Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i baratoi ar gyfer eich prawf theori

Er mwyn paratoi ar gyfer eich prawf theori, dylech astudio’r ffynonellau gwybodaeth, gan gynnwys yr hyn sydd ar gael yn adran moduro Cross & Stitch. Yma, cewch weld pa wybodaeth sydd ar gael, a chael gwybod sut y dylech chi fynd ati i’w defnyddio er mwyn paratoi ar gyfer eich prawf.

Y rhan amlddewis

Er mwyn paratoi ar gyfer rhan amlddewis y prawf, dylech edrych at y ‘ffynonellau gwybodaeth’. Mae’r rhain yn cynnwys Rheolau’r Ffordd Fawr, Know your traffic signs a llyfr ‘essential skills’ yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

Rheolau'r Ffordd Fawr

Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban. Mae llawer o'r rheolau yn ofynion cyfreithiol, ac os byddwch yn anufuddhau i'r rheolau hyn byddwch yn cyflawni trosedd

Adnabod arwyddion traffig

Mae arwyddion traffig yn hollbwysig gan eu bod yn rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth i ddefnyddwyr ffordd, ac yn rheoli eu hymddygiad hefyd. Felly, mae eich gallu i adnabod arwyddion traffig yn hanfodol.

Y gyfres o lyfrau sgiliau hanfodol (‘essential skills’)

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn cynhyrchu llyfrau yn y gyfres ‘essential skills’. Maent yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei ddysgu am sgiliau yrru neu reidio’n ddiogel ar hyd eich oes.
Gallwch eu prynu yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau ar y stryd fawr. Gellir hefyd eu harchebu ar-lein neu dros y ffôn gan y Llyfrfa.

Darllen gwybodaeth ar Cross & Stitch

Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar Cross & Stitch i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich prawf.

Rhoi cynnig ar gwestiynau amlddewis ar-lein

Gallwch roi cynnig ar ran amlddewis y prawf theori ar-lein er mwyn profi eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r ffynonellau gwybodaeth.

Y rhan adnabod peryglon

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi creu DVD hyfforddi ar gyfer y prawf adnabod peryglon, sef 'The official guide to hazard perception'.

Gallwch ei brynu yn y rhan fwyaf o siopau llyfrau ar y stryd fawr. Gellir hefyd ei archebu ar-lein neu dros y ffôn gan y Llyfrfa.

Mae’r DVD yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • diffinio peryglon
  • chwilio am gliwiau
  • y drefn ‘drychau – arwydd – symud’
  • sylwi a chynllunio
  • blaenoriaethu peryglon
  • lleihau’r risg
  • ymateb i beryglon

Mae'r DVD hefyd yn cynnwys nifer o glipiau fideo rhyngweithiol, sy'n rhoi enghraifft o adnabod peryglon.

Additional links

Dechreuwch adolygu ar gyfer eich prawf theori nawr

Llwythwch y cynnyrch prawf theori DSA swyddogol – y profiad agosaf at y prawf iawn

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU