Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiynau’r Wladwriaeth – cyflwyniad

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd y gallwch ei hawlio ar ôl cyrraedd yr oedran priodol. Mae’n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac y mae’r swm y byddwch yn cael yn amrywio. Cael gwybod faint y gallwch ei gael a sut a phryd i hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Pensiwn y Wladwriaeth fel rhan o’ch cynllun ymddeol

Pan gewch chi Bensiwn y Wladwriaeth, bydd yn rhoi incwm rheolaidd i chi am weddill eich oes. Gall roi sylfaen ddibynadwy i chi ar gyfer eich incwm ar ôl ymddeol, ond mae’n bosib na fydd yn ddigon i dalu am y ffordd o fyw rydych yn awyddus i’w chael. Felly, efallai y byddwch chi'n penderfynu eich bod am gynilo eich hun, yn ychwanegol at yr hyn y mae'r Wladwriaeth yn ei ddarparu.

Os ydych chi am wneud cynllun ar gyfer ymddeol, mae’n werth gwybod pa fath o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech fod yn gymwys iddo.

Dyma rai o’r prif gwestiynau sydd gennych o bosib ynghylch Pensiwn y Wladwriaeth. Dylent eich helpu i ddechrau paratoi ar gyfer y dyfodol.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth neu ddechrau gwneud cynllun, bydd rhai dolenni defnyddiol ar waelod y dudalen.

Faint yw fy Mhensiwn y Wladwriaeth?

Mae dwy ran i Bensiwn y Wladwriaeth – Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Mae gwahanol bobl yn cael symiau gwahanol o'r ddau bensiwn.

Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch chi yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych o safbwynt Yswiriant Gwladol. Gweler ‘Sut y cyfrifir eich Pensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybod sut y mae hwn yn gweithio.

Yn 2012-13, gall person sengl gael hyd at £107.45 yr wythnos o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ond mae rhai pobl yn cael llai na hyn. Mae llawer o bobl yn cael mwy na hyn, gan eu bod yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd.

Pryd a sut fyddwch chi’n gallu cael Pensiwn y Wladwriaeth?

Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Does dim rhaid i chi ei hawlio yn syth. Efallai gallwch gynyddu'r swm a gewch drwy ohirio ei hawlio.

Pedwar mis cyn ichi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn derbyn llythyr gan y Gwasanaeth Pensiwn. Bydd y llythyr yn nodi'r dewisiadau sydd gennych o ran pryd i hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich gwahodd i'w hawlio.

Cael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud os na fyddwch yn clywed dim tri mis cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Gweler ‘Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth’ am ragor o wybodaeth.

Newidiadau yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn newid. I gael gwybod mwy gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Beth sy’n digwydd pan na allwch dalu Yswiriant Gwladol?

Weithiau, mae’n bosib na fyddwch yn gallu talu Yswiriant Gwladol – er enghraifft, os ydych chi’n sâl neu'n ddi-waith. Mewn nifer o achosion, bydd y llywodraeth yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich rhan drwy roi credydau Yswiriant Gwladol i chi.

Fe allech hefyd gael credydau Yswiriant Gwladol os ydych yn cael Budd-dal Plant neu’n gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl. Efallai y cewch chi fathau eraill o gredydau Yswiriant Gwladol hefyd.

Beth fydd gwerth eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi’n ymddeol?

Os ydych chi’n byw yn y DU neu mewn gwledydd penodol eraill, mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn fel arfer.

Gweler ‘Pensiwn y Wladwriaeth a’r gyfradd Credyd Pensiwn: faint allwch chi ei gael?’ am ragor o wybodaeth am sut rydym yn cynyddu budd-daliadau pensiynwyr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU