Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

A oes angen i chi sefyll prawf gyrru theori?

Os ydych chi'n yrrwr dan hyfforddiant, rhaid i chi sefyll a phasio'ch prawf theori cyn trefnu eich prawf ymarferol. Os oes gennych chi drwydded yrru eisoes, efallai na fydd angen i chi sefyll prawf theori arall os ydych chi'n dymuno gyrru cerbyd o fath gwahanol.

Deiliaid trwydded y DU

Bydd angen i chi sefyll prawf theori os ydych chi am gael trwydded ar gyfer categori cerbyd newydd, er enghraifft, os oes gennych chi drwydded car ac yn dymuno cael trwydded beic modur, bydd angen i chi sefyll prawf theori.

Fodd bynnag, os ydych chi'n dymuno uwchraddio categori cerbyd, ni fydd angen i chi sefyll prawf theori fel rheol, er enghraifft, nid oes raid i chi sefyll prawf theori os oes gennych chi drwydded car awtomatig lawn ac yn dymuno'i newid am drwydded trawsyriant gyda llaw.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych chi'r drwydded gywir ar gyfer y cerbyd rydych chi'n ei yrru. Os nad ydych chi'n sicr a oes angen i chi sefyll prawf theori ai peidio, cysylltwch â'r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA).

Deiliaid trwydded dramor

Os oes gennych chi drwydded ddilys o'r Gymuned Ewropeaidd a'ch bod yn ymweld â Gwledydd Prydain, fe gewch chi yrru unrhyw gerbyd os yw eich trwydded yn ddilys. Rhaid bod gennych hawl lawn i yrru'r cerbyd dan sylw a hynny wedi'i ddangos ar eich trwydded.

Gwledydd AEE yw'r rhai canlynol:

Yr Almaen, Awstria, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gweriniaeth Cyprus, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, Iwerddon, yr Iseldiroedd, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, y Weriniaeth Tsiec

Y tu allan i Ewrop

Os oes gennych chi drwydded yrru lawn wedi'i rhoi o'r tu allan i AEE, mae'n bosibl ei chyfnewid am drwydded Brydeinig gyfatebol. Dylech gysylltu â'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i ganfod a allwch chi gyfnewid eich trwydded dramor.

Os na allwch chi gyfnewid eich trwydded dramor, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded Brydeinig dros dro a sefyll prawf theori a phrawf ymarferol.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Dechreuwch adolygu ar gyfer eich prawf theori nawr

Llwythwch y cynnyrch prawf theori DSA swyddogol – y profiad agosaf at y prawf iawn

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU