Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded cerdyn-llun

Nid yw'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn rhoi trwyddedau gyrru papur erbyn hyn. Mae gan yr Undeb Ewropeaidd gyfarwyddeb sy'n mynnu bod pob aelod wladwriaeth yn rhoi trwyddedau gyrru ar ffurf cerdyn, a hwnnw'n dangos llun a llofnod deilydd y drwydded.

Manteision cerdyn-llun

Mae nifer o fanteision i'r trwyddedau gyrru cerdyn-llun:

  • ffurf ddiogel sy'n lleihau'r siawns o roi gwybodaeth gamarweiniol
  • sicrhau mai'r un person yw'r sawl sy'n cael trwydded dros dro, yn sefyll y prawf ac yn cael trwydded yrru lawn
  • sicrhau bod yr unigolyn sy'n cael trwydded yn y grŵp oed iawn
  • lleihau'r posibilrwydd bod gan berson fwy nag un drwydded, naill ai drwy ddamwain neu'n fwriadol
  • sicrhau bod cronfa ddata'r DVLA yn fwy cywir ac y bydd yn ei thro'n gallu darparu gwell gwybodaeth i'r heddlu a'r llysoedd

Gwneud cais ar-lein

Gallwch gyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA.

Gwneud cais yn bersonol neu drwy’r post

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • llenwi'r ffurflen ‘cais am drwydded yrru’ (D1), sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA ac o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • anfon llun o fath pasport
  • cynnwys y ffi, sef £20.00
  • anfon eich holl ddogfennau i DVLA, Abertawe, SA99 1BU neu ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu o swyddfeydd DVLA lleol

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod y DVLA yw sicrhau eich bod yn derbyn eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i dderbyn eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os oes rhaid archwilio cyflwr eich iechyd a'ch manylion personol. Gadewch o leiaf tair wythnos i’ch trwydded yrru gyrraedd cyn cysylltu â’r DVLA.

Pan fyddwch yn derbyn eich trwydded, bydd sawl nodwedd newydd arni o ran diogelwch. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded fydd y llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru
  • nid ydych wedi cael eich gwrthod trwydded yrru am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddwch yn cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU