Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Adnewyddu eich trwydded yrru cyfnod byr

Os oes gennych drwydded yrru cyfnod byr y mae angen ei hadolygu oherwydd cyflwr meddygol, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn anfon ffurflen atoch er mwyn eich atgoffa i wneud cais cyn i'ch trwydded ddod i ben.

Adnewyddu eich trwydded yrru cerdyn-llun

Bydd y DVLA yn anfon ffurflen gais a nodyn atgoffa atoch 90 diwrnod cyn y disgwylir i'ch trwydded ddod i ben.

Deiliaid trwyddedau ceir a beiciau modur

Bydd deiliaid trwyddedau ceir a beiciau modur yn cael ffurflen D42, sef 'ffurflen gais a nodyn i'ch atgoffa bod eich trwydded yrru yn dod i ben' a holiadur meddygol sy'n berthnasol i chi. Os hoffech gael fersiwn Gymraeg o'r ffurflen D42, ffoniwch y DVLA ar 0300 790 6806.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D42
  • llenwi'r holiadur meddygol
  • cynnwys llun pasbort newydd os oes angen
  • anfon eich dogfennau yn yr amlen ragdaledig a ddarparwyd

Nid oes angen i chi amgáu unrhyw ddogfennau adnabod, na ffi. Hefyd, anfonir ffurflen adnewyddu llun ar drwydded yrru atoch os yw'n amser adnewyddu eich llun.

Deiliaid trwyddedau gyrru lorïau a bysiau

Er mwyn adnewyddu trwydded yrru ar gyfer lori, bws mini neu fws, anfonir ffurflen D48, sef 'ffurflen gais a nodyn i'ch atgoffa bod eich trwydded yrru yn dod i ben', ffurflen D4, sef 'adroddiad archwiliad meddygol', a holiadur meddygol sy'n berthnasol i chi atoch.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi ffurflen D48
  • llenwi'r holiadur meddygol
  • cynnwys llun pasbort newydd os oes angen
  • anfon eich dogfennau yn yr amlen ragdaledig a ddarparwyd

Nid oes angen i chi amgáu unrhyw ddogfennau adnabod, na ffi.

Os ydych rhwng 45 a 65 oed, dim ond os nad ydych wedi cyflwyno ffurflen D4 yn ystod y pum mlynedd diwethaf y bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen hon. O 65 oed ymlaen, rhoddir trwyddedau am flwyddyn yn unig a rhaid cyflwyno ffurflen adroddiad meddygol D4 wedi'i chwblhau gyda phob cais i adnewyddu trwydded.

Newid enw

Os ydych wedi newid eich enw ers i'ch trwydded ddiwethaf gael ei rhoi, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais hefyd. Ar gyfer trwydded car neu feic modur rhaid i chi lenwi ffurflen D1. Ar gyfer trwydded lori, bws mini neu fws rhaid i chi lenwi ffurflen D2. Mae ffurflenni D1 a D2 ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA ac mae ffurflen D1 ar gael hefyd mewn canghennau Swyddfa'r Post®. Rhaid i chi amgáu dogfennau gwreiddiol sy'n cadarnhau eich bod wedi newid eich enw.

Beth i'w wneud os na fyddwch yn cael eich ffurflenni

Os na fyddwch yn cael y ffurflenni cais i'ch atgoffa, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gywir i gael yr hawl i yrru.

Deiliaid trwyddedau ceir neu feiciau modur

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais D1 a'r holiadur meddygol sy'n berthnasol i chi. Mae ffurflenni cais D1 ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA. Gallwch lawrlwytho'r holiadur meddygol perthnasol o'r rhestr A i Y o gyflyrau meddygol.

Deiliaid trwyddedau gyrru lorïau a bysiau

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais D2 a'r holiadur meddygol sy'n berthnasol i chi. Mae ffurflenni cais D2 ar gael drwy wasanaeth archebu ffurflenni'r DVLA. Gallwch lawrlwytho'r holiadur meddygol perthnasol o'r rhestr A i Y o gyflyrau meddygol.

Bydd angen i chi hefyd fwrw golwg i weld ar ba ddyddiad y bydd y llun ar eich trwydded yrru yn dod i ben. Os yw eich llun yn dod i ben yn fuan iawn, bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad hwnnw. Dangosir y dyddiad y daw eich llun i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Pryd i ddisgwyl eich trwydded

Mae'r DVLA yn anelu at orffen ei hymholiadau cyn gynted â phosibl. Bydd yr amser a gymerir gan y DVLA i ddelio â'ch ymholiad meddygol yn dibynnu ar y cyflwr meddygol sydd gennych a'r wybodaeth y mae angen i'r DVLA ei chasglu. Os gellir gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn wreiddiol, bydd y DVLA yn anelu at wneud penderfyniad o fewn tair wythnos.

Os bydd angen i'r DVLA gael rhagor o wybodaeth am eich cyflwr meddygol, bydd yn anelu at wneud penderfyniad o fewn 90 diwrnod gwaith.

Er mwyn gwneud hyn, efallai y bydd angen i'r DVLA gael rhagor o wybodaeth gan y canlynol:

  • chi
  • eich meddyg
  • ffynonellau eraill

Beth y dylech ei wneud os nad ydych am adnewyddu eich trwydded yrru

Os nad ydych am adnewyddu eich trwydded yrru yna nid oes angen i chi ddychwelyd unrhyw ffurflenni i'r DVLA. Bydd eich trwydded yrru yn dod i ben ar y dyddiad a nodir ar y ffurflenni adnewyddu ac ni fydd gennych hawl gyfreithiol i yrru mwyach.

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU