Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein neu dros y ffôn os:

  • mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd ac y caiff eich enw, cyfeiriad ac unrhyw newidiadau i'ch cerbyd eu diweddaru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
  • oes gennych 'Cais am Drwydded Cerbyd/Datganiad Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol' (ffurflen atgoffa V11) neu Dystysgrif Cofrestru (V5C)
  • oes gennych yswiriant dilys sy'n cynnwys defnyddio'r cerbyd ar y diwrnod y bydd y ddisg treth yn dod i rym
  • oes gennych MOT dilys, prawf Cerbyd Nwyddau neu Gerbyd Gwasanaeth i Deithwyr (PSV) (os oes ei angen) sy'n ddilys pan ddaw'r ddisg treth i rym
  • oes gennych gerdyn debyd neu gerdyn credyd - codir tâl gwasanaeth o £2.50 os byddwch yn defnyddio cerdyn credyd, ni chodir tâl am ddefnyddio cerdyn debyd
  • oes gennych dystysgrif eithrio ddilys

Gallwch adnewyddu eich treth unrhyw bryd ar ôl pumed diwrnod y mis.

Trethu eich cerbyd gyda thystysgrif eithrio

Os ydych yn trethu eich cerbyd ar-lein gyda thystysgrif eithrio, bydd angen iddi fod un o’r canlynol:

  • Tystysgrif Hawl i Lwfans Byw i’r Anabl
  • Tystysgrif Hawl flynyddol
  • Tystysgrif DLA404
  • Tystysgrif MHS330
  • Tystysgrif WPA0442

Hefyd bydd arnoch angen cyfenw, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol deiliad y dystysgrif eithrio ynghyd â rhif cyfresol y dystysgrif. Ni fydd angen cerdyn credyd neu gerdyn debyd os ydych yn gwneud cais i drethu’ch cerbyd yn y dosbarth treth anabl.

Ni allwch drethu yn y dosbarth treth anabl am y tro gyntaf ar-lein neu dros y ffôn. Dim ond yn un o ganghennau Swyddfa'r Post® sy’n rhoi disgiau treth y gellir gwneud hyn.

Beth y mae angen i chi ei wybod i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Caiff yswiriant, MOT a'r hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd eu gwirio yn electronig yn ystod y broses o wneud cais. Dylech dderbyn eich disg treth newydd yn y post o fewn pum niwrnod gwaith.

Bydd angen i chi gael yswiriant dilys ar y diwrnod y byddwch am i'r ddisg treth ddod i rym (neu'r dyddiad y byddwch yn gwneud cais amdano, os bydd hyn yn hwyrach). Caiff hyn ei wirio ar y Gronfa Ddata Yswiriant. Os ydych yn adnewyddu eich treth cerbyd a'ch yswiriant ar yr un pryd neu os ydych wedi newid eich cwmni yswiriant yn ddiweddar, mae'n bosib y bydd problemau wrth wirio'r yswiriant wrth aros i'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau gael ei diweddaru.

Cyn i chi drethu eich cerbyd, gallwch weld ar-lein os yw'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau wedi'i diweddaru. Dim ond i'r diwrnod y byddwch yn gwirio hyn y bydd y canlyniad yn berthnasol.

Beth fydd ei angen arnoch wrth i chi wneud cais am eich disg treth

Sicrhewch fod y canlynol gennych:

  • y cyfeirnod 16 digid sydd wedi'i nodi yn y blwch gwyrdd ar flaen eich ffurflen atgoffa V11 neu
  • y cyfeirnod 11 digid a ddangosir ar du blaen eich Tystysgrif Cofrestru a rhif cofrestru’ch cerbyd
  • eich Tystysgrif Hawl i Lwfans Byw i’r Anabl, Tystysgrif Hawl flynyddol, Tystysgrif DLA404, Tystysgrif MHS330, neu Dystysgrif os oes gennych yr hawl i gael eich eithrio oherwydd anabledd
  • eich cerdyn debyd neu gerdyn credyd (bydd tâl gwasanaeth o £2.50 yn berthnasol wrth ddefnyddio cerdyn credyd)

Gwneud cais dros y ffôn

Gwnewch gais dros y ffôn ar 0300 123 4321. Ffôn testun/minicom 0300 790 6201.

Methu â defnyddio'r gwasanaeth?

Os nad ydych yn gallu defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi drethu'ch cerbyd yn swyddfa DVLA leol neu un o ganghennau Swyddfa’r Post® sy’n rhoi disgiau treth. Dilynwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth ynghylch trethu.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Darparwyd gan DVLA

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU