Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Grwpiau cenedligrwydd sy'n gymwys i gael pasbort Prydeinig

Rydych yn gymwys i gael pasbort Prydeinig os ydych yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain, yn ddinesydd Prydeinig (dramor), yn ddinesydd Prydeinig dramor, yn ddeiliad Prydeinig neu'n berson wedi'i warchod gan Brydain.

Mathau o ddinasyddiaeth Brydeinig

Cael rhagor o wybodaeth ynghylch cenedligrwydd a dinasyddiaeth

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cenedligrwydd a dinasyddiaeth Brydeinig, edrychwch ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU

Gallwch wneud cais am basbort Prydeinig os ydych yn un o'r canlynol:

  • Dinesydd Prydeinig
  • Dinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain
  • Dinesydd Prydeinig dramor
  • Deiliad Prydeinig
  • Dinesydd Prydeinig (dramor)
  • Person wedi'i amddiffyn gan Brydain

Os credwch eich bod yn gymwys drwy eich mam, eich partner neu o ganlyniad i ble rydych yn byw, dilynwch y ddolen isod.

Fisas os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig ond mae gennych basbort Prydeinig, efallai y bydd angen fisas ychwanegol arnoch sydd ddim eu hangen ar ddinasyddion Prydeinig.

I gael gwybod os oes angen fisa arnoch chi i ymweld â gwlad arall, dylech holi:

  • eich asiant teithio
  • is-genhedaeth neu lysgenhadaeth y wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd Prydeinig

Os cawsoch eich geni cyn 1 Ionawr 1983

Ar 1 Ionawr 1983, daethoch yn ddinesydd Prydeinig os oedd y canlynol yn gymwys:

  • roeddech yn ddinesydd y DU a'r Gwladfeydd ar 31 Rhagfyr 1982
  • yr oedd gennych yr 'hawl i breswylio' yn y DU

Ystyr 'hawl i breswylio' yw:

nad yw Rheolau Mewnfudo'r DU yn berthnasol i chi ac nad oes yn rhaid i chi gael caniatâd gan Swyddog Mewnfudo i ddod i'r DU

chewch fyw a gweithio yn y DU heb gyfyngiad

Mae hyn yn cynnwys pobl:

  • a gafodd eu geni yn y DU
  • a gafodd eu geni mewn Gwladfa Brydeinig gyda'r hawl i breswylio yn y DU
  • sydd wedi brodori yn y DU
  • a oedd wedi cofrestru fel dinesydd y DU a'r Gwladfeydd
  • a allai brofi tarddiad cyfreithiol o dad y mae un o'r rhain yn berthnasol iddo

Nid yw pobl a chanddynt yr hawl i fyw yn y DU ond nid yr 'hawl i breswylio' yn ddinasyddion Prydeinig.

Os cawsoch eich geni ar ôl 31 Rhagfyr 1982

Nid yw cael eich geni yn y DU yn rhoi dinasyddiaeth Brydeinig yn awtomatig i chi.

Os cawsoch eich geni ar ôl 31 Rhagfyr 1982, byddwch yn ddinesydd Prydeinig os oedd eich mam neu'ch tad* yn naill ai:

  • yn ddinesydd Prydeinig pan gawsoch eich geni
  • wedi 'setlo' yn y DU pan gawsoch eich geni

Yn y rhan fwyaf o achosion byddwch yn ddinesydd Prydeinig os cafodd eich mam neu'ch tad* eu geni yn y DU neu os gwnaethant frodori yno.

Ceir sefyllfaoedd eraill lle gellir trosglwyddo cenedligrwydd Prydeinig mam neu dad* i'w plant a gafodd eu geni dramor. Ffoniwch y Llinell Gymorth Pasbortau ar 0300 222 0000 os credwch fod hyn yn berthnasol i chi.

*Nodyn ar dadau

Tan fis Gorffennaf 2006, nid oedd tadau Prydeinig nad oeddent wedi priodi yn cael trosglwyddo eu cenedligrwydd Prydeinig.

Os cawsoch eich geni cyn hynny, dim ond os bydd eich tad wedi priodi eich mam y caiff drosglwyddo ei genedligrwydd Prydeinig. Nid oes gwahaniaeth os oeddent yn briod cyn neu ar ôl i chi gael eich geni.

Os cawsoch eich mabwysiadau neu’ch geni gan fam benthyg neu drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth

Am ragor o wybodaeth ynghylch gwneud cais am basbort os cafodd eich plentyn ei fabwysiadu, neu ei eni gan fam benthyg neu drwy driniaeth atgenhedlu â chymorth, gweler y ddolen isod.

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd yn un o diriogaethau tramor Prydain

Cyn Deddf Tiriogaethau Tramor Prydain 2002, cyfeiriwyd at ddinasyddion yn un o diriogaethau tramor Prydain fel dinasyddion yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain.

Mae dinasyddiaeth dinasyddion yn un o Diriogaethau Tramor Prydain yn deillio o gysylltiad â thiriogaeth sy'n dal i ddibynnu ar Brydain, fel Gibraltar neu Bermwda.

Gyda Deddf Tiriogaethau Tramor Prydain 2002, daeth y rhan fwyaf o bobl a chanddynt basbort Dinasyddion yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain yn ddinasyddion Prydeinig yn awtomatig. Dim ond i bobl lle'r oedd eu statws yn deillio o'u cysylltiad ag Akrotiri a Dhekelia yn Cyprus yn unig nad oedd hyn yn berthnasol iddynt.

Mae'r Ddeddf yn sicrhau dinasyddiaeth Brydeinig yn ogystal â dinasyddiaeth yn un o diriogaethau tramor Prydain.

Os oeddech yn Ddinesydd yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain a ddaeth yn Ddinesydd yn un o Diriogaethau Tramor Prydain ym mis Mai 2002, gallwch ddewis gwneud un o'r canlynol:

  • adnewyddu eich pasbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain i basbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Tramor Prydain
  • gwneud cais am basbort dinesydd Prydeinig

Pan ddaw eich pasbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Dibynnol Prydain i ben, gallwch wneud cais i'w adnewyddu fel pasbort Dinesydd yn un o Diriogaethau Tramor Prydain yn y ffordd arferol. Does dim rhaid i chi gael rhywun i adlofnodi'r ffurflen.

Os byddwch yn gwneud cais am basbort dinesydd Prydeinig, caiff ei drin fel cais am y tro cyntaf. Bydd angen i chi ddarparu ffurflen wedi'i hadlofnodi a dogfennau ategol gwreiddiol. Caiff eich pasbort cyfredol ei ddychwelyd atoch ac ni chaiff ei ganslo.

Dylech nodi ar eich cais p'un ai a ydych yn gwneud cais am basbort dinesydd Prydeinig neu basbort Dinesydd Prydeinig yn un o Diriogaethau Tramor Prydain.

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd Prydeinig dramor

Mae dinasyddion Prydeinig dramor yn bobl a chanddynt gysylltiad â chyn wladfa Brydeinig (fel Kenya) ac na ddaethant:

  • yn ddinasyddion y wlad honno pan ddaeth yn annibynnol
  • yn ddinasyddion Prydeinig

Sut mae gwybod os ydych yn ddeiliad Prydeinig

Yn gyffredinol, cafodd deiliaid Prydeinig eu geni cyn 1 Ionawr 1949 ac yr oedd ganddynt gysylltiad ag India Brydeinig neu â Gweriniaeth Iwerddon (De Iwerddon).

Sut mae gwybod os ydych yn ddinesydd Prydeinig (dramor)

Mae dinasyddion Prydeinig (dramor) yn gyn ddinasyddion yn un o diriogaethau dibynnol Prydain a chanddynt gysylltiad â Hong Kong.

Sut mae gwybod os ydych yn berson wedi'i amddiffyn gan Brydain

Mae'r rhain yn bobl a chanddynt gysylltiad â thiriogaethau a oedd yn arfer bod yn ddiffynwriaethau Prydeinig, yn wladwriaethau wedi'u hamddiffyn neu'n diriogaethau ymddiriedaeth.

Beth i’w wneud os nad ydych chi'n siŵr o hyd

Os nad ydych yn siŵr o hyd, fe gewch fwy o wybodaeth am Ddinasyddiaeth Brydeinig ar wefan Asiantaeth Ffiniau’r DU

Additional links

Angen cyngor ar basbortau?

I gael cymorth, ffoniwch Linell Gymorth Pasbortau’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau ar 0300 222 0000.

Mae’r Llinell Gymorth ar agor:
- rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
- rhwng 9.00 am a 5.30 pm ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus

Panel Terfysgoedd yn ceisio barnau

Mae panel annibynnol yn ceisio achosion terfysgoedd mis Awst

Allweddumynediad llywodraeth y DU