Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Datblygu sgiliau mathemateg plant rhwng pump ac 11 oed

Mae rhai plant yn meithrin gwell dealltwriaeth o rifau nag eraill. Gallwch gefnogi'ch plentyn yn yr ystafell ddosbarth drwy roi cyfle iddyn nhw gael blas ar brofi cysyniadau rhifau pan fyddant gartref.

Datblygu sgiliau mathemateg mewn bywyd bob dydd

Mae dysgu llwyddiannus yn dibynnu ar gael sgiliau datrys problemau a meddwl yn rhesymegol yn ogystal â'r gallu i ddarllen ac ysgrifennu.

Bydd plant ysgol gynradd yn cael gwers fathemateg bob dydd, ond mae dangos iddyn nhw pa mor ddefnyddiol yw sgiliau rhif ym mhopeth bron y maen nhw'n ei wneud yn ffordd hawdd o roi hwb i'w sgiliau a'u cymhelliant.

Gall gwneud pethau fel hyn fod yn hwyl i blant:

  • mesur pa mor dal ydyn nhw a gweld faint maen nhw wedi tyfu
  • ar daith mewn car - chwarae gemau gyda rhifau ceir, adio a thynnu gydag arwyddion ffordd, meddwl am gyflymder drwy rannu'r pellter ag amser
  • wrth siopa - pwyso ffrwythau a llysiau, cyllidebu gydag arian poced, cyfrifo beth yw gwerth cymharol y cynnyrch drwy gymharu prisiau a phwysau
  • yn y gegin - wrth bwyso a mesur, a gyda thymheredd neu amseru
  • gwneud modelau a siapiau origami

Datrys y broblem, meddwl yn drefnus

Gwnewch gêm o roi problemau bach i'ch plentyn a gadael iddyn nhw eu rhesymu, gan roi cyn lleied o help ag y gallwch chi. Er enghraifft, wrth goginio gofynnwch iddyn nhw faint o gynhwysion fydd eu hangen os dyblir y rysáit. Canmolwch eich plentyn am roi cynnig arni, hyd yn oed os nad ydynt yn llwyddo i ddatrys y broblem neu os byddant yn cael yr ateb yn anghywir.

Mae profiadau a darganfyddiadau newydd bob tro'n ysgogi plant, a does dim rhaid iddynt fod yn ddrud nac yn gymhleth:

  • wrth fynd am dro yn y wlad, ceisiwch gasglu dail â gwahanol siâp, chwilio am bryfed neu olion anifeiliaid gwyllt, a meddwl pam fod metel yn rhydu neu pam fod cen yn tyfu ar un ochr i goeden
  • rhowch syniad i'ch plentyn sut mae darllen map drwy ddefnyddio atlas ffyrdd neu fap o'ch ardal
  • ar eich gwyliau, byddwch yn ymwybodol o'r holl bethau sy'n wahanol i bethau gartref - adeiladau, acenion ac ieithoedd, dillad, bwyd, arferion, ac yn y blaen
  • ewch ati i gael gwybod a oes clybiau yn eich ardal chi a fyddai o ddiddordeb i'ch plentyn - holwch yn eich llyfrgell neu'ch canolfan hamdden leol am wybodaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU