Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Os credwch fod penderfyniad am eich budd-daliadau yn anghywir, gallwch ofyn i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch hefyd ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad budd-dal

Pan fydd y swyddfa fudd-daliadau yn anfon llythyr atoch am eu penderfyniad, os byddwch yn anghytuno, gallwch ofyn iddynt esbonio neu ailystyried y penderfyniad.

Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad sydd wedi’i ailystyried gallwch apelio.

Gallwch ofyn am esboniad neu ailystyriaeth o bob penderfyniad, ond ni allwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau budd-dal.

Er enghraifft, ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad ar:

  • Benthyciadau Cyllidebu
  • Grantiau Gofal Cymunedol
  • Benthyciadau Argyfwng

Bydd y llythyr penderfyniad yn egluro os na ellir apelio.

Terfynau amser

Bydd gennych fis:

  • ar ôl cael penderfyniad i ofyn am gael esboniad, ailystyried y penderfyniad neu apelio
  • ar ôl derbyn penderfyniad sydd wedi'i ailystyried, i ddechrau apêl

Mae'n bosibl y derbynnir apêl hwyr os oes amgylchiadau arbennig wedi eich rhwystro rhag apelio mewn pryd, ond ni allwch wneud hyn os oes mwy na 13 mis wedi mynd heibio.

Sut i apelio

Fel arfer, cynhwysir gwybodaeth am sut i apelio yn y llythyr sy'n rhoi'r penderfyniad.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n golygu

  • llenwi'r ffurflen apelio yn y daflen 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'
  • postio'r ffurflen apelio i'r swyddfa budd-daliadau sy'n delio â'ch cais.

Gallwch gael y daflen yn eich swyddfa budd-daliadau leol neu ei lawrlwytho, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ond os ydych yn apelio yn yr achosion canlyno, dilynwch y drefn isod:

Cynhaliaeth Plant

Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad gan yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), gallwch gysylltu â'r ganolfan CSA a wnaeth y penderfyniad. (Bydd eu manylion cyswllt ar y llythyr sy'n esbonio'r penderfyniad.)

Os ydych yn anfodlon gyda’r canlyniad, gallwch ysgrifennu at Uned Apeliadau Canolog y CSA.

Cael gwybod mwy am beth i'w wneud os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad a wnaed gan y CSA gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol.

Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor

Eich cyngor lleol sy'n delio â'r budd-daliadau hyn, felly fel arfer byddwch yn cysylltu â’ch swyddfa cyngor lleol i holi am eu penderfyniad a dilyn eu trefn apelio.

Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod mwy.

Budd-daliadau i bobl anabl

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini, ffoniwch y Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini, 08457 123 456, ffôn testun 08457 224 433 (rhwng 7.30am a 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os ydych yn anfodlon gyda'r canlyniadau, efallai y gallwch apelio gan ddefnyddio taflen yr Adran Gwaith a Phensiynau 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'.

Credydau treth

Cyllid a Thollau EM sy'n gwneud penderfyniadau am gredydau treth.

Gallwch lawrlwytho'r ffurflen apelio ar-lein neu gallwch ffonio llinell gymorth Credydau Treth.

Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad

Mae Cyllid a Thollau EM hefyd yn delio â'r budd-daliadau hyn, ac mae ffurflenni apelio ar gael ar-lein neu drwy ffonio'r llinell gymorth Budd-dal Plant.

Tribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant

Gall y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant) egluro'r drefn a'ch helpu drwy'r broses apelio.

Gallwch hefyd archebu taflenni gwybodaeth drwy'r Llinell Taflenni Cwsmeriaid ar 08700 852 611, typetalk 18001 08700 852 611. Codir cyfradd leol am alwadau.

Pwy sy'n gwrando'r apêl?

Tribiwnlys fydd yn gwrando'r apêl; panel o hyd at dri aelod, gydag un ohonynt yn gymwys yn gyfreithiol.

Ceir dau fath o wrandawiad tribiwnlys:

  • gwrandawiad llafar - lle byddwch chi neu'ch cynrychiolydd yn cael bod yn bresennol i drafod eich apêl
  • gwrandawiad papur - lle na fyddwch chi na'ch cynrychiolydd yn bresennol, ac y penderfynir ar yr achos ar sail y dystiolaeth ysgrifenedig

Cyngor a help gyda'ch apêl

Bydd rhai sefydliadau'n cynnig help a chyngor (rhai ohonynt am ddim) gyda'ch apêl, gan gynnwys:

  • Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)
  • grwpiau hawliau lles lleol
  • undebau llafur
  • canolfannau'r gyfraith
  • cyfreithwyr
  • Age Concern

Bydd CAB yn eich helpu i lenwi ffurflenni ac mae'n bosibl y byddant yn fodlon dod i'r gwrandawiad gyda chi. Neu, gofynnwch i gynghorydd, cyfaill neu aelod o'r teulu apelio ar eich rhan.

Cymorth ariannol

Gallech hawlio rhywfaint o gostau teithio am fynd i dribiwnlys. Ni allwch hawlio am gostau cyfreithiol a ffioedd cyfreithwyr - hyd yn oed os byddwch yn ennill.

Os byddwch yn colli’r apêl

Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys, dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y cewch ei herio:

  • ni chawsoch ddogfen a ddefnyddiwyd yn y gwrandawiad
  • nid oeddech yn y gwrandawiad er eich bod yn dymuno bod yno

Ond os credwch fod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad wrth roi'r gyfraith ar waith, gallwch ofyn am ganiatâd i apelio i Uwch Dribiwnlys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU