Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhwymedigaethau cyflogwyr o ran pensiwn y gweithle

Caiff pob gweithiwr sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ei gofrestru ar gyfer pensiwn y gweithle. Mynnwch wybod beth mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud yn ôl y gyfraith, beth y gall ddewis ei wneud a beth na ddylai ei wneud.

Beth mae'n rhaid i gyflogwyr ei wneud yn ôl y gyfraith

Rhaid i'ch cyflogwr eich hysbysu'n ysgrifenedig pa un a ydych yn cael eich cofrestru ar gyfer pensiwn y gweithle ai peidio. Bydd pryd y cewch eich cofrestru yn dibynnu ar faint y sefydliad rydych yn gweithio iddo. Cyflogwyr mawr iawn sy'n cofrestru gweithwyr gyntaf, ddiwedd 2012 a dechrau 2013. Bydd cyflogwyr eraill yn dilyn rywbryd wedi hyn, dros gyfnod o sawl blwyddyn. Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o'r union ddyddiad yn agosach at yr amser

Os byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig, rhaid i'ch cyflogwr eich hysbysu'n ysgrifenedig o'r canlynol:

  • dyddiad eich cofrestriad
  • y cynllun pensiwn y cewch eich cofrestru ar ei gyfer
  • faint fydd yn cael ei dalu i'ch pensiwn (fel canran o'ch cyflog neu fel swm)
  • sut y gallwch eithrio o'r pensiwn, os byddwch am wneud hynny

Rhaid i'ch cyflogwr hefyd wneud y canlynol:

  • derbyn eich cais i ymuno â phensiwn y gweithle, os byddwch wedi eithrio neu atal eich taliadau yn y gorffennol - rhaid i'ch cyflogwr dderbyn eich cais unwaith mewn cyfnod o 12 mis ond gall ddewis derbyn ceisiadau pellach os bydd am wneud hynny
  • eich ailgofrestru ar gyfer y pensiwn yn rheolaidd (bob tair blynedd fel arfer), os byddwch yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ac nad ydych yn aelod o gynllun pensiwn y gweithle
  • talu eich cyfraniadau'n brydlon, i bwy bynnag sy'n cynnal eich cynllun pensiwn

Os ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle, rhaid i'ch cyflogwr gadarnhau'n ysgrifenedig bod y pensiwn yn cyrraedd safonau newydd y llywodraeth.

Os nad ydych yn cael eich cofrestru ac nad ydych eisoes yn rhan o gynllun pensiwn y gweithle, rhaid i'ch cyflogwr wneud y canlynol:

  • egluro'n ysgrifenedig bod gennych hawl i ymuno â chynllun pensiwn y gweithle
  • egluro sut y gallwch ymuno â'r cynllun hwnnw.

Os byddwch yn gofyn i'ch cyflogwr am gael ymuno â chynllun pensiwn, mae'n bosibl y bydd hawl gennych i gael cyfraniad eich cyflogwr. Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o hyn.

Os bydd eich cyflogwr yn cau ei gynllun pensiwn, rhaid iddo gofrestru pob aelod ar gyfer cynllun pensiwn arall ar unwaith.

Os nad ydych yn aelod o gynllun pensiwn y gweithle mwyach oherwydd camgymeriad gan eich cyflogwr, rhaid iddo eich ailgofrestru ar unwaith.

Beth y gall cyflogwyr ddewis ei wneud

Gohirio

Gall cyflogwyr ohirio'r dyddiad y byddant yn eich cofrestru ar gyfer pensiwn, hyd at dri mis o'r terfyn amser a roddwyd iddynt gan y llywodraeth.

Os bydd y pensiwn yn gynllun budd diffiniedig neu'n gynllun pensiwn hybrid, a bod gennych hawl ar hyn o bryd i ymuno â chynllun pensiwn eich cyflogwr, gall eich cyflogwr ohirio'r broses gofrestru am sawl blwyddyn.

Os bydd eich cyflogwr yn gohirio'r broses, rhaid iddo eich hysbysu'n ysgrifenedig. Os hoffech ymuno â chynllun pensiwn eich gweithle yn y cyfamser, rhaid i'ch cyflogwr dderbyn eich cais.

Aberthu cyflog

Gall cyflogwyr ddefnyddio trefniadau 'aberthu cyflog'. Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno ar y trefniant hwn. Byddwch yn aberthu rhan o'ch cyflog a bydd eich cyflogwr yn talu'r swm hwn i mewn i'ch cronfa bensiwn yn lle hynny. Fe'i gelwir hefyd yn drefniant 'cyfnewid cyflog' neu'n 'gynllun SMART'.

Beth na all cyflogwyr ei wneud

Mae'r gyfraith newydd yn dynodi rhai pethau penodol na all cyflogwyr eu gwneud. Ni all cyflogwyr wneud y canlynol:

  • ceisio annog neu orfodi gweithwyr i eithrio o gynllun pensiwn y gweithle
  • awgrymu yn ystod y broses recriwtio mai dim ond os bydd y gweithiwr yn eithrio allan o gynllun pensiwn y gweithle y gellir cyflogi gweithiwr
  • diswyddo gweithiwr neu ei drin yn annheg am iddo benderfynu aros yng nghynllun pensiwn y gweithle

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut y mae’ch cyflogwr yn delio â’ch cofrestriad awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle, dylech ei riportio i’r Rheoleiddiwr Pensiynau. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a oes angen riportio eich pryderon dylech ffonio’r Rheoleiddiwr Pensiynau ar 0845 600 7060 neu anfon e-bost atynt at:

wb@tpr.gov.uk

Beth y dylech ei wneud os nad ydych am fod yn rhan o gynllun pensiwn eich cyflogwr

Gallwch eithrio. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr eich hysbysu'n ysgrifenedig sut i wneud hyn.

Yr isafswm y mae'n rhaid ei dalu i mewn i'ch pensiwn y gweithle

Fel arfer cyfrifir y symiau i'w talu gennych chi, eich cyflogwr a'r llywodraeth (rhyddhad treth) fel canran o'ch enillion. Bydd eich cyflogwr yn eich hysbysu o'r symiau hyn. Mae'r llywodraeth wedi pennu isafsymiau ar gyfer cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Yr isafswm y mae'n rhaid ei gyfrannu at ei gilydd

Mae'r llywodraeth wedi pennu canran ofynnol y mae'n rhaid ei chyfrannu i'ch pensiwn y gweithle at ei gilydd. Mae'n cynnwys eich cyfraniad chi, cyfraniad eich cyflogwr a'r rhyddhad treth, gyda'i gilydd. Bydd yr isafswm yn dechrau ar ddau y cant ac yn codi i wyth y cant dros y blynyddoedd nesaf.

Yr isafswm y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei gyfrannu

Fel rhan o'r ganran gyffredinol, mae'r llywodraeth hefyd wedi pennu canran ofynnol y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei chyfrannu. Bydd hyn yn dechrau ar un y cant ac yn codi i dri y cant dros y blynyddoedd nesaf.

Nid yw'r canrannau gofynnol hyn yn berthnasol i'ch cyflog cyfan. Maent yn berthnasol i'r hyn rydych yn ei ennill dros isafswm (£5,564 ar hyn o bryd) hyd at uchafswm (£42,475 ar hyn o bryd). Gelwir hyn weithiau yn 'enillion cymwys'.

Felly er enghraifft, i rywun sy'n ennill £18,000 y flwyddyn, cyfrifir y canrannau gofynnol yn seiliedig ar y gwahaniaeth rhwng £18,000 a £5,564, sef £12,436.

Cyfrannu mwy na'r isafswm

Gall eich cyflogwr ddewis talu mwy na'r isafswm gofynnol i mewn i'ch pensiwn y gweithle. Os felly, gallwch ddewis lleihau eich cyfraniad chi. Ond rhaid i'r cyfraniad cyffredinol gyrraedd y lefel ofynnol a bennir gan y llywodraeth o hyd. Gallwch hefyd ddewis cynyddu eich cyfraniad chi.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU