Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae trefnu a rheoli eich apwyntiad prawf gyrru ymarferol

Os hoffech chi drefnu, gweld manylion, newid neu ganslo eich prawf gyrru ymarferol, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell i chi drefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch. Gallwch drefnu prawf dros y ffôn neu drwy’r post hefyd. Yma cewch wybod sut mae trefnu a rheoli eich prawf ymarferol.

Trefnu eich prawf ymarferol

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o drefnu eich prawf ymarferol yw ar-lein. Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ar-lein byddwch yn gweld yr holl apwyntiadau sydd ar gael.

Cyn trefnu eich prawf ymarferol

Gallwch ddod o hyd i’ch canolfan prawf gyrru leol cyn trefnu eich prawf.

Tystysgrif y prawf theori

Dod o hyd i rif eich tystysgrif pasio prawf theori ar-lein os ydych wedi colli’ch llythyr gwreiddiol

Faint o amser mae'n ei gymryd i drefnu apwyntiad prawf ymarferol

Ar gyfer y rhan fwyaf o brofion gyrru, bydd yr Asiantaeth Safonau Gyrru yn anelu at drefnu prawf ymarferol i chi cyn pen naw wythnos. Er hynny, mae'r amser aros yn wahanol ym mhob rhan o'r wlad ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Felly, efallai y bydd eich amser aros yn llai neu’n fwy, yn dibynnu ar ble a phryd y byddwch chi’n sefyll eich prawf.

Eich rhif tystysgrif prawf theori

Bydd arnoch angen rhif eich tystysgrif prawf theori er mwyn trefnu eich prawf. Gallwch ddod o hyd i rif eich tystysgrif pasio prawf theori ar-lein os ydych wedi colli’ch llythyr gwreiddiol.

Sefyll eich prawf ymarferol os oes gennych chi anghenion arbennig

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ymarferol, dylech ddweud os oes gennych unrhyw anghenion arbennig, er mwyn i’r Asiantaeth Safonau Gyrru allu gwneud addasiadau rhesymol i’ch profion. Gallwch gael gwybod beth fydd angen i chi ei ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Gyrru os oes gennych chi anghenion arbennig drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut mae trefnu eich prawf ymarferol dros y ffôn

Gwylio arweiniad ynghylch trefnu prawf ymarferol

I drefnu prawf ymarferol dros y ffôn bydd arnoch angen:

  • trwydded yrru ddilys y DU
  • rhif tystysgrif prawf theori
  • cerdyn credyd neu ddebyd dilys ar gyfer talu (derbynnir cardiau Visa, MasterCard, Delta a Visa Electron)

Gallwch ddod o hyd i'r rhifau cyswllt a’r amseroedd agor ar gyfer trefnu eich prawf ymarferol dros y ffôn drwy glicio ar y ddolen isod.

Sut mae trefnu eich prawf ymarferol drwy'r post

I drefnu prawf ymarferol drwy'r post, bydd arnoch angen ffurflen gais. Gallwch lwytho un drwy ddilyn y ddolen isod, neu gallwch gael un drwy gysylltu â llinell archebu'r Asiantaeth Safonau Gyrru.

Ei wneud ar y we

Mae’n gyflymach ac yn haws trefnu prawf ymarferol ar-lein

Sut mae talu wrth drefnu drwy'r post

Gallwch dalu gyda siec neu archeb bost, ond ni dderbynnir arian parod.

Nid yw’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn darparu tocynnau rhodd fel ffordd o dalu am brofion gyrru. Os oes arnoch chi eisiau talu am y prawf theori fel anrheg i rywun, mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell i chi roi’r arian iddynt. Yna gallant drefnu eu prawf ar-lein ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.

Sut mae gweld manylion, newid neu ganslo apwyntiad eich prawf gyrru ymarferol

Os ydych chi am weld manylion, newid neu ganslo eich prawf ymarferol, y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Ond os na allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch ddefnyddio’r ffôn.

Rhowch ddigon o rybudd

I newid neu ganslo eich apwyntiad, rhowch o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd i osgoi colli eich ffi – nid yw dydd Sul yn cyfrif fel diwrnod gwaith

Gweld manylion apwyntiad eich prawf ymarferol

Gallwch weld manylion eich apwyntiad, gan gynnwys dyddiad ac amser y prawf, a chael gwybod ym mha ganolfan y mae'r prawf yn cael ei gynnal.

Newid apwyntiad eich prawf ymarferol

Gallwch symud eich apwyntiad i ddyddiad cynharach neu hwyrach, os oes un ar gael. Weithiau, bydd apwyntiadau cynharach ar gael gan fod pobl eraill wedi canslo eu profion. Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich prawf gyrru er mwyn osgoi colli eich ffi. Nid yw dydd Sul yn cyfrif fel diwrnod gwaith.

Os ydych chi’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn argymell eich bod yn edrych arno’n gyson os ydych am ddod o hyd i le gwag ar ôl i rywun arall ganslo.

Canslo apwyntiad eich prawf ymarferol

Gallwch ganslo apwyntiad eich prawf ymarferol os yw wedi cael ei drefnu’n barod.

Bydd angen i chi roi o leiaf dri diwrnod gwaith clir o rybudd cyn eich prawf gyrru er mwyn osgoi colli eich ffi. Mae dydd Sadwrn yn cyfrif fel diwrnod gwaith.

Dod o hyd i apwyntiad prawf ymarferol ar ddyddiad cynharach dros y ffôn

Beth fydd ei angen arnoch

Bydd gofyn i chi gael:

  • rhif eich tystysgrif pasio prawf theori
  • rhif cyfeirnod eich ffurflen archebu

Os ydych chi wedi trefnu prawf ymarferol yn barod ond yr hoffech ei sefyll ar ddyddiad cynharach, gallwch ddefnyddio gwasanaeth adnabod llais datblygedig yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

Bydd y gwasanaeth yn gadael i chi aildrefnu eich prawf ymarferol ar ddyddiad cynharach os oes apwyntiad ar gael. Ni fydd angen i chi siarad ag asiant mewn canolfan alw i aildrefnu.

Sut a phryd i ddefnyddio’r gwasanaeth adnabod llais

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael rhwng 6.00 am a hanner nos, saith niwrnod yr wythnos.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth, ffoniwch 0300 200 1122 a dilynwch y canllawiau. Bydd arnoch angen:

  • rhif eich tystysgrif pasio prawf theori
  • rhif cyfeirnod eich ffurflen archebu

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU