links

Cynghorydd budd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU