Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-daliadau i fyfyrwyr mewn addysg uwch sydd ar incwm isel

Gall myfyrwyr rhan-amser ar incwm isel a grwpiau penodol o fyfyrwyr amser llawn fod yn gymwys i gael budd-daliadau. Mae’r rhain yn cynnwys Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Yma cewch wybod beth y gallech ei gael.

Budd-daliadau a chymorth ariannol i fyfyrwyr

Mae budd-daliadau i fyfyrwyr yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol megis eich incwm ac unrhyw gynilion sydd gennych. Efallai na fyddwch yn gallu cael budd-daliadau os yw’r incwm a gewch chi drwy gyllid myfyrwyr yn rhy uchel.

Ble i fynd i gael cyngor

Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau ar sail incwm ac yn dymuno dechrau ar gwrs addysg uwch, dylech ofyn i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu adran Budd-dal Tai eich awdurdod lleol sut y bydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau.

Os ydych yn y brifysgol neu goleg yn barod, bydd cynghorwr myfyriwr yn gallu eich helpu i weithio allan os ydych yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau.

Pwy all hawlio budd-daliadau?

Myfyrwyr amser llawn

Nad yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yn gallu hawlio budd-daliadau ar sail incwm, efallai y gallwch hawlio dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych chi'n rhiant sengl
  • os oes gennych chi bartner sydd hefyd yn fyfyriwr - ac mae un neu'r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn
  • os oes gennych anabledd, a'ch bod yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd, premiwm anabledd difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

Os oes gennych bartner nad yw'n fyfyriwr, ond yn gymwys i gael unrhyw un o'r budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, caiff eich partner wneud cais ar ran y ddau ohonoch.

Myfyrwyr rhan-amser

Gall myfyrwyr rhan-amser wneud cais am fudd-daliadau ar sail incwm os ydynt ar incwm isel ac yn bodloni'r amodau perthnasol.

Pa fudd-daliadau ar sail incwm allwch chi eu cael?

Dyma rai o'r budd-daliadau ar sail incwm y gallech eu hawlio:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol
  • Budd-dal Treth Gyngor

I gael gwybod mwy, dilynwch y dolenni isod.

Pa fenthyciadau myfyrwyr a grantiau sy'n cyfri fel incwm?

Wrth i chi gyfrifo a ydych chi'n gymwys i gael budd-daliadau ar sail incwm a chithau'n fyfyriwr, bydd rhai mathau o gyllid myfyrwyr yn cyfri fel incwm.

Lwfans Ceisio Gwaith

Myfyrwyr amser llawn

Os ydych chi’n astudio amser llawn, mae'n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith dros wyliau'r haf os yw yn o’r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi'n rhiant sengl sy’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc
  • os oes gennych chi bartner sydd hefyd yn fyfyriwr amser llawn, ac mae un neu'r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc

Mae hefyd angen i chi fod ar gael ac wrthi'n chwilio am waith

Efallai y gallwch hefyd hawlio os ydych chi'n aros i fynd yn ôl ar gwrs, a chithau wedi cael seibiant y cytunwyd arno am gyfnod hyd at un flwyddyn oherwydd salwch neu gyfrifoldeb gofalu sydd erbyn hyn wedi dod i ben.

Myfyrwyr rhan-amser

Os ydych chi’n astudio rhan-amser, mae'n bosibl i chi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych chi:

  • yn ddi-waith neu'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • yn gallu gweithio
  • ar gael i weithio
  • wrthi'n chwilio am waith
  • o dan yr oed ymddeol

Fel arfer, mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn. Bydd yn rhaid i chi fod yn fodlon mynd am gyfweliad am swydd, hyd yn oed os bydd hyn yn golygu cymryd amser o'ch cwrs. Dylech fod yn barod hefyd i aildrefnu'ch oriau astudio i gyd-fynd â'ch swydd.

Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau

Ffynonellau o gymorth i bobl sydd â salwch neu anabledd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio yw’r Budd-dâl Analluogrwydd a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os ydych yn hawlio un o’r budd-daliadau hyn eisoes, mae'n bosib i chi barhau i'w dderbyn fel myfyriwr.

Gweler ‘Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr anabl’ i gael mwy o wybodaeth. Gallwch hefyd gael cyngor gan Swyddog Anabledd neu Swyddog Gwasanaethau Myfyrwyr eich coleg neu'ch prifysgol.

Cymorth eraill

Credyd Treth Gwaith

Os ydych yn gweithio ac yn naill ai’n fyfyriwr amser llawn neu ran-amser, mae’n bosib y gallech hawlio Credyd Treth Gwaith.

Os ydych yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith, ni fyddwch yn gallu hawlio’r Grant Gofal plant hefyd.

Credyd Treth Plant

Mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Credyd Treth Plant os ydych chi'n fyfyriwr ac yn gyfrifol am blentyn. Gellir cael cyfraddau uwch os:

  • oes gennych fwy nag un plentyn
  • yw eich plentyn yn anabl

Y dreth gyngor a myfyrwyr amser llawn

Mae'n bosibl y caiff myfyrwyr amser llawn eu heithrio rhag talu'r Dreth Cyngor, neu gallant fod yn gymwys i gael gostyngiad yn eu bil Treth Cyngor. Holwch eich awdurdod lleol sut i hawlio, yna gofynnwch i'ch coleg neu'ch prifysgol gyflwyno tystiolaeth o'ch statws myfyriwr amser llawn.

Mwy am gyllid myfyrwyr

Gallwch gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael drwy gyllid myfyrwyr - gan gynnwys grantiau, benthyciadau myfyrwyr a bwrsarïau - drwy ddilyn y ddolen isod sy'n berthnasol i chi.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU