Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwybodaeth ynghylch newid enw a manylion personol ar basbort

Os byddwch yn newid eich enw neu rai manylion personol eraill, ni fydd yr wybodaeth ar eich pasbort bellach yn gyfredol. Yma, cewch wybod pa fath o newidiadau sy’n effeithio ar eich pasbort a phryd fydd angen i chi ddiwygio eich pasbort.

Pryd fydd angen i chi newid eich pasbort

Os oes gennych chi basbort a’ch bod yn bwriadu ei ddefnyddio cyn iddo ddod i ben, dylech ei ddiwygio os bydd rhai o’ch manylion personol yn newid. Dylech ddiwygio eich pasbort os ydych chi:

  • wedi newid eich enw – un ai drwy weithred newid enw neu drwy briodi neu ffurfio partneriaeth sifil
  • wedi newid statws eich cenedligrwydd yn y DU (h.y. o fod yn ddeiliad Prydeinig i fod yn ddinesydd Prydeinig)
  • wedi newid cymaint fel na ellir eich adnabod o’r llun yn eich pasbort cyfredol
  • wedi newid eich rhyw (drwy fynd drwy’r broses newid rhyw), hyd yn oed os nad ydych chi wedi newid eich enw

Pan na fydd angen i chi ddiwygio eich pasbort

Ni fydd angen i chi ddiwygio eich pasbort na rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau os ydych chi:

  • wedi newid eich cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost
  • wedi newid eich swydd neu’ch statws cyflogaeth
  • wedi newid eich statws priodasol (oni bai eich bod wedi newid eich enw hefyd)
  • wedi newid eich teitl
  • wedi sicrhau cenedligrwydd gwlad arall yn ogystal â’ch cenedligrwydd Prydeinig
  • wedi ymfudo

Os ydych chi wedi newid eich enw neu ar fin gwneud hynny

Os ydych chi wedi newid eich enw'n ddiweddar neu'n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol agos, bydd rhaid i chi newid yr enw ar eich pasbort. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosib na fyddwch yn gallu teithio dramor.

Pan fyddwch yn gwneud cais i newid eich enw, bydd eich pasbort cyfredol yn cael ei ddiddymu a byddwch yn cael pasbort deng-mlynedd safonol newydd. Os oes gennych chi amser ar ôl ar eich hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n ei drosglwyddo i'ch pasbort newydd, ond ni fydd yn trosglwyddo mwy na naw mis.

Beth sy'n digwydd os yw'ch plentyn wedi'i gynnwys ar eich pasbort?

Os oes gennych chi blentyn ar eich pasbort cyfredol, ni ellir ei gynnwys ar eich pasbort newydd oherwydd newidiadau mewn rheolau pasbort. Bydd angen i chi wneud cais am basbort plentyn ar ei ran.

Dilynwch y ddolen isod ynghylch gwneud cais am basbort plentyn.

Newid enw eich plentyn ar ei basbort

Os ydych chi'n dymuno newid enw eich plentyn ar ei basbort neu ar eich pasbort chi, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 am gymorth.

Os ydych chi'n bwriadu newid eich enw pan fyddwch yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil

Dylech feddwl yn ofalus a ydych am newid yr enw ar eich pasbort cyn y seremoni ynteu ar ôl i chi ddychwelyd o daith dramor.

Y rheswm am hyn yw y dylai'r enw ar eich pasbort gyfateb â'r enw yr ydych wedi'i ddefnyddio i drefnu eich taith. Os nad yw'r enw ar y pasbort yn cyfateb i'r enw ar yr archeb:

  • mae'n bosib na wnaiff rhai gwledydd eich gadael i mewn
  • mae'n bosib na wnaiff rhai cwmnïau teithio eich gadael ar yr awyren

Efallai mai dyma fydd yr achos hyd yn oed os ydych yn mynd â'ch tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil gyda chi. Dylech holi eich asiant teithio neu is-genhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi.

Gall y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau newid yr enw ar eich pasbort hyd at dri mis cyn y seremoni. Bydd yn diddymu eich hen basbort ac yn rhoi un newydd i chi. Ond, bydd y pasbort wedi'i 'ôl-ddyddio'. Mae hyn yn golygu na allwch ei ddefnyddio cyn diwrnod y seremoni. Ni fydd rhai gwledydd yn rhoi fisas ar gyfer pasbortau sydd wedi'u hôl-ddyddio. Dylech holi is-genhadaeth y wlad dan sylw.

Os byddwch yn penderfynu diwygio'ch pasbort cyn y seremoni

I ddiwygio'ch pasbort cyn y seremoni, bydd arnoch angen ffurflen PD2 a thaflen PD1, 'Pasbortau ar gyfer Pobl sydd Newydd Briodi a Phartneriaid Sifil'. Mae'r dogfennau hyn yn egluro beth y mae angen i chi ei wneud - gallwch gael y rhain:

  • drwy eu llwytho oddi ar y we fel ffeiliau PDF
  • o rai o ganghennau Swyddfa'r Post sy'n cynnig y gwasanaeth Gwirio ac Anfon
  • o unrhyw Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau
  • drwy ffonio Llinell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i ofyn iddynt eu hanfon atoch

Dylai’r ffurflen gael ei chwblhau'n rhannol gennych chi ac yn rhannol gan yr unigolyn a fydd yn cynnal y seremoni. Mae'r daflen yn egluro hyn yn fwy manwl.

Os byddwch yn penderfynu diwygio'ch pasbort ar ôl y seremoni

Os ydych chi'n dymuno diwygio eich pasbort ar ôl eich priodas neu'ch partneriaeth sifil, dim ond y ffurflen gais am basbort safonol y bydd angen i chi ei llenwi. Bydd angen i chi anfon eich tystysgrif priodas neu'ch tystysgrif partneriaeth sifil i'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau hefyd.

Sut y gall newid enw effeithio ar fisas yn eich pasbort

Pan fyddwch yn gwneud cais i ddiwygio eich pasbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau'n diddymu eich pasbort cyfredol ac yn rhoi un newydd i chi. Gallai hyn effeithio ar unrhyw fisas yn eich pasbort cyfredol a’u gwneud yn annilys. Dylech holi'r is-genhadaeth a roddodd y fisa a gewch ddefnyddio fisa nad yw wedi dod i ben mewn pasbort sydd wedi'i ddiddymu. Os na chewch chi, bydd yn rhaid i chi wneud cais arall am fisa ar gyfer eich pasbort newydd.

Y camau nesaf – newid yr enw ar eich pasbort

I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrifau geni, priodas neu farwolaeth

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU