Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod o hyd i ardaloedd gwasanaethau traffordd yn Lloegr

Mae cymryd seibiant yn rheolaidd yn hanfodol ar gyfer teithio’n ddiogel. Dylech gymryd o leiaf 15 munud o seibiant am bob dwy awr o yrru. Ar deithiau hir, mae’n debyg y bydd angen i chi gael hoe mewn ardal wasanaethau. Yma, cewch wybod ble mae’r ardaloedd hyn a pha gyfleusterau y gallwch eu disgwyl yn y gwahanol fathau o ardaloedd gwasanaethau.

Map o ardaloedd gwasanaethau

Er mwyn eich helpu i gynllunio’ch taith, gallwch lwytho map oddi ar y we sy’n dangos lleoliad ardaloedd gwasanaethau yn Lloegr.

Beth sy'n debygol o fod mewn ardal wasanaethau

Bydd y cyfleusterau a fydd ar gael yn dibynnu ar p’un ai ydych yn cael hoe yn:

  • ardal gwasanaethau traffordd
  • ardal orffwys ar draffordd
  • ardal gwasanaethau cefnffordd wedi’i harwyddo

Ardaloedd gwasanaethau traffordd

Dylai ardal gwasanaethau traffordd fod ar agor 24 awr y dydd, pob dydd o’r flwyddyn, a dylent ddarparu’r canlynol:

  • maes parcio tymor byr ar gyfer pob math o gerbyd, a hynny am ddim
  • toiledau, cyfleusterau golchi dwylo a chyfleusterau newid clytiau babanod – i gyd am ddim
  • tanwydd
  • mynediad am hyd at ddwy awr ar gyfer unrhyw un sy’n trwsio’i gerbyd mewn argyfwng
  • ffôn talu
  • mynediad at yr holl gyfleusterau i bobl anabl

Ardaloedd gorffwys ar draffordd

Dylai ardaloedd gorffwys ar draffordd ddarparu:

  • maes parcio tymor byr ar gyfer pob math o gerbyd, a hynny am ddim
  • toiledau, cyfleusterau golchi dwylo a chyfleusterau newid clytiau babanod – i gyd am ddim
  • mynediad am hyd at ddwy awr ar gyfer unrhyw un sy’n trwsio’i gerbyd mewn argyfwng
  • ffôn talu
  • mynediad at yr holl gyfleusterau i bobl anabl

Ardaloedd gwasanaethau cefnffordd wedi'u harwyddo

Cefnffyrdd yw’r ffyrdd strategol pwysicaf yn y wlad. Dylai unrhyw ardal wasanaethau sydd wedi'i harwyddo o gefnffordd fod ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm bob dydd, heblaw am y canlynol:

  • Dydd Nadolig
  • Gŵyl San Steffan
  • Dydd Calan

Dylai ddarparu'r canlynol:

  • tanwydd
  • maes parcio tymor byr (isafswm o ddwy awr) am ddim
  • defnydd rhad ac am ddim o doiled a chyfleusterau golchi dwylo, ni waeth a ydych chi'n prynu rhywbeth ai peidio
  • mynediad at yr holl gyfleusterau i bobl anabl

Pwyntiau Gwybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd

Mae Pwyntiau Gwybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd yn cael crynodebau yn uniongyrchol o Ganolfan Rheoli Traffig Genedlaethol Lloegr sy’n rhoi'r manylion diweddaraf i chi ynghylch traffig ac amserau teithiau.

Caiff yr wybodaeth fyw am draffig ei harddangos ar sgriniau mawr mewn lleoliadau cyhoeddus ar y rhwydwaith draffyrdd yn Lloegr, neu gerllaw, gan gynnwys ardaloedd gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth a rhestr o leoliadau Pwyntiau Gwybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd gweler 'Cael gwybodaeth am draffig pan fyddwch ar grwydr’.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU