Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau rhieni ym myd addysg

Mae blynyddoedd ysgol eich plentyn yn rhan bwysig iawn o'u datblygiad ac yn eu paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae’n ddefnyddiol gwybod eich hawliau o safbwynt addysg eich plentyn a beth allwch chi ei ddisgwyl gan yr ysgol y mae’n ei mynychu. Dylech hefyd wybod beth yw’r camau cywir i’w cymryd os oes gennych chi gŵyn.

Y system addysg a’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae'n rhaid i bob ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth ddefnyddio'r Cwricwlwm Cenedlaethol, sy'n nodi beth ddylid ei ddysgu i'r rhan fwyaf o blant. Gall ysgol 'eithrio' (tynnu) eich plentyn o rai agweddau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu'n gyfan gwbl am gyfnod byr os ydynt yn tybio mai dyma'r peth gorau i'w wneud er lles eich plentyn. Mae gennych chithau hawl i dynnu'ch plentyn o rai gwersi.

Mae’n rhaid i adran addysg eich cyngor lleol ddarparu addysg i blant nad ydynt yn gallu mynd i’r ysgol, er enghraifft am eu bod wedi’u gwahardd, yn sâl neu wedi’u hanafu. Byddai’n bosib iddynt gael eu haddysgu yn y mannau canlynol:

  • ysgol mewn ysbyty
  • unedau cyfeirio disgyblion
  • colegau addysg bellach
  • lleoliadau profiad gwaith

Mae'n rhaid i blant gael addysg o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bump oed hyd at y trydydd dydd Gwener ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddant yn 16 oed.

Mae'n rhaid i addysg fod am ddim mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth ac mewn sefydliadau addysgol eraill y bydd eich cyngor lleol yn talu amdanynt, megis unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion meithrin.

Dewisiadau rhieni ar gyfer eu plant

Mae gennych hawl i ddweud pa un o ysgolion y wladwriaeth yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu. Holwch adran addysg eich cyngor lleol oherwydd efallai eu bod yn cyfyngu ar nifer yr ysgolion y cewch wneud cais iddynt.

Gallwch ddysgu eich plant gartref hefyd. Does dim rhaid i chi ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ond mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael addysg briodol ar gyfer ei oed a’i allu. Mae’n rhaid i’r addysg fod yn addas ar gyfer unrhyw anghenion addysgol arbennig sydd ganddynt hefyd.

Beth all rhieni ei ddisgwyl gan ysgol eu plant

Mae'n rhaid i chi gael rhybudd ysgrifenedig 24 awr ymlaen llaw os yw'r ysgol eisiau cadw'ch plentyn i mewn ar ôl ysgol.

Mae'n rhaid i ysgolion roi adroddiad ysgrifenedig i chi am eich plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn. Rhaid i hwn gynnwys manylion am y canlynol:

  • eu cynnydd yn yr holl bynciau y maent wedi'u hastudio fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol
  • eu cynnydd mewn pynciau a gweithgareddau eraill
  • presenoldeb a chynnydd cyffredinol
  • canlyniadau unrhyw brofion ac asesiadau sy’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae gennych hawl i bleidleisio dros riant-lywodraethwyr i'ch cynrychioli ar gorff llywodraethu'r ysgol. Gallwch hefyd sefyll etholiad i fod yn rhiant-lywodraethwr eich hun.

Gweld cofnodion disgyblion

Mae’n rhaid i holl ysgolion y wladwriaeth gadw cofnodion addysgol am eu disgyblion. Dylai’r rhain gynnwys:

  • copïau o’r adroddiadau y byddwch wedi eu cael sy’n dangos yr hyn y maent wedi’i gyflawni, yn ogystal â chofnodion eraill am eu cyflawniadau
  • gohebiaeth yr ydych chi a’r ysgol wedi’i chael gan eich gilydd
  • unrhyw wybodaeth y mae'r ysgol wedi'i chael gan yr awdurdod lleol am addysg eich plentyn

Mae’n bosib y cedwir cofnodion eraill, fel manylion gwaharddiadau, ymddygiad a chefndir teuluol, ond nid yw hyn yn orfodol. Nid yw’r cofnodion addysgol yn cynnwys nodiadau athrawon at eu defnydd eu hunain.

Yn ôl y gyfraith, mae gennych chi hawl i gael copi o gofnod ysgol eich plentyn o fewn 15 diwrnod ysgol i chi ysgrifennu i ofyn amdano. Os ydych chi wedi gofyn am gopi, mae’n bosib y bydd yr ysgol yn codi ffi fechan arnoch i dalu am y costau llungopïo.

Fodd bynnag, ni ellir dangos na rhoi ambell ddarn o wybodaeth i chi na'ch plentyn. Efallai fod yr ysgol yn meddwl y gallai niweidio'r plentyn neu unigolyn arall mewn rhyw ffordd ac mai dyna fydd ei rheswm dros benderfynu ar hynny. Os yw’r ysgol yn penderfynu ar hyn, gallwch ofyn iddynt esbonio pam.

Plant ag anghenion addysgol arbennig

Dylai plentyn ag anghenion addysgol arbennig gael cymorth yn yr ysgol os yw’r canlynol yn berthnasol iddynt:

  • maent yn cael dipyn mwy o anhawster i ddysgu na phlant arall o'r un oed â nhw
  • mae ganddynt anabledd sy’n effeithio ar sut y maent yn gallu defnyddio cyfleusterau addysgol sy'n cael eu darparu fel arfer i blant o'r un oed yn yr un ardal.


Gallai anhawster dysgu fod yn gysylltiedig ag anabledd, problemau ymddygiad neu broblemau wrth ddysgu darllen.

Polisïau ysgolion ar ddisgyblaeth a bwlio

Mae'n rhaid i ysgol eich plentyn gael polisi disgyblaeth sy'n cynnwys beth mae'n ei wneud er mwyn atal bwlio. Os bydd plentyn yn cael ei fwlio, dylech roi gwybod i'r ysgol yn syth. Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i'r ysgol wneud popeth rhesymol yn ei gallu i warchod plant rhag cael eu bwlio.

Mae'n ofynnol bod polisi disgyblaeth yr ysgol, ac unrhyw reolau ysgol, wedi’u seilio ar ddatganiad y llywodraethwyr ar sut y dylai plant ymddwyn (mae’n rhaid i bob ysgol gael un). O dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, ni ddylai unrhyw gosb na thriniaeth fod yn 'annynol nac yn ddiraddiol'. Mae’n rhaid iddi fod yn addas ar gyfer yr hyn y mae'r plentyn wedi ei wneud.

Mae cosb gorfforol megis smacio, defnyddio cansen neu ysgwyd plentyn yn anghyfreithlon ym mhob ysgol. Caiff staff ysgol ddefnyddio 'grym rhesymol' er mwyn atal plentyn rhag:

  • cyflawni trosedd
  • brifo rhywun
  • difrodi rhywbeth

Trefniadau cwyno

Os nad ydych yn hapus gydag ysgol neu addysg eich plentyn ac eisiau gwneud cwyn ffurfiol, dylech gael gafael ar gopi o drefn gwyno'r ysgol (mae gan bob ysgol a gynhelir un) a dilyn y drefn honno fel cam cyntaf.

Os ydych yn meddwl bod eich plentyn wedi cael ei niweidio'n ddifrifol neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, gallwch gwyno wrth yr heddlu neu wrth adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol ar unwaith.

Cysylltiadau defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU