Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi eich cynlluniau gyrfa ar waith

Unwaith y byddwch wedi cael syniad o ble’r ydych am fynd gyda’ch gyrfa, mae’n bryd edrych ar sut rydych am gyrraedd yno. Mae’n bwysig meddwl sut rydych am gael y sgiliau a’r cymwysterau fydd eu hangen arnoch.

Pa sgiliau a chymwysterau fydd eu hangen arnoch

Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â sgiliau a chymwysterau da. Bydd datblygu eich sgiliau yn rhoi’r cyfle gorau i chi gael yr yrfa yr hoffech ei chael – ac mae mwy o gyrsiau i chi ddewis ohonynt nag erioed.

Eich dyfodol, eich dewisiadau

Bydd gennych benderfyniadau pwysig i’w gwneud ym Mlwyddyn 9 a phan rydych chi'n 16. Efallai nad ydych chi'n siŵr pa fath o yrfa yr hoffech ei dilyn, neu efallai eich bod yn gwybod yn union beth yr hoffech fod yn ei wneud mewn deng mlynedd.

Os oes gennych yrfa benodol mewn golwg, efallai y bydd rhai dewisiadau'n arbennig o ddefnyddiol. Bydd cynghorydd gyrfa neu Connexions yn gallu eich helpu i ddewis y pynciau a'r cymwysterau cywir ar gyfer y math o yrfa yr hoffech ei dilyn.

Os byddwch yn penderfynu mynd i weithio, mae’n syniad da chwilio am swydd gyda hyfforddiant. Mae prentisiaethau a’r cynllun Amser o’r Gwaith ar gyfer Astudio neu Hyfforddiant yn ddwy ffordd o gael cymhwyster tra’r ydych yn gweithio.

Os ydych yn chwilio am swydd, gall cynlluniau fel Mynediad at Waith eich helpu i feithrin eich sgiliau a gwella eich cyfleoedd.

Addysg uwch a’ch gyrfa

Gall addysg uwch a gradd gynnig cyfleoedd gyrfa newydd, ac mae llawer o wahanol ffyrdd tuag at gyrsiau prifysgol.

Rhoi hwb i gynllunio’ch gyrfa

Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am yrfaoedd. Cadwch lygad allan am ffeiriau a digwyddiadau – yn enwedig rhai sy’n canolbwyntio ar yrfa rydych yn ei hystyried. Cofiwch y gallwch fanteisio mwy arnynt os byddwch wedi paratoi ymlaen llaw. Bydd cynghorydd gyrfa yn gallu rhoi rhywfaint o awgrymiadau i chi ar sut i baratoi.

Gwella’ch rhagolygon cyflogaeth

Nid oes llawer o bobl yn cael eu swydd ddelfrydol ar y cynnig cyntaf. Os ydych chi'n chwilio am waith neu ar fin dechrau gweithio, a fyddai astudio pellach yn rhoi gwell siawns i chi? Beth am wneud rhywbeth yn eich amser hamdden sy’n gysylltiedig â’r yrfa yr hoffech ei chael?

Os ydych yn rhy hwyr yn cael eich lle ar gwrs ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf, byddai'n ddefnyddiol meddwl am yr hyn y gallwch ei wneud i wella eich rhagolygon am yrfa.

Mae’r opsiynau yn cynnwys cael swydd dros dro, gwirfoddoli neu gael rhywfaint o brofiad gwaith drwy fynd ar leoliad. Gallwch hefyd wneud ymchwil i weithgareddau blwyddyn fwlch.

Bydd dangos eich bod wedi ennill mwy o brofiad a gwella eich sgiliau tra'r oeddech yn ymgeisio am swyddi yn siŵr o wneud argraff dda ar gyflogwyr.

Hyblygrwydd gyrfa

Pan fyddwch yn barod i chwilio am swydd, mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried sut fath o waith fyddai’n addas i chi. A fyddwch yn chwilio am drefniadau hyblyg i’ch helpu gyda threfniadau astudio neu ofal plant, neu ydych chi'n hoff o'r syniad o weithio i chi eich hun?

Os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud nesaf yn ystod unrhyw gam, mae digon o help ar gael.

Allweddumynediad llywodraeth y DU