Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno wrth ysgol eich plentyn

Os oes gan eich plentyn broblem yn yr ysgol, fe ddylech allu ei datrys drwy gael sgwrs anffurfiol gyda'r athro/athrawes. Os na allwch ddatrys problem mewn modd anffurfiol, dylai fod gan yr ysgol drefn gwyno ffurfiol i chi ei dilyn.

Cysylltu ag ysgol eich plentyn

Os ydych chi'n poeni am unrhyw beth sy'n ymwneud â dysgu neu les eich plentyn yn yr ysgol, athro/athrawes dosbarth eich plentyn neu bennaeth y flwyddyn yw'r person gorau i gysylltu ag ef/hi gyntaf. Fel arfer, bydd athrawon yn yr ystafell ddosbarth yn ystod y dydd, ond cewch adael neges gyda swyddfa'r ysgol yn gofyn i'r athro/athrawes gysylltu â chi.

Os na all yr athro/athrawes helpu, neu os nad ydych chi'n fodlon ar eu hymateb, gallwch siarad â'r pennaeth. Dylech allu trefnu cyfarfod neu sgwrs dros y ffôn gyda'r pennaeth drwy gyfrwng swyddfa'r ysgol. Os nad yw hyn yn ymarferol, efallai y byddwch yn dymuno gwneud cwyn ysgrifenedig.

Cwyno wrth y corff llywodraethu

Os nad oes modd datrys eich cwyn, y cam nesaf yw mynd at gorff llywodraethu'r ysgol. Rhaid i bob ysgol a noddir gan y wladwriaeth fod â threfn i ddelio ag unrhyw gwynion am yr ysgol, neu unrhyw gyfleusterau neu wasanaethau a ddarperir gan yr ysgol ar gyfer y gymuned leol.

Os ydych chi'n dymuno cwyno wrth y corff llywodraethu, gofynnwch i'r ysgol am gopi o'i threfn gwyno. Rhaid i'r holl gwynion a wneir i'r corff llywodraethu fod yn ysgrifenedig.

Cwyno wrth eich awdurdod lleol

Efallai y bydd ambell i drefn yn caniatáu cam ychwanegol os bydd yr awdurdod lleol, y Corff Esgobaethol (ar gyfer ysgolion Eglwys Lloegr neu ysgolion Catholig) neu asiantaeth allanol arall yn darparu apêl neu adolygiad annibynnol. Mae gofyn hefyd i awdurdodau lleol sefydlu gweithdrefn sy'n delio â rhai mathau arbennig o gwynion, er enghraifft, cwynion am y cwricwlwm neu am addoli ar y cyd mewn ysgol.

Cwyno wrth yr Ysgrifennydd Gwladol

Os ydych chi'n credu bod corff llywodraethu eich ysgol neu eich awdurdod lleol yn ymddwyn yn 'afresymol', gallwch ysgrifennu i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg. Ymdrinnir â chwynion i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran Addysg y llywodraeth.

Dylai hwn fod y cam olaf un, a dylech nodi yn eich llythyr y camau yr ydych eisoes wedi'u cymryd i ddatrys y broblem. Fel arfer ni fydd yr Adran Addysg yn gallu ymchwilio i'ch cwyn fel rheol os nad yw'ch plentyn bellach yn mynd i'r ysgol lle bu'r digwyddiad.

Cwyno wrth Ofsted

Mae gan Ofsted y grym i ymchwilio i rai mathau o gwynion gan rieni er mwyn eu helpu i benderfynu a ddylid cynnal arolwg mewn ysgol ai peidio - er y dylech godi unrhyw broblemau gyda'r ysgol yn gyntaf yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae'r mathau o gwynion y gall Ofsted ymateb iddynt yn cynnwys:

  • pan nad yw'r ysgol yn darparu addysg ddigon da
  • pan nad yw'r disgyblion yn cyflawni cymaint ag y dylent, neu nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu
  • pan nad yw'r ysgol yn cael ei rheoli na'i harwain yn dda, neu ddim yn defnyddio'i hadnoddau'n effeithiol
  • pan mae datblygiad a lles personol y disgyblion yn cael eu hesgeuluso

Wrth ystyried cwyn, gall Ofsted ofyn i'r ysgol neu'r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth, neu ofyn i'r ysgol drefnu cyfarfod gyda rhieni er mwyn cael eu barn.

Gall Ofsted gofnodi pryderon rhieni hefyd, er mwyn eu hystyried yn ystod arolygiad nesaf yr ysgol.

Pan fydd cwyn yn un ddifrifol iawn, gall Ofsted drefnu arolygiad o'r ysgol yn syth.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch linell gymorth Ofsted ar 08456 40 40 45 neu dilynwch y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU