Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor ar brynu cerbyd

Gall y cyngor canlynol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) helpu i leihau'r risg o brynu cerbyd sydd wedi'i ddwyn. Dyma rai awgrymiadau i'w hystyried, ond eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y penderfyniad terfynol. Mynnwch wybod beth y dylech chwilio amdano wrth brynu cerbyd ail-law.

Cyflwyno tystysgrif gofrestru (V5C) goch newydd

Mae'r DVLA yn cyflwyno tystysgrif gofrestru (V5C) goch newydd yn lle pob tystysgrif V5C las ar gyfer pob cerbyd erbyn mis Tachwedd 2012. Rhaid i chi ddefnyddio eich V5C newydd bob tro y byddwch yn delio â'r DVLA yn y dyfodol neu wrth dalu treth cerbyd mewn un o ganghennau Swyddfa'r Post®.

Gan bwyll, brynwyr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa gwestiynau i'w gofyn am y canlynol:

  • y gwerthwr a'i gefndir
  • y dystysgrif gofrestru (V5C) a'i dilysrwydd
  • manylion a tharddiad y cerbyd

Os bydd gennych amheuon, dilynwch eich greddf. Peidiwch â gadael i'r gwerthwr roi pwysau arnoch i brynu cerbyd, os yw'r cynnig yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, y tebyg yw na fydd yn gynnig da.

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu i benderfynu. Gallwch argraffu'r rhestr wirio a mynd â hi gyda chi i'ch atgoffa o'r hyn y dylech chwilio amdano wrth brynu cerbyd.

Cam 1: Cyn gweld y cerbyd

Fideo: Gan bwyll, brynwr

Awgrymiadau defnyddiol a chyngor ar y gwiriadau i'w gwneud

Dyma rai pethau i'w hystyried cyn i chi weld y cerbyd:

  • gofynnwch i'r gwerthwr ai ef yw'r ceidwad cofrestredig a threfnwch i weld y cerbyd yng nghyfeiriad y ceidwad cofrestredig
  • gofynnwch i'r gwerthwr am rif cofrestru, gwneuthuriad a model y cerbyd
  • gofynnwch i'r gwerthwr am ddyddiad dod i ben y disg treth, a rhif y prawf MOT
  • ceisiwch ganfod a oes unrhyw arian yn ddyledus ar y cerbyd neu a yw wedi'i ddwyn neu os yw mewn cyflwr anadferadwy

Dilynwch y ddolen isod am fanylion cwmnïau a fydd yn cadarnhau'r wybodaeth hon i chi.

Cam 2: Gwirio tystysgrif cofrestru'r (cerbyd V5C)

Gall lladron newid ymddangosiad cerbyd sydd wedi'i ddwyn a'i waith papur i'w gwneud i edrych yn ddilys (gelwir hyn yn 'clonio').Gallant hefyd ffugio dogfennau.

Daliwch y V5C o dan y golau - dylai fod dyfrnod 'DVL' arno.

Cofiwch, nid yw'r V5C yn brawf o bwy yw'r perchennog. Gwnewch yn siŵr bod gan y gwerthwr yr hawl i werthu'r cerbyd a bod y dystysgrif V5C las yn cyfateb i fanylion y cerbyd a'r holl ddogfennaeth arall a ddarparwyd.

Byddwch yn wyliadwrus o dystysgrifau V5C sydd wedi'u dwyn. Os oes gan y gwerthwr V5C â rhif cyfresol sydd o fewn yr amrediadau hyn, peidiwch â phrynu'r cerbyd. Cysylltwch â'r heddlu pan fydd yn ddiogel i chi wneud hynny:

  • BG8229501 i BG9999030
  • BI2305501 i BI2800000

Mae'r rhif cyfresol mewn cylch gwyn ar gornel dde uchaf y V5C.

Peidiwch â phrynu'r cerbyd os byddwch yn credu bod y rhif cyfresol wedi'i newid, neu os bydd rhan o'r V5C ar goll.

Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r V5C. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Cam 3: Gwirio manylion y cerbyd

Cofiwch

Peidiwch â phrynu'r cerbyd os yw'r VIN wedi'i newid neu os yw ar goll

Cyn prynu cerbyd, gwnewch yn siŵr bod y VIN a rhif yr injan yn cyfateb i'r rhifau ar y V5C. Mae'r dolenni ar waelod y dudalen hon yn rhoi cyngor ar y gwiriadau pwysig eraill y dylech eu gwneud. Peidiwch â gwneud penderfyniad hyd nes y byddwch wedi cwblhau'r gwiriadau perthnasol i gyd.

Rhestr wirio ar gyfer prynu cerbyd ail-law

Argraffwch y rhestr wirio ac ewch â hi gyda chi i'ch atgoffa o'r hyn y dylech chwilio amdano wrth brynu cerbyd.

Cofiwch, os oes gennych unrhyw amheuon, peidiwch â'i brynu. Os byddwch yn prynu cerbyd sydd wedi'i glonio, gallech golli'r cerbyd a'r arian y byddwch yn ei dalu amdano.

Am fwy o gyngor ar ddiogelu eich hun rhag sgamiau modurol, dilynwch y dolenni isod:

Am gyngor ar beth i'w wneud os credwch fod manylion eich cerbyd presennol wedi'u defnyddio i glonio cerbyd arall, dilynwch y ddolen isod:

Nid yw'r DVLA na Cross & Stitch yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw faterion sy'n deillio o gysylltu â'r dolenni canlynol na chynnwys gwefannau trydydd parti. Nid yw'r DVLA na Cross & Stitch yn cymeradwyo unrhyw un o'r sefydliadau hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU