Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llygredd: cyflwyniad

Mae llygredd a greir gan ddiwydiant, cartrefi, cerbydau a ffermydd yn achosi problemau iechyd i bobl ac anifeiliaid. Gall effeithio ar yr aer y byddwn yn ei anadlu ac ar ansawdd y dŵr yn ein hafonydd, ein llynoedd a'n moroedd.

Newid yn yr hinsawdd

Newid yn yr hinsawdd sydd ar frig y rhestr o broblemau y mae llygredd yn eu hachosi, a'r defnydd o ynni, trafnidiaeth a phrosesau diwydiannol sy'n bennaf gyfrifol am hyn.

Mathau o lygredd

Rhoi gwybod am achosion o lygredd

Gallwch roi gwybod am achosion o lygredd drwy ffonio'r llinell gymorth 24 awr ar 0800 807060

Mae effeithiau llygredd i'w gweld mewn dyfroedd, gan y gall plaladdwyr niweidio pysgod a phlanhigion. Yn yr aer, gall gronynnau mân effeithio ar bobl a chanddynt broblemau anadlu, a gall nitrogen deuocsid achosi glaw asid.

Yn gyffredinol, ceir dau fath o lygredd:

Llygredd un ffynhonnell
Gelwir llygredd sy'n dod o un ffatri neu allfa benodol yn llygredd un ffynhonnell.

Llygredd gwasgaredig
Gelwir llygredd sy'n dod o nifer o ffynonellau, dros ardaloedd mawr, yn llygredd gwasgaredig. Er enghraifft:

  • plaladdwyr a ddefnyddir ar ffermydd, lleiniau o dir, mannau hamdden (ee cyrsiau golff a pharciau) neu erddi - gall y rhain gael eu cludo i ddŵr
  • mwg o egsôsts cerbydau sy'n cynnwys gronynnau mân a nitrogen deuocsid
  • deunydd gwrth-dân a ddefnyddir ar eitemau megis dillad a dodrefn
  • sylweddau yn y cartref sy'n mynd i lawr y draen, megis cynhyrchion glanhau
  • gweddillion o'r egsôst sy'n cymysgu gyda'r dŵr a ddefnyddiwch i olchi eich car
  • metalau wedi ymdoddi o hen bibellau plwm
  • hormonau o'r bilsen atal cenhedlu

Llygredd o safleoedd diwydiannol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio llygredd o unedau diwydiannol mawr. Mae'n rhaid i bob safle diwydiannol roi amcangyfrifon o'r sylweddau y maent yn eu gollwng bob blwyddyn a rhoi gwybod os byddant wedi gollwng mwy na hynny.

Mae'r rheoleiddio hwn yn ystyried effaith y gollyngiadau hyn ar iechyd pobl ac ar yr amgylchedd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw cofnod blynyddol o wybodaeth am ollwng llygryddion, ac mae ar gael i'r cyhoedd.

Achosion o lygredd

Gall achosion o lygredd megis gollyngiadau olew neu ryddhau carthion amrwd ar ddamwain niweidio'r amgylchedd. Gall y digwyddiadau hyn ladd pysgod a bywyd dŵr arall, a gallant fygwth iechyd pobl. Mae digwyddiadau eraill, megis tipio anghyfreithlon, yn diraddio cymdogaethau ac yn difetha cefn gwlad.

Yn 2005, cafwyd bron i 1,000 o achosion o lygredd. Cafodd y rhain effaith ddifrifol ar yr amgylchedd yng Nghymru a Lloegr, ac fe achosodd dros 100 o'r rhain ddifrod enfawr i'r amgylchedd.

Yn 2005, carthion a deunyddiau gwastraff - fel asbestos, sbwriel cartref a rhannau cerbydau - oedd y llygryddion mwyaf cyffredin. Cemegion (cemegion peryglus, gan amlaf) oedd y llygryddion mwyaf cyffredin yn yr achosion mwyaf difrifol. Roedd dros hanner yr achosion o lygredd domestig yn cynnwys llygryddion peryglus.

Erlyn a rhoi gwybod am ddigwyddiadau

Bydd cwmnïau a fydd yn gyfrifol am achosion difrifol o lygredd yn cael eu herlyn. Yn 2005, erlynodd Asiantaeth yr Amgylchedd 317 o fusnesau, a arweiniodd at gyfanswm dirwyon o dros £2.7 miliwn. Yn ogystal â rhoi dirwyon i bobl sy'n llygru, gellir eu hanfon i'r carchar neu roi cosbau eraill iddynt.

I roi gwybod am achosion o lygredd, ffoniwch y llinell frys 24 awr yn rhad ac am ddim ar 0800 807 060.

Llygredd aer

Ceir oddeutu 150 achos difrifol o lygredd bob blwyddyn sy'n cael effaith ddifrifol ar ansawdd yr aer. Y diwydiant gwastraff sy'n achosi dros hanner y rhain, a hynny'n aml drwy losgi gwastraff sy'n achosi mwg. Mae arogleuon drwg o safleoedd tirlenwi, a chyfleusterau gwastraff eraill, hefyd yn gyffredin.

Un o'r prif bethau eraill sy'n cyfrannu at lygredd aer a newid yn yr hinsawdd yw trafnidiaeth. Mae'r cynnydd yn nifer y siwrneiau mewn car yn effeithio ar yr amgylchedd.

Gall llygredd aer sbarduno pyliau o asthma, a thybir ei fod yn achosi cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty a marwolaethau cynnar. Gallwch helpu i wella'r aer yr ydych yn ei anadlu drwy wneud newidiadau bach i'r ffordd y byddwch yn teithio.

Darllenwch mwy ar y dudalen ‘llygredd aer’.

Penderfynu pa sylweddau sy'n ddiogel

Mae cyrff rhyngwladol fel yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig yn asesu'r risgiau a berir gan sylweddau sy'n llygru. Mae cyfreithiau a chytuniadau rhyngwladol wedi'u sefydlu er mwyn gwahardd nifer o'r sylweddau peryclaf, neu eu cyfyngu'n sylweddol.

Yr amgylchedd yn eich ardal

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybodaeth am ansawdd afonydd, traethau a'r aer lle rydych yn byw.

Beth allwch chi ei wneud

Fe welwch nifer o syniadau yn adran yr amgylchedd a byw'n wyrdd i'ch helpu i leihau llygredd. Gallwch ddewis opsiynau teithio mwy gwyrdd, prynu car mwy gwyrdd neu wneud yn siŵr y cewch wared ar wastraff peryglus yn briodol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU