Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC i Yrwyr): sut a phryd i ddilyn hyfforddiant achlysurol

Gan eich bod yn yrrwr bws, bws moethus neu lori proffesiynol, mae angen i chi gael Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol i Yrwyr (CPC i Yrwyr) i yrru'n broffesiynol. Bydd angen i chi gyflawni cyrsiau hyfforddiant achlysurol drwy gydol eich gyrfa fel gyrrwr. Yma cewch wybod beth fyddwch chi’n ei wneud yn eich hyfforddiant, a ble y cynhelir y cyrsiau.

Sut mae dod o hyd i gyrsiau hyfforddiant achlysurol

Dim ond cyrsiau cymeradwy a gynigir gan ganolfannau hyfforddi cymeradwy fydd yn cyfrif tuag at hyfforddiant achlysurol.

Gwirio eich cofnod hyfforddiant cyfnodol CPC i

Gallwch wirio bod eich hyfforddiant cyfnodol Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol (CPC) i Yrwyr wedi'i gofnodi. Yma cewch wybod sut i gofrestru a defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wirio eich cofnod hyfforddiant.

Beth fydd hyfforddiant achlysurol CPC i Yrwyr yn ei gynnwys

Gwylio fideo ynghylch hyfforddiant achlysurol CPC i Yrwyr

Mae’r hyfforddiant achlysurol wedi’i gynllunio er mwyn:

  • ategu eich gwaith
  • bod yn berthnasol i’ch swydd bob dydd
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau mewn rheoliadau

Does dim rhaid i chi basio prawf, a gall y cyrsiau fod yn rhai ymarferol neu wedi’u lleoli yn yr ystafell ddosbarth.

Mae rhai o bynciau’r cyrsiau yn cynnwys:

  • gyrru’n eco-ddiogel ac mewn ffordd sy’n defnyddio tanwydd yn effeithlon
  • technegau gyrru’n bwyllog
  • cymorth cyntaf
  • iechyd a diogelwch
  • rheolau ynghylch oriau gyrwyr
  • defnyddio tacograffau

Darllen mwy am CPC i Yrwyr ar Business Link

Mwy am gynnwys hyfforddiant achlysurol CPC i Yrwyr

Drwy fynd i wefan Business Link, gallwch gael gwybod mwy am y canlynol:

  • cynnwys hyfforddiant achlysurol CPC i Yrwyr
  • cynnwys maes llafur hyfforddiant CPC i Yrwyr
  • sut caiff eich hyfforddiant ei gofnodi

Pryd i ddilyn eich hyfforddiant achlysurol CPC i Yrwyr

Cadw eich CPC i Yrwyr

Bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol bob pum mlynedd er mwyn parhau i yrru’n broffesiynol

Chi sydd â'r hawl i benderfynu:

  • pa gyrsiau i’w mynychu
  • pryd fyddwch chi’n eu mynychu

Er hynny, bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol bob pum mlynedd er mwyn gallu gyrru’n broffesiynol.

Pryd fydd y cyfnod o bum mlynedd ar gyfer cyflawni eich hyfforddiant yn dechrau

Bydd pob cyfnod pum mlynedd yn dechrau o’r dyddiad y bydd eich cymhwyster CPC i Yrwyr cyfredol yn dod i ben – nid o’r dyddiad y gwnaethoch gwblhau eich 35 awr o hyfforddiant.

Nid yw’n fuddiol i chi oedi cyn cyflawni eich hyfforddiant achlysurol – cynhara’n byd y byddwch chi’n hyfforddi, cynhara’n byd y gallwch ddiweddaru a gloywi eich sgiliau a’ch gwybodaeth.

Os ydych chi’n gyrru lorïau a bysiau’n broffesiynol

Os oes gennych chi drwydded i yrru lorïau a bysiau’n broffesiynol, dim ond un gyfres o hyfforddiant bob pum mlynedd fydd angen i chi ei chyflawni.

Os oes gennych CPC i Yrwyr drwy ‘hawliau caffaeledig’

Peidiwch â’i adael yn rhy hwyr

Os oes gennych ‘hawliau caffaeledig’ bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol erbyn:

  • 9 Medi 2013 os ydych chi’n yrrwr bws neu fws moethus
  • 9 Medi 2014 os ydych chi’n yrrwr lori

Os ydych chi’n yrrwr proffesiynol ar hyn o bryd, bydd gennych chi brofiad gwerthfawr yn y maes. Bydd gennych chi ‘hawliau caffaeledig’ am bum mlynedd, sy’n golygu yr ystyrir bod gennych CPC i Yrwyr. Mae hyn yn berthnasol i chi os ydych:

  • yn yrrwr bws neu fws moethus, a’ch bod wedi cael eich trwydded alwedigaethol (D, D1, D+E a D1+E) cyn 10 Medi 2008
  • yn yrrwr lori a’ch bod wedi cael eich trwydded alwedigaethol (C, C1, C+E a C1+E) cyn 10 Medi 2009

Er hynny, bydd rhaid i chi gyflawni 35 awr o hyfforddiant achlysurol erbyn:

  • 9 Medi 2013 os ydych chi’n yrrwr bws neu fws moethus
  • 9 Medi 2014 os ydych chi’n yrrwr lori

Trwyddedau lle nad oes gennych ‘hawliau caffaeledig’

Nid oes gennych 'hawliau caffaeledig' os oes gennych drwydded D, D1, D+E neu D1+E sy’n nodi nad yw’n drwydded at ddibenion llogi nac ariannol. Bydd rhaid i chi ennill cymhwyster cychwynnol CPC i Yrwyr i yrru'n broffesiynol, ac wedyn mynd ati i gyflawni'r hyfforddiant achlysurol.

Additional links

Oriau hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr

Gwirio faint o oriau o hyfforddiant cyfnodol CPC i Yrwyr rydych wedi’u gwneud

Oriau gyrrwyr a thacograffau

Cael gwybod am y rheolau ar gyfer oriau gyrwyr a thacograffau

Allweddumynediad llywodraeth y DU