Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Clampio olwynion cerbydau heb eu trethu

Rhaid trethu pob cerbyd a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig os yw'n cael ei ddefnyddio neu'n cael ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Os caiff y cerbyd ei gadw oddi ar y ffordd, mae’n rhaid iddo naill ai gael ei drethu neu mae’n rhaid cael HOS (Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol) mewn grym. Os na wneir hyn, gallai’r cerbyd gael ei symud neu glampio ei olwynion.

Gallech golli eich cerbyd

Rhaid talu'n ddrud i ryddhau'ch cerbyd. Os na fyddwch yn talu i dynnu'r clampiau oddi ar eich cerbyd o fewn 24 awr, bydd DVLA yn rhoi eich cerbyd dan glo ac os na fydd y cerbyd yn cael ei hawlio mae'n bosib y caiff ei waredu ar ôl saith niwrnod.

Cwmnïau clampio olwynion

Mae DVLA yn gweithio mewn partneriaeth â VEAS (Vehicle Enforcement and Ancillary Services) sy’n rhedeg y cynllun clampio olwynion, a chyda nifer o awdurdodau lleol a heddluoedd sy’n gweithredu cynlluniau clampio olwynion lleol yn eu hardaloedd.

Sut mae’n gweithio

Mae gan faniau clampio sy'n patrolio'r strydoedd dechnoleg darllen platiau rhif yn awtomatig (ANPR). Mae camerâu ar y to yn darllen platiau rhif y cerbydau sydd wedi’u parcio ar ochr y ffordd. Mae’r platiau rhif yn cael eu gwirio yn erbyn rhestr o gerbydau heb dreth ac mae rhifau'r rhai a ganfyddir yn cael eu cadarnhau yn erbyn cofrestr cerbydau’r DVLA. Wedyn mae’r cerbyd heb dreth yn cael ei glampio neu ei gludo ymaith a'i roi dan glo ar ôl 24 awr (neu yn syth mewn rhai achosion).

Rhyddhau cyn pen 24 awr

I ryddhau’ch cerbyd bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • talu ffi rhyddhau o £100
  • cyflwyno disg treth ddilys

Os na allwch ddarparu disg treth, bydd angen i chi dalu ernes (blaendal) yn ei lle. Mae hwn yn £160 ar gyfer car neu feic modur a hyd at £700 ar gyfer cerbydau eraill.

Cewch yr ernes yn ôl pan fyddwch yn trethu’ch cerbyd ac yn cael disg treth ddilys. Os na fyddwch yn darparu disg treth o fewn pythefnos, byddwch yn colli’r ernes a gallai eich cerbyd gael ei glampio dro ar ôl tro.

Rhyddhau ar ôl 24 awr

I ryddhau’ch cerbyd, bydd angen i chi dalu ffi o £200 ac unrhyw daliadau storio o £21 y diwrnod yn ogystal â chyflwyno disg treth ddilys neu ernes.

Os mai chi yw ceidwad cofrestredig y cerbyd, bydd DVLA yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu bod eich cerbyd wedi ei roi dan glo ac y byddant yn cael gwared arno oni fydd yr holl ffioedd yn cael eu talu.

Gallech hefyd gael eich erlyn gyda dirwyon o hyd at £1,000 yn ogystal â gorfod talu unrhyw ôl-ddyledion ar eich treth cerbyd a chostau.

Bydd unrhyw gerbydau na fyddant wedi eu hawlio yn cael eu malu ar ôl saith niwrnod. Bydd cerbydau sydd â gwerth economaidd yn cael eu dinistrio ar ôl 14 diwrnod. Bydd unrhyw gerbyd sydd â gwerth sylweddol yn cael ei ailwerthu mewn ocsiwn.

Hawl apelio

Mae gennych hawl apelio: cewch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU