Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru mewn gwledydd eraill gyda thrwydded Gwledydd Prydain

Os ydych yn bwriadu gyrru wrth symud i wlad arall neu ymweld ag un, mae'n bwysig eich bod yn deall beth fydd rhaid i chi ei wneud. Fel ymwelydd mewn gwlad arall bydd angen trwydded yrru Gwledydd Prydain (DU) arnoch. Rhaid cael hawlen yrru ryngwladol mewn rhai gwledydd hefyd.

Cyn i chi fynd

Sicrhewch:

  • fod y manylion ar eich trwydded yrru wedi'u diweddaru
  • eich bod yn mynd â'ch trwydded yrru gyda chi

Ymweld â gwledydd eraill

Gallwch ddefnyddio'ch trwydded yrru Gwledydd Prydain i yrru ym mhob aelod wlad yn y Gymuned Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewrop (CE/AEE). Fodd bynnag, er mai 17 yw’r oedran ieuengaf i yrru car yng Ngwledydd Prydain dylech nodi efallai bydd aelodau wlad unigol yn rhoi cyfyngiadau oedran eu hun i hawliau.

Dyma'r gwledydd: Yr Almaen, Awstria, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gweriniaeth Cyprus, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Slofenia, Slofacia, Sbaen, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec. Holwch sefydliad moduro os ydych am yrru mewn gwlad nad yw'n aelod o CE/AEE. Fe ddywedant wrthych a oes angen Hawlen Yrru Ryngwladol arnoch ai peidio.

Beth yw Hawlen Yrru Ryngwladol (IDP)?

Dogfen ffurfiol yw'r IDP sy'n cyfieithu manylion trwydded yrru i sawl iaith a roddir i ymwelwyr, gan alluogi awdurdodau tramor i ddehongli'r hawl a ddelir, am faint maen ddilys ac oedran ac yn profi pwy ywr deilydd. Fe’u cyflwynir gan y Gymdeithas Foduro (AA) a Gwasanaethau Moduro'r Clwb Moduro Brenhinol (RAC).

I gael Hawlen Yrru Ryngwladol rhaid i chi fod yn breswylydd yng Ngwledydd Prydain, wedi pasio prawf gyrru ac yn hwn na 18 oed. Y ffi am hawlen yw £5.50.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch Hawlenni Gyrru Rhyngwladol e.e. 'Sut i wneud cais?' at un o'r cymdeithasau moduro a restrir uchod.

Symud i wlad arall

Os symudwch chi i wlad arall, rhaid i chi holi gyda’r awdurdodau trwyddedau gyrru yno ynglŷn â gyrru a chyfnewid trwyddedau. Ni fydd gofyn i chi roi gwybod i’'r DVLA ynghylch newid cyfeiriad pan ydych chi’n symud dramor.

Dychwelyd i Wledydd Prydain

Os ydych yn dychwelyd yn ôl i Wledydd Prydain o wlad nad yw'n rhan o'r CE/AEE a heb feddu ar drwydded Gwledydd Prydain, gallwch:

  • yrru hyd at 12 mis gyda'ch trwydded dramor
  • wneud cais am gopi dyblyg o'ch trwydded Gwledydd Prydain os gwnewch dalu ffi

Additional links

Arbedwch amser drwy ei wneud ar-lein

Mynnwch wybod pa wasanaethau moduro sydd ar gael ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU