Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nes bod plant yn cyrraedd yr oedran gadael ysgol gorfodol (MSLA), dim ond nifer penodol o oriau y gallant weithio yr wythnos a dim ond mewn swyddi penodol. Yma cewch wybod beth mae’r gyfraith yn ei ddweud ynghylch cyflogaeth plant.
Hyd at y dydd Gwener olaf o Fehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 16 oed, dywedir ei fod o oedran ysgol gorfodol. Ar ôl hyn bydd o oedran gadael ysgol gorfodol (MSLA), a chaiff y plentyn wneud cais am Rif Yswiriant Gwladol a gweithio'n llawn amser.
Mae'n rhaid i blentyn fod yn 13 oed cyn y caiff weithio'n rhan-amser, ac eithrio plant sy'n ymwneud â:
Os cynigir gwaith i blentyn yn y meysydd hyn, bydd angen iddynt gael trwydded perfformio. Cyhoeddir trwyddedau perfformio gan yr awdurdod lleol. Cyn rhoi trwydded bydd yr awdurdod yn cysylltu â phennaeth ysgol y plentyn er mwyn gwneud yn siŵr na fydd addysg y plentyn yn dioddef pe bai'r drwydded yn cael ei rhoi.
Bydd angen hebrwng plentyn sy'n ymwneud â pherfformio - gallai hynny gynnwys perfformio ar y teledu, mewn ffilmiau, mewn theatr, mewn gweithgareddau chwaraeon neu waith modelu. Trwyddedir hebryngwyr gan yr awdurdod lleol.
Chaiff plant ddim gweithio:
Yn ystod tymor ysgol caiff plant weithio uchafswm o 12 awr yr wythnos bob wythnos, ac o'r rhain cânt weithio:
Yn ystod gwyliau ysgol caiff plant rhwng 13 a 14 oed weithio uchafswm o 25 awr yr wythnos, ac o'r rhain cânt weithio:
Yn ystod gwyliau ysgol caiff plant rhwng 15 a 16 oed weithio uchafswm o 35 awr yr wythnos, ac o'r rhain cânt weithio:
Mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn wahanol gan ddibynnu ar oedran y person ifanc. Ceir cyfraddau gwahanol ar gyfer pobl ifanc 16 a 17 oed, rhwng 18 a 20 oed, a 21 oed a hŷn.
Mae gan weithwyr sy’n hŷn nag Oedran Gadael yr Ysgol Orfodol hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ond nid y rheiny sydd mewn oed ysgol gorfodol.
Hefyd ceir cyfradd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer prentisiaid sy'n iau na 19 oed, neu’ rheiny sy'n 19 oed neu'n hŷn yn ystod 12 mis cyntaf eu prentisiaeth.
Mae'n rhaid i gyflogwyr roi gwybod i adran addysg eu hawdurdod lleol eu bod wedi cyflogi plentyn o oedran ysgol. Os bydd y cyngor yn fodlon â'r trefniadau rhoddir trwydded cyflogaeth i'r plentyn. Ni fydd plentyn wedi'i yswirio heb un.
Ni fydd angen trwydded cyflogaeth ar blant ar gyfer cymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith a drefnir gan ei ysgol.
Mae deddfau lleol yn rhestru'r swyddi y gall plant 13 oed eu gwneud. Ni chaiff unrhyw un 13 oed weithio mewn swydd nad yw'n ymddangos ar y rhestr. Mae deddfau lleol yn rhoi cyfyngiadau pellach ar oriau ac amodau gwaith a natur y gyflogaeth. Am gyngor a chymorth neu er mwyn gwneud cais am drwydded cyflogaeth cysylltwch ag adran addysg eich cyngor lleol neu'ch gwasanaeth lles addysg.