Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llywodraeth yr Alban

Ers datganoli, mae rhai polisïau a gwasanaethau yn wahanol yn yr Alban. Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion bob dydd pobl yr Alban.

Senedd yr Alban

Mae Senedd yr Alban yn trafod materion perthnasol ac yn deddfu ar faterion datganoledig sy'n effeithio ar yr Alban. Mae hefyd yn craffu ar waith a pholisïau Llywodraeth yr Alban.

Mae'n cynnwys 129 o Aelodau etholedig o Senedd yr Alban (ASAau), ac yn cyfarfod yn Holyrood yng Nghaeredin.

Llywodraeth yr Alban

Llywodraeth yr Alban (Gweithrediaeth yr Alban gynt) yw llywodraeth ddatganoledig yr Alban. Mae'n datblygu ac yn gweithredu polisïau, ac yn atebol i Senedd yr Alban.

Mae'n gyfrifol am lawer o faterion, yn cynnwys iechyd, addysg, cyfiawnder, materion gwledig a thrafnidiaeth. O dan arweiniad y Prif Weinidog, mae'n cynnwys Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU