Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy gaiff wneud cais am basbort plentyn cyntaf a phryd

Ni chaniateir ychwanegu plant at basbort oedolyn bellach - mae angen pasbort eu hunain arnynt i deithio dramor. Gwnewch gais yn gynnar am basbortau babanod a phlant. Yma, cewch wybod pa basbort sy'n addas i'ch plentyn chi, sut i wneud cais a phryd y dylech wneud hynny.

Mae angen eu pasbortau eu hunain ar blant

Cyn 5 Hydref 1998, gellid cynnwys babanod a phlant ar basbort rhiant neu warcheidwad. Yn unol â'r arfer rhyngwladol safonol ac fel rhagofal yn erbyn achosion o gipio plant, mae'n rhaid i blant bellach gael eu pasbortau eu hunain er mwyn teithio dramor.

Mae pasbort plentyn yn ddilys am bum mlynedd. Pan ddaw i ben, gallwch ei adnewyddu am bum mlynedd arall, ac ati.

Mae Cross & Stitch yn rhoi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i wneud cais am basbort plentyn neu ei adnewyddu. Fodd bynnag, os hoffech gael manylion llawn polisi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yng nghyswllt plant, gweler ’Polisi'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yng nghyswllt plant’.

Os yw eich plentyn eisoes ar eich pasbort

Cyn 5 Hydref 1998, gellid cynnwys plant ar basbort rhiant neu warcheidwad. Bydd unrhyw basbortau yn cynnwys plant wedi dod i ben ar 4 Hydref 2008 neu cyn hynny. Os oedd eich plentyn wedi'i gynnwys ar eich hen basbort, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • adnewyddu eich pasbort eich hun
  • gwneud cais am basbort plentyn cyntaf ar wahân ar gyfer unrhyw blant dan 16 oed

A yw eich plentyn yn rhy hen i gael pasbort plentyn?

Os yw eich plentyn dan 16 oed bydd angen pasbort plentyn arno i deithio dramor. Gall ddefnyddio'r pasbort hwn nes daw i ben. Er enghraifft, mae'n rhaid i blentyn 15 oed y mae angen pasbort arno wneud cais am basbort plentyn pum mlynedd. Caiff ddefnyddio'r pasbort hwn nes daw i ben, yn yr enghraifft hon, pan fydd y 'plentyn' yn 20 oed.

Pan fydd plentyn yn 16 oed, mae'n rhaid i'r pasbort nesaf y bydd yn gwneud cais amdano unwaith y bydd ei basbort cyfredol wedi dod i ben fod yn gais am adnewyddu pasbort oedolyn deg-mlynedd.

Dylai pobl ifanc 16 oed neu hŷn, sy'n gwneud cais am basbort am y tro cyntaf, wneud cais am basbort oedolyn.

Pobl nad ydynt yn preswylio yn y DU a’r rheini sydd y tu allan y DU dros dro

Os nad ydych yn byw yn y DU, gallwch chi'n bersonol wneud cais am basbort ar gyfer eich plentyn tra byddwch yn ymweld â'r DU.

Ni all y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau dderbyn ceisiadau sydd wedi'u hanfon o dramor. Os ydych chi am adnewyddu neu wneud cais am Basbort Prydeinig eich plentyn tra'ch bod yn byw dramor, rhaid i chi gysylltu â’ch is-genhadaeth, eich uchel gomisiwn neu eich llysgenhadaeth leol.

Amgylchiadau arbennig

Plant mewn gofal

Bydd angen i blant sydd mewn gofal neu wedi'u lleoli gyda rhieni maeth fodloni gofynion cyfreithiol ychwanegol cyn y gellir rhoi pasbort iddynt.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Basbort Ranbarthol neu ffonio Llinell Gymorth Pasbortau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000. Mae’r llinell ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Bydd canolfan gyswllt y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau fel arfer yn eich trosglwyddo i Swyddfa Basbort Ranbarthol.

Os ydych yn gwneud cais am basbort ar ran plentyn mewn gofal, gweler nodiadau cyfarwyddyd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar gyfer adrannau gwasanaethau cymdeithasol.

Plant sy'n gweithio dramor

Mae'n bosib y bydd angen trwydded Ynadon ar blant dan 16 oed sy'n bwriadu teithio dramor at ddibenion adloniant neu berfformio cyn y cânt fynd. Dylech ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i gael mwy o wybodaeth.

Gwneud cais am basbort plentyn cyntaf

I wneud cais am basbort plentyn cyntaf pum mlynedd, mae'n rhaid i'ch plentyn fod dan 16 oed ac yn un o'r canlynol:

  • yn ddinesydd Prydeinig
  • yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain
  • yn ddinesydd Prydeinig dramor

Bydd hefyd angen i rywun adlofnodi’r cais. Cofiwch y mae’n bosib y bydd angen i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gysylltu â nhw. Gwnewch yn siŵr y byddant ar gael ac nid ar wyliau. Caiff eich cais ei oedi os fyddant i ffwrdd.

Gall y rheolau fod yn gymhleth. Ceir mwy o wybodaeth fanwl yn 'Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig'.

Gallwch hefyd gysylltu â'ch Swyddfa Basbort Ranbarthol neu ffonio Llinell Gymorth Pasbortau 24 awr y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000 i gael cymorth.

Adnewyddu pasbort plentyn

Gallwch wneud cais i adnewyddu pasbort eich plentyn os yw ei basbort diwethaf yn dal gennych a bod y canlynol yn wir:

  • yr oedd yn basbort plentyn pum mlynedd safonol
  • nid yw wedi'i ddifrodi
  • does dim angen i chi newid ei enw na'i statws gwladol

Gallwch wneud cais i adnewyddu'r pasbort unrhyw adeg. Os oes unrhyw amser ar ôl ar yr hen basbort, bydd y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn ei ychwanegu at y pasbort newydd. Ni ellir ychwanegu mwy na naw mis.

Dylech bob amser adnewyddu'r pasbort os bydd:

  • yn llawn
  • wedi dod i ben

Os yw pasbort diwethaf y plentyn wedi mynd ar goll neu wedi'i ddifrodi, dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr adran 'Cael pasbort newydd yn lle un sydd ar goll, wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi'.

Camau nesaf - gwneud cais am basbort plentyn

I gael ffurflen gais, gweld beth yw'r ffi a chael gwybod pa ddogfennau ategol y bydd angen i chi eu darparu, dilynwch y ddolen isod.

Gwneud nodyn o rif y cod bar ar eich cais

Sicrhewch eich bod chi’n gwneud nodyn o rif y cod bar ar eich cais cyn i chi anfon eich cais i’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau drwy’r post. Bydd angen hwn arnoch os ydych am wneud ymholiadau ynghylch eich cais neu ddilyn hynt eich cais.

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gyngor Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gyngor ar agor:
- rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Archebu tystysgrifau ar-lein

Gwneud cais am dystysgrif geni, priodas a marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU